| |
Y Steddfod ar y wal
Bydd waliau fideo mawr yn Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam er mwyn i ymwelwyr fedru gweld y cystadleuwyr yn well.
Bydd y waliau ym mhrif Bafiliwn yr Eisteddfod yn galluogi'r gynulleidfa i weld y cystadlu yn fanylach.
Hefyd, bydd yr Urdd yn defnyddio'r waliau fideo, sy'n cael eu noddi gan fanc HSBC, i ddangos ffilmiau byr o'r gweithiau buddugol yn y prif seremon茂au ac i ddangos ffilmiau eraill sydd wedi eu paratoi yn arbennig ar gyfer seremon茂au fel cyhoeddi enw Bardd Plant Cymru 2003-2004 a chroesawu eisteddfod 2004 i F么n.
Mae'r waliau fideo yn ychwanegu at y wledd yn y Pafiliwn, ac yn gyfraniad gwerthfawr i'r arlwy yno.
Noddi seremoni hefyd Ac un o'r sermoniau pwysig fydd i'w gweld ar y waliau fydd Seremoni'r Fedal Ddrama ar bnawn Mercher yr Wyl sydd hefyd yn cael ei noddi gan HSBC.
Mae'r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfansoddi drama un act a gymer rhwng 40 a 60 munud i'w pherfformio.
Mae'r Fedal wedi ei hennill yn y gorffennol gan Lowri Hughes, William Gwyn Jones, Branwen Cennard, William Owen Roberts, Emyr Lewis, a Paul Griffiths.
Canmolodd Si芒n Elin Jones, Rheolwr Materion Cymunedol Cymreig Banc HSBC,y berthynas rhwng y Banc a'r Urdd.
"Pleser o'r mwyaf yw cefnogi'r Urdd unwaith yn rhagor eleni. Rydym yn falch dros ben o'r berthynas agos sydd wedi datblygu rhyngom ni 芒'r Urdd. Mae creu cyfleoedd i alluogi ieuenctid Cymru i ddatblygu ystod eang o sgiliau yn rhan hanfodol o'n strategaeth nawdd. Diolchwn i'r Urdd am ei waith brwd a chyson dros y blynyddoedd," meddai.Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd rhwng Mai 26 a 31 ym Mharc Margam.
|
|