成人快手

Protestio ar y Maes

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Aelodau'r mudiad yn protestio yn y babell

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi plastro posteri ym mhabell Cyngor Sir Ddinbych ar Faes yr Eisteddfod oherwydd diffyg sylw i'r iaith mewn prosesau cynllunio.

Roedd y cyngor wedi neilltuo tir ar gyfer codi mwy na 7000 o dai newydd.

Roedd y posteri ar hyd waliau a desg groeso'n dweud: "Nid yw Cymru ar werth".

Rhybuddiodd Toni Schiavone o'r mudiad Carwyn Jones y byddai'r mudiad "wrth ei ddrws" os na fyddai'n sicrhau polisi cenedlaethol i warchod yr iaith Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd fersiwn ddiwygiedig o'r canllaw cynllunio TAN 20 yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref.

'Colli tir'

Fe ddechreuodd y brotest ym mhabell Cymdeithas yr Iaith gyda Tecwyn Ifan yn dweud wrth y dorf o dros 50 fod yr iaith yn "dal i golli tir".

"Falle gallwn ni gredu bellach fod y rhan fwyaf o bobl Cymru ddim eisiau gweld yr iaith yn marw - ond y broblem yw dydyn nhw ddim eisiau ei gweld hi'n byw chwaith."

Wedyn rhybuddiodd Mr Schiavone Carwyn Jones, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fod rhaid iddyn nhw ddangos i'r mudiad nad oedd angen iddyn nhw weithredu.

Dywedodd yn gyntaf fod angen i'r cynghorau roi mwy o ystyriaeth i'r iaith yn achos cynlluniau adeiladu.

'Grym a'r gallu'

"Awdurdodau lleol," meddai, "mae ganddoch chi'r grym a'r gallu i ofyn i swyddogion i chi lunio adroddiad a dadansoddiad manwl ar yr effaith ar y Gymraeg yn eich sir chi. Dydach chi ddim wedi gwneud hynny.

"Dydach chi ddim wedi defnyddio y grym sydd gyda chi i fynnu bod asesiad iaith ar bob datblygiad tai.

"Mewn cyfarfodydd rydym ni wedi ei gael gyda awdurdodau lleol gan gynnwys dinbych maen nhw'n rhoi'r bai ar Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y posteri ar hyd waliau a desg groeso

"Sori, gyfeillion, chi sydd ar fai yna ac os nad y byddwch chi'n gwneud e fyddwn ni'n nol."

Dywedodd fod rhaid i Lywodraeth Cymru weithio'n galetach er mwyn amddiffyn yr iaith.

"... mae ganddyn nhw'r grym a'r gallu i greu polisi sy'n gorfodi pob awdurdodau lleol i wneud yr hyn dydyn nhw ddim yn wneud yn wirfoddol sef llunio adroddiad ar yr iaith Gymraeg.

Ystyried

"Gallen nhw wneud asesiad iaith yn fater statudol ond dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny."

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ystyried canlyniadau eu ymgynghoriad diweddar, y Gynhadledd Fawr.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan cyn y brotest: "Rydym wedi clywed gan bobl o bob cwr o Gymru, o bob oedran a chefndiroedd amrywiol fel rhan o'n sgwrs genedlaethol ar yr iaith Gymraeg, a'r Gynhadledd ei hun, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith.

"Dros yr haf byddwn yn cnoi cil ar y farn a leisiwyd er mwyn ystyried beth fydd ein hymateb o ran polisi a'n gweledigaeth ar gyfer yr iaith.

"Byddwn hefyd yn ystyried casgliadau'r amrywiol adolygiadau polisi fydd yn adrodd erbyn yr hydref. Byddwn yn gwneud datganiad yn yr hydref ar ein hymateb i'r sgwrs genedlaethol hon.

"Mae'r ymateb cadarnhaol a dderbyniwyd i'r sgwrs yn dangos ymroddiad a balchder pobl tuag at yr iaith ac yn dangos bod yna awydd i gydweithio er lles y Gymraeg."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 成人快手 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol