成人快手

Teyrngedau i fyfyrwraig 18 oed

  • Cyhoeddwyd
Gwenno Fflur Tudor
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Gwenno yn fyfyrwraig yng Ngholeg Llysfasi ac wrth ei bodd allan ar y fferm

Mae teulu Gwenno Fflur Tudor wedi talu teyrnged i'w merch 18 oed, gafodd ei lladd mewn damwain car ddifrifol fore Llun.

Roedd Gwenno wedi cael ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanilar ac yna yn Ysgol Uwchradd Tregaron, ac roedd hi erbyn hyn yn fyfyrwraig yng Ngholeg amaethyddol Llysfasi ger Rhuthun.

Mewn teyrnged, dywedodd ei theulu fod Gwenno yn "ferch fywiog, siaradus, oedd wastad 芒 gw锚n ar ei hwyneb".

Dywedon nhw ei bod hi'n mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon a'i bod yn chwarae p锚l-droed dros Benrhyncoch a hoci i Dregaron.

Roedd hi hefyd yn mwynhau bod yn rhan o weithgareddau'r Clwb Ffermwyr Ifanc, ac wrth ei bodd yn treulio amser tu allan ar y fferm.

Mae nhw'n dweud y bydd yn cael ei cholli'n fawr gan deulu a ffrindiau ac mae nhw'n diolch i bawb am eu geiriau caredig a'u cefnogaeth.

Roedd y ddamwain wedi digwydd ar yr A487 rhwng Llanrhystud a Heol Non ger Llanon yng Ngheredigion fore Llun.

Cafodd criwiau t芒n o Aberystwyth ac Aberaeron eu galw ychydig cyn 9:00yb wedi'r ddamwain rhwng tri cherbyd.

Bu'r ffordd ar gau am gyfnod ac fe gludwyd dau arall i'r ysbyty ar y pryd.

Yn 么l Helen Yelland o Heddlu Dyfed Powys: "Mae hwn yn ddigwyddiad trasig sydd wedi cael effaith torcalonnus ar deulu Gwenno, a chymuned glos iawn, sydd wedi dod at ei gilydd yn eu galar yn dilyn y drasiedi."