Bad achub newydd i Ynys M么n
- Cyhoeddwyd
Bydd diwrnod o ddathlu ym Moelfre ar Ynys M么n ddydd Llun wrth i fad achub newydd gyrraedd y pentref.
Mae'r digwyddiad yn cyd-fynd ag agor Canolfan Gwylfan Moelfre - amgueddfa fydd yn cynnwys arddangosfa o eitemau diddorol yn nodi hanes bad achub Moelfre.
Fe fydd y bad achub presennol dosbarth 'Tyne' yn mynd allan i'r m么r i groesawu'r bad achub newydd dosbarth 'Tamar' i'r orsaf leol wrth iddi gyrraedd Cymru am y tro cyntaf.
Eisoes mae'r criw o wirfoddolwyr wedi bod yn Poole i ymgyfarwyddo gyda'r bad achub newydd yng ngholeg yr RNLI yno.
'Anrhydedd fawr'
Bydd Gwylfan Moelfre yn cael ei hagor yn swyddogol ddydd Llun gan achubwr hynaf yr orsaf - sydd bellach wedi ymddeol - Davey Owen, 78 oed.
Bu Mr Owen yn gweithio ochr yn ochr ag un o aelodau enwocaf bad achub Moelfre, y diweddar Dick Evans - un o nifer fach iawn o bobl a dderbyniodd fedal aur yr RNLI am wrhydri ar ddau achlysur.
Mae cerflun i gofio am Dick Evans yn edrych dros y bae ym Moelfre.
Dywedodd Mr Owen: "Mae'n anrhydedd fawr cael agor yr adeilad yma a fydd yn cadw hanes morol y pentref yn fyw.
"Gobeithio y daw pobl i weld yr eitemau hynod ddiddorol fydd yn cael eu harddangos yma, ac i weld y bad achub modern newydd yn cyrraedd ar ddiwrnod balch iawn i bentref Moelfre."
Buddsoddiad
Bydd y bad achub newydd yn dwyn yr enw 'Kiwi' gan mai arian o ewyllys dyn o Seland Newydd a gyfrannodd yn helaeth at y gost o'i phrynu.
Bu farw Reginald James Clark - morwr o Seland Newydd - yn 2004. Cafodd ei achub gan fad achub Moelfre yn ystod y rhyfel, ac mae ei deulu wedi gofyn i gael yr enw ar y bad achub newydd i gydnabod ei gwreiddiau.
Mae'r bad achub 'Tamar' yn rhan o fuddsoddiad o 拢42.5m gan yr RNLI yng Nghymru. Mae'n golygu badau achub newydd a gorsafoedd a llithrfeydd i gyd-fynd 芒 nhw mewn pedair gorsaf.
Mae Porthdinllaen yng Ngwynedd eisoes wedi derbyn bad achub newydd, ac fe fydd rhai newydd yn dilyn yn Nhyddewi yn Sir Benfro a'r Mwmbwls yn Abertawe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd20 Awst 2012
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2012