成人快手

Cyhuddo'r Eisteddfod o ddiffyg parch dros y Fedal Ddrama

Wyn Bowen Harries
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr actor Wyn Bowen Harries ei fod yn siomedig nad oedd wedi derbyn eglurhad am ganslo'r gystadleuaeth

  • Cyhoeddwyd

Ar drothwy cyfarfod i drafod "Cynrychiolaeth yn y Theatr" mae un o'r awduron a geisiodd am Fedal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi cyhuddo'r brifwyl o ddiffyg parch.

Bron i bedwar mis ers atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, mae聽Wyn Bowen Harries yn dweud nad yw wedi cael eglurhad.

"Dwi dal yn siomedig fod yr holl beth wedi digwydd yn y ffordd y gwnaeth o聽鈥 dileu'r gystadleuaeth yn gyfan gwbl.

"A 鈥榙a ni dal ddim wedi clywed unrhywbeth swyddogol gan yr Eisteddfod...聽Dwi鈥檔 meddwl fod o鈥檔 difr茂o鈥檙 gystadleuaeth ddrama yn ofnadwy bod nhw wedi just dileu鈥檙 holl beth."

Yn dilyn beirniadaeth o'r hyn ddigwyddodd ym Mhontypridd fe ddywedodd yr Eisteddfod y bydden nhw'n cynnal trafodaeth yn yr hydref.

Nos Fercher fe fydd Dr Gareth Ll欧r Evans, cadeirydd panel canolog theatr yr Eisteddfod, yn arwain sesiwn "Cynrychioli Cynrychiolaeth" a fydd yn "drafodaeth amserol am gynrychiolaeth yn y theatr", meddai'r Eisteddfod.

Fe wnaeth yr Eisteddfod ganslo'r Fedal Ddrama yn ystod wythnos y brifwyl, gan ddweud bod y penderfyniad wedi ei wneud ar 么l y broses o feirniadu'r gystadleuaeth.

Ni wnaeth yr Eisteddfod roi rheswm am y penderfyniad ar y pryd, ond dywedodd un o'r beirniaid mai "nid sensora oedd eu bwriad ond gwarchod pawb a oedd ynghlwm 芒鈥檙 gystadleuaeth a鈥檙 gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli".

Yn 么l Wyn Bowen Harries, mae angen i'r Eisteddfod fod yn agored yngl欧n 芒 beth ddigwyddodd ym mis Awst.

"Dwi鈥檔 meddwl bod nhw wedi bod tamaid bach yn amharchus gyda'r cystadleuwyr.

"鈥楽a hyn wedi digwydd mewn unrhyw gystadleuaeth arall 鈥 ddedwch chi y Goron neu鈥檙 Gadair byddai 鈥榥a le 鈥榥a, felly dwi yn meddwl... y dyle nhw fod yn parchu cystadleuaeth drama lawer iawn mwy."

'Trafod yn y tywyllwch'

Mae'r Eisteddfod wedi mynnu'n gyson eu bod nhw angen gwarchod y cystadleuwyr a'r beirniaid.

Mae cyn-gyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd, yn derbyn hynny.

"Mae鈥檔 anffodus bo' ni fel cymuned artistig wrth gwrs yn delio efo鈥檙 hyn sydd wedi digwydd... yn y tywyllwch ond hefyd yn gallu gweld o bosibl bod angen bod yn warchodol o bobl sydd wedi bod ynghlwm 芒鈥檙 broses, ynghanol y ffrae fel petai."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ni ddylid bod yn "rhy llawdrwm" ar artistiaid, meddai Arwel Gruffydd, cyn-gyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru

Er hynny mae'n mynnu bod angen i theatr allu gwthio ffiniau.

"Mae鈥檔 bwysig bo' ni鈥檔 creu awyrgylch lle mae artistiaid yn gallu ffynnu a mentro a gwthio ffiniau ac mae'n rhaid i ni ofalu bo' ni ddim yn dod lawr yn rhy llawdrwm ar artistiaid pan 鈥榙a ni鈥檔 teimlo eu bod nhw wedi croesi ryw ffin neu wedi tramgwyddo mewn ryw ffordd.

"Mae hynny鈥檔 arwain at ryw fath o ddiwylliant canslo... achos mae hwnnw鈥檔 sefyllfa beryglus dwi鈥檔 meddwl, ac wedyn yn mynd i greu ofn mewn artistiaid ac yn mygu artistiaid yn y pen draw."

'Edrych ymlaen'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod mai sesiwn drafod ar gynrychiolaeth yn y theatr fydd yn digwydd nos Fercher, yn y gobaith o wneud i bobl deimlo'n fwy hyderus wrth fynd ati i greu yn y dyfodol.

鈥淓drych ymlaen at y dyfodol yn hytrach nag edrych yn 么l yw bwriad y sesiwn", meddai'r llefarydd.

"Nid yw鈥檔 drafodaeth ar gystadleuaeth y Fedal Ddrama eleni, ond yn hytrach, mae鈥檔 gyfle i gydio鈥檔 rhai o鈥檙 pynciau a godwyd dros y misoedd diwethaf a鈥檜 trafod ymhellach.

鈥淢ae angen symud y sgwrs yn ei blaen, ac wrth wneud hynny, mae鈥檔 bwysig bod yr Eisteddfod yn parhau i warchod pawb sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檔 cystadlaethau, gan gynnwys y cystadleuwyr a鈥檙 beirniaid.

"Mae hefyd yn bwysig nodi eto fod y beirniaid yn cytuno 芒 phenderfyniad y Bwrdd ar y mater.

鈥淩ydyn ni鈥檔 ymwybodol nad yw pawb yn cytuno 芒 hyn oll, ond mae ein cyfrifoldeb ni at yr unigolion hyn yn hollbwysig i ni fel sefydliad.鈥

Mae'r Eisteddfod wedi dweud nad yw'r wasg yn cael mynychu'r cyfarfod am ei fod yn gyfarfod i'r sector.