成人快手

Amheuon am fuddion carchar newydd Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Argraff artist o garchar mawr newydd WrecsamFfynhonnell y llun, Minstry of Justice
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Argraff artist o garchar mawr newydd Wrecsam

Efallai na fydd carchar mawr newydd Wrecsam yn darparu'r swyddi lleol newydd a addawyd, ac yn wir fe allai niweidio'r economi leol, yn 么l un myfyriwr PhD.

Mae erthygl gan Robert Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) yn dweud y bydd yn rhaid i bobl leol gystadlu am swyddi gyda phobl o ardal llawer ehangach.

Mae e hefyd yn dweud bod honiadau y bydd y carchar yn dod 芒 budd economaidd "yn gamarweiniol ar y gorau".

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gwrthod honiadau'r adroddiad yn llwyr.

Herio honiadau

Yn gynharach eleni fe ddewiswyd Wrecsam gan lywodraeth y DU fel lleoliad carchar newydd ar gyfer hyd at 2,000 o garcharorion.

Eisoes mae cynlluniau wedi eu cyflwyno i bwyllgor cynllunio Cyngor Wrecsam, ac os fyddan nhw'n cael eu cymeradwyo fe fydd y carchar yn agor ger cartrefi ym Mhentre Maelor erbyn 2017.

Honnir y bydd y carchar newydd yn gallu creu hyd at 1,000 o swyddi ac y bydd werth 拢23 miliwn i flwyddyn i economi gogledd Cymru.

Ond mae Mr Jones yn herio'r honiadau.

Mae'n ymchwilio i garcharu a datganoli yng Nghymru, ac mae ei gasgliadau yn rhan o gynllun ymchwil i ddatganoli plismona a chyfiawnder i Gymru.

'Camarweiniol'

Dywed Mr Jones bod ymchwil o'r Unol Daleithiau yn "gwneud nemor ddim i sbarduno optimistiaeth ymhlith pobl ar draws gogledd Cymru".

Ychwanegodd fod yr ymchwil yn awgrymu nad yw swyddi mewn carchardai yn "mynd i bobl sydd eisoes yn byw yn y gymuned".

"Yn hytrach mae swyddi rheoli gyda chyflogau da, ac uwch staff y carchar yn aml yn cael eu cyflogi o'r tu allan i ardaloedd lleol... maen nhw'n debygol o gael eu recriwtio o garchardai eraill."

Mae'n dweud hefyd bod pobl sy'n gweithio mewn carchardai yn gyson yn teithio yn bell i fynd i'r gwaith "ac yn y mwyafrif o achosion yn teithio bron ddwbl y pellter arferol i'r gweithle.

"Yng ngoleuni canfyddiadau o'r fath, mae ymdrechion Llywodraeth y DU i hybu carchar mawr newydd Wrecsam o dan len o fuddion economaidd a chreu swyddi yn gamarweiniol ar y gorau."

'Cyfleoedd busnes'

Mewn datganiad roedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gwrthod sylwadau Mr Jones, gan ddweud:

"Rydym yn gwrthod yr honiadau yma yn llwyr, ac yn sicr y bydd y carchar newydd yn Wrecsam yn hwb anferthol i'r economi leol.

"Mae'n barod i greu hyd at 1,000 o swyddi a rhoi hwb i'r economi leol o tua 拢23 miliwn y flwyddyn gan ddarparu miliynau o bunnau o gyfleoedd adeiladu a phosibiliadau mawr i fusnesau lleol.

"Ar draws y wlad rydym yn cyfnewid hen adeiladau aneffeithlon gydag adeiladau newydd sy'n rhatach eu rhedeg.

"Fe fyddwn hefyd yn cadw carcharorion yn agosach at eu cartrefi, gan wybod bod hynny'n cynorthwyo i atal ail-droseddu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 成人快手 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol