成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2003

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Urdd 2003
O'r Maes
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Pasiant cofiadwy

Nia Ben AurElin Wyn Davies aeth i bafiliwn yr Eisteddfod i weld Pasiant y Plant, Nia Ben Aur.



Sioe gerdd am "wlad y bythol ifanc" yw Nia Ben Aur, ac yn addas iawn dyma sioe cynradd Eisteddfod yr Urdd eleni, yn cael ei pherfformio gan griw ifanc ardal Port Talbot, Castell Nedd ac Afan.

Mae'r sioe yn seiliedig ar y cynhyrchiad gwreiddiol o Nia Ben Aur, a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974. Y tro hwnnw, s锚r fel Heather Jones, Cleif Harpwood a Dewi 'Pws' Morris oedd yn chwarae'r prif rannau, ond mae'r sioe anfarwol, yn dal i gael ei pherfformio eleni, hon wedi ei haddasu ar gyfer y plant iau gan Rhiannon Rees o Frynaman.

Cefndir y stori
Mae holl glasuron adnabyddus y sioe i'w clywed yn y cynhyrchiad hwn, ac mae hynny wrth gwrs yn ei hunan yn denu cynulleidfa gref. Ceir dau lais cefndirol yn adrodd hanes Osian yn mynd i'r wlad lle roedd pawb yn byw yn hapus ac yn heddychlon, Tir Na n-Og, a syrthio mewn cariad 芒 Nia Ben Aur. Eurig Davies ac Eirlys Britton yw'r lleisiau, yn adrodd darnau o gerdd T. Gwynn Jones 'Tir Na n-Og' fel dolen gyswllt i'r sioe. Mae llais cryf ac awdurdodol Eurig Davies yn wrthgyferbyniad effeithiol i lais tynerach Eirlys Britton.

Perfformiad ardderchog
A nawr at y perfformiad ei hun. Roedd y pafiliwn yn llawn gyda chynulleidfa eiddgar yn barod i gael eu swyno gan berfformiad y plantos iau. A chafodd neb eu siomi.

O'r funud gyntaf roedd brwdfrydedd ar wyneb y plant ifanc, a nerth ac egni yn amlwg ar eu hwynebau. Roedden nhw'n mwynhau ar y llwyfan, ar gynulleidfa yn mwynhau gyda nhw.

Canmol y canu
Mae'n rhaid canmol y canu. Awr a chwarter gyfan o ganu da, mae'n syndod bod llais ar 么l gan y plant, gan gofio bod llawer ohonyn nhw wedi bod fyny ers ben bore yn perfformio mewn rhagbrofion ar y Maes. Roedd 么l wedi blino ar rai o'r rhai lleia, ond does dim posib eu barnu am hyn. Roedd rhai o'r rhai lleia yn edrych ar goll weithiau gyda symudiadau'r dawnsio yn eu cymhlethu! Ond roedd hyn yn codi gw锚n yn hytrach na gwg!

Y Prif gymeriadauY prif gymeriadau
Ond roedd y prif gymeriadau yn serynnu. Steffan Morris (Osian), Ania Davies (Nia Ben Aur) a Glesni Euros yn chwarae rhan y Frenhines Ri, oedd yn cymryd y prif rannau ac roedd eu lleisiau yn anhygoel - digon i anfon ias lawr fy nghefn ar brydiau. Roedd Ania Davies yn edrych yn hollol gartrefol ar y llwyfan mawr, a hithau yn un mor fach.

Deuwad yn rhoi ias
Un o uchafbwyntiau'r sioe i mi, oedd deuawd Osian a'r Frenhines Ri, yn sicr fe greodd argraff arnaf. Roedd y canu yn swynol tu hwnt. A does dim posib peidio 芒 s么n am berfformiad cofiadwy Glesni Euros fel y Frenhines Ri chwaith. Fe ddaeth ar y llwyfan ar feic, mewn gwisg ecsentrig iawn. Ac fe roedd ei pherfformiad yn wych. Canodd ei ch芒n doniol yn llawn bywyd a'i phersonoliaeth hapus yn amlwg. Roedd gw锚n ar wyneb pawb yn y gynulleidfa. Chware teg, mae gan Glesni Euros (sydd eisoes yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan yr Eisteddfod,) ddyfodol disglair dw in siwr, felly hefyd nifer fawr o'r plant ifanc sydd yn y pasiant.

Barnu - os oes raid
Dw i'n teimlo braidd yn greulon i farnu'r sioe, wedi i fi fwynhau'r cynhyrchiad gymaint. Ond os oes raid bod yn negyddol am funud, yna dw i ddim yn credu fod y gwisgoedd a'r set mor effeithiol ag y gallent fod, ond eto, hollti blew ydw i gyda hyn.

Roedd y gymeradwyaeth ar ddiwedd y perfformiad, ar gynulleidfa ar eu traed yn arwydd bod pawb wedi mwynhau, ac yn barod eu canmoliaeth i waith caled a chaboledig y plant iau a'u hyfforddwyr.



Cefndir
Chwedlau'r ardal

Arlwy'r wythnos

Y Steddfod ar y wal

Maes godidog

Yn yr awyr iach a Thir na n-Og

lluniau'r wythnos
Brasgamu ym Margam (1)

Brasgamu ym Margam (2)

Brasgamu ym Margam (3)

Brasgamu ym Margam (4)

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau o'r Eisteddfod

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Arddangosfa Celf a Chrefft

Lluniau Crysau-T

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy