G诺yl Gerdd Newydd yn tywys siopwyr o Fangor i Verona
- Cyhoeddwyd
Bangor...neu ddinas Eidalaidd Verona?! Fe allai'r olygfa yng Nghanolfan Siopa Deiniol, yn unig ddinas gogledd orllewin Cymru, ddrysu rhai pobl amser cinio ddydd Gwener.
Bydd balconi un o'r siopau yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno perfformiad arbennig o waith Shakespeare, Romeo a Juliet.
Eleni mae'n 450 mlynedd ers geni'r Bardd ac mae G诺yl Gerdd Newydd Bangor yn cynnal diwrnod o weithgareddau i nodi'r garreg filltir.
Y tenor a'r myfyriwr Huw Ynyr Evans, 21 - enillydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel yn 2012 - fydd yn chwarae rhan Romeo.
Mae disgwyl iddo ddatgan ei gariad i Juliet yn gyhoeddus wrth i siopwyr ac ymwelwyr fynd heibio yn ystod yr awr ginio.
Arloesi
Yn 么l cyfarwyddwr G诺yl Gerdd Newydd Bangor, Guto Pryderi Puw, bydd y cyflwyniad annisgwyl yn ffordd o "ddod 芒 cherddoriaeth i gynulleidfa ehangach".
Meddai: "Y bwriad ydi cyflwyno pobl i weithiau llenyddol Shakespeare ac i gerddoriaeth newydd na fydde nhw fel arall yn debyg o'i glywed.
"Bydd Cyngerdd Ensemble Cerdd Newydd Bangor yn cynnwys y perfformiadau cyntaf erioed o nifer o weithiau newydd, gan gynnwys darnau gan fyfyrwyr fel Katherine Betteridge, David Draper, Nell Gwynn, a Fran Reader o Brifysgol Bangor, pob un wedi'i ysbrydoli gan y Bardd mawr ei hun.
Ychwanegodd: "Bydd y cyngerdd, gobeithio, yn denu cynulleidfa fawr gan ei fod yn rhywbeth gwahanol iawn i Fangor . Mae'r balconi yn berffaith fel cefndir i gyfansoddiad David Draper.
"Dwi eisie mynd 芒'r gerddoriaeth at y gynulleidfa yn hytrach na gofyn i'r gynulleidfa ddod at y gerddoriaeth. Pe bai un person yn unig yn cael ei gyffwrdd gan y perfformiad yng Nghanolfan Deiniol, ac yn dod i wylio un o berfformiadau eraill yr 糯yl, yna byddwn wedi cyrraedd y nod a'r prosiect wedi bod yn werth chweil."
'Her aruthrol'
I Huw Ynyr, mab fferm o Rydymain sydd ar fin cwblhau Gradd Meistr mewn perfformio ym Mhrifysgol Bangor, bydd perfformio mewn canolfan siopa yn brofiad cwbl newydd.
"Mae'n brofiad newydd sbon i mi ac yn her aruthrol. 'Da ni wedi bod yn ymarfer yn galed ond mae'r gerddoriaeth newydd a gyfansoddwyd gan fyfyrwyr o'r Adran Gerdd yn dal i fod yn heriol iawn.
"Serch hynny, mi fydd yn wych gallu mynd 芒'r gerddoriaeth yma yn uniongyrchol at y gynulleidfa yng Nghanolfan Siopa Deiniol. Mae o'n wahanol ond dwi'n siwr y caiff dderbyniad gwresog."
Dyma'r 14eg blwyddyn i'r 糯yl Gerdd Newydd gael ei chynnal a bydd y Diwrnod Shakespearaidd ddydd Gwener yn gorffen gyda chyngerdd yn Neuadd Pritchard Jones, Bangor, gyda'r nos, pan fydd cerddorfa'r Swan, o Stratford upon Avon, y fiolinydd Madeleine Mitchell a'r trwmpedwr Simon Desbruslais ymhlith yr artistiaid.