成人快手

Cynllun post newydd yn un o bentrefi Ynys M么n

  • Cyhoeddwyd
Swyddfa'r Post, Moelfre
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd siop 'Rhen Fecws ym Moelfre bellach yn Swyddfa'r Post yn ogystal

Dros y blynyddoedd diweddar, mae cymunedau mewn sawl rhan o Gymru wedi gweld eu swyddfa bost yn cau.

Ond mae un gymuned ar Ynys M么n yn gweld peth prin iawn, Swyddfa'r Post newydd yn agor.

Fe gaeodd Swyddfa Post pentref Moelfre tua phedair blynedd yn 么l.

Ers hynny mae'r trigolion wedi gorfod teithio i drefi Benllech neu Amlwch er mwyn cael mynediad at y gwasanaethau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gwenda Parry wedi bod yn paratoi am flwyddyn cyn medru agor Swyddfa'r Post ym Moelfre

Gwasanaeth pwysig arall

Yna yn 2010, fe gymrodd Gwenda Parry yr awenau mewn siop yn y pentref - 'Rhen Fecws.

Cyn hir roedd wedi ymestyn yr adeilad ac ehangu'r ddarpariaeth i gynnwys gwerthu papurau newydd, sigar茅ts a diodydd yn ogystal 芒 pharatoi brechdanau a bwydydd parod poeth.

Roedd lle yno hefyd i gael paned.

O ddydd Mercher fe fydd un gwasanaeth pwysig arall ar gael yno, sef Swyddfa'r Post.

Fe fydd ar agor yr un oriau a'r siop, sef o 7:30am bob bore tan y bydd y siop yn cau gyda'r nos, ac fe fydd hefyd ar agor ar benwythnosau.

Mae'r cyfan yn rhan o gynllun newydd gan Swyddfa'r Post, sef 'Post Office Local', ac fe fydd y swyddfa'r cynnig ystod eang o wasanaethau Swyddfa'r Post ond nid adnewyddu treth car na gwasanaeth pasport.

'Mwy o oriau'

"Teimlo oedden ni fod angen Swyddfa'r Post yma yn y pentref," meddai Gwenda Parry.

"Mae cymaint o bobl sy'n gorfod mynd ymhell i ffwrdd i gael y gwasanaethau yma.

"Mae wedi cymryd dros flwyddyn o waith paratoi cyn i ni fedru agor - roedd angen cownter newydd a phob math o bethau felly.

"Mae'n gynllun newydd gan Swyddfa'r Post, ac mae'n golygu y byddwn ni ar agor am fwy o oriau na Swyddfeydd Post arferol."

Mae'r busnes ym Moelfre yn cyflogi chwech yn rhan amser.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 成人快手 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol