Cynllun 拢25m i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) wedi cyhoeddi'r grant mwyaf erioed yng Nghymru, i gynorthwyo Amgueddfa Cymru i ddatblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ymhellach.
Bwriad y buddsoddiad o 拢11.5 miliwn yw eu helpu i adrodd straeon o fywyd pobl yng Nghymru dros gyfnod o dros 200,000 o flynyddoedd.
Mae 拢6 miliwn arall wedi ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r arian yn gymorth i'r Amgueddfa ddatblygu cynllun Creu Hanes sy'n werth 拢25 miliwn.
Bwriad y cynllun dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt yw sefydlu Sain Ffagan fel Amgueddfa Hanes Genedlaethol Cymru.
Mae ap锚l hefyd yn cael ei lansio ar gyfer codi'r 拢7.5 miliwn, gyda thua 拢2.5 miliwn i ddod o ffynonellau busnes.
Adyfwio
Ar hyn o bryd mae Sain Ffagan yn adrodd hanes sut oedd pobl Cymru yn byw, gweithio a threulio eu hamser hamdden dros y 500 mlynedd diwethaf.
Bydd cam cyntaf y prosiect yn cynnwys codi adeilad amlbwrpas gydag oriel a gofod gweithgareddau, ffenestr i'r archeoleg awyr agored a chyfleusterau cyffredinol i ymwelwyr yn cynnwys caffi.
Cafodd y cynlluniau i adfywio'r amgueddfa eu cyhoeddi am y tro cyntaf ym mis Ionawr.
Mae dros 600,000 o bobl yn ymweld 芒'r atyniad ar gyrion Caerdydd bob blwyddyn.
Ymhlith yr atyniadau eraill fydd ail-greu setliad Bryn Eryr, Ynys M么n o'r Oes Efydd ac un o lysoedd Tywysogion Gwynedd, Llys Rhosyr.
I sicrhau'r weledigaeth fe fydd Ap锚l 拢1 yr Amgueddfa yn cael ei lansio i ddwyn cefnogaeth y cyhoedd.
Mae'n adlais o alwad sefydlydd yr amgueddfa, Iorwerth Peate, yn 1946 am gefnogaeth.
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, eu bod yn ddiolchgar i'r Gronfa Dreftadaeth am y cyllid.
Adrodd stori
"Byddwn yn dechrau gweithio ar brosiect mwyaf cyffrous erioed Amgueddfa Cymru yn fuan iawn.
"Gyda'r gefnogaeth hael 芒 chefnogaeth Llywodraeth Cymru, byddwn yn creu sefydliad cenedlaethol arall i Gymru.
Dywedodd y bydd gan Gymru ei Hamgueddfa Hanes Cenedlaethol ei hun a fydd yn adrodd stori pawb yng Nghymru, o'r gorffennol i'r presennol.
"Wrth i ni gychwyn ar y datblygiad mawr mwyaf yn yr amgueddfa ers ei chreu, rydym yn gofyn i bobl Cymru unwaith eto gefnogi ein cynlluniau i greu profiad amgueddfa unigryw i genedlaethau i ddod," ychwanegodd.
"Bydd rhodd o 拢1, o'i ychwanegu at roddion o ledled Cymru yn ein caniat谩u i gyflawni ein gweledigaeth a chaniat谩u i ymwelwyr barhau i fwynhau Sain Ffagan yn y dyfodol."
Yn 么l Dr Manon Williams, Cadeirydd Pwyllgor CDL Cymru, mae'r prosiect yma yn sicrhau fod pobl Cymru ac ymwelwyr yn cael profiad gwirioneddol ysbrydoledig a chofiadwy gyda stori beth a wnaeth ein gwlad yr hyn yw heddiw.
"Bydd 'Creu Hanes' yn dod yn brosiect enghreifftiol i ni, gan arddangos sut y gall arian y loteri gael effaith positif ar dreftadaeth, datblygiad economaidd, twristiaeth, adfywio a sgiliau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd28 Medi 2011