| |
Arlwy'r wythnos
Pob math o bethau i edrych ymlaen atyn nhw yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Mae'r pebyll wedi eu codi, mae'r Pafiliwn yn ei le a swyddogion yr Eisteddfod yn brysur yn gweithio ar y maes, ac yn edrych ymlaen am wythnos gyffrous, llawn bwrlwm.
Wrth i mi siarad 芒 chi, mae'r Pafiliwn yn cael ei godi yma ar y maes, meddai Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, o faes Eisteddfod yr Urdd eleni ar Barc Margam, ger Port Talbot.
Mae'r haul yn tywynnu, ac mae'r safle yn edrych yn odidog, yn edrych i lawr dros y m么r.
Dilyn yr arwyddion nid eich trwyn! Mae'r maes mewn lle hawdd dod o hyd iddo, ym Mharc Gwledig Margam, yn wynebu'r m么r.
Bydd holl ymwelwyr yr Eisteddfod yn gadael traffordd yr M4 ar gyffordd 38, a chan y bydd arwyddion clir a chyson ar hyd y ffordd, y cyngor yw i ddilyn yr arwyddion, a pheidio a cheisio dilyn eich trwyn a mynd ar goll!
Peidiwch ag oedi i siarad 芒'r Plismyn chwaith cadwch i fynd!
Tip teithio pwysig! Ar ddydd Llun cyntaf yr Eisteddfod, cynghorir holl ymwelwyr 芒'r Wyl sy'n teithio o'r gogledd, i ddod ar hyd ffordd y gorllewin trwy Aberystwyth a Chaerfyrddin, yn hytrach na'r A470, gan fod g锚m b锚l-droed fawr yng Nghaerdydd, a all achosi trafferthion traffig.
Atyniadau arloesol Mae wythnos Eisteddfod yr Urdd yn cynnig rhywbeth at ddant pawb a bydd yr holl arlwy arferol ar ford Margam. Bydd yno gyffro gyda'r cystadlu a gwledd yn yr arddangosfeydd a'r cyngherddau.
Bydd yno ychydig o arbrofi hefyd.
Bydd holl ragbrofion yr Eisteddfod eleni yn cael eu cynnal ar y Maes am y tro cyntaf.
Mi fydd ymwelwyr yr Eisteddfod yn cael y cyfle i fod ar y maes o ben bore hyd ddiwedd y dydd, a bod yn rhan o fwrlwm y Maes, meddai Si芒n Eirian.
Menter Arlwyo Yn ogystal 芒'r arlwy arferol, mae'r Eisteddfod yr Urdd yn rhedeg caffi ar y maes eleni. Anghofiwch am fwydydd cwmn茂au bwyd brys mawrion mae pecyn bwyd Mr Urdd ar gael i'r plant ar faes yr Eisteddfod eleni, yn ogystal 芒 bwydydd Cymreig o frecwast i brydau bwyd llawn a the prynhawn.Gan bod yr Eisteddfod wedi ei leoli ar dir Plas Margam, mae'r Wyl yn manteisio ar y Plas i fod yn gartref i'r Arddangosfa Gelf a Gwyddoniaeth.Y sioeauBydd cyffro ar y Gnoll yng Nghastell-nedd nos Sul a nos Lun gyntaf yr Eisteddfod, gyda sioe awyr agored Jiwdas. Ar y nos Lun hefyd bydd cystadleuaeth C芒n Actol yn y Pafiliwn.
Ar y nos Fawrth cynhelir cyngerdd mawreddog ym Mhafiliwn y Maes gyda Chorau Meibion lleol, Fflur Wyn ac Angharad Bryn.
Mae'r sioe i blant Nia Ben Aur yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn ar y nos Fercher a nos Iau, bydd noson gerddorfa yn y Pafiliwn ar y nos Wener.
Yn ystod y nos Wener hefyd yn wahanol i'r arfer cynhelir seremoni Tlws y Cyfansoddwr yn y Pafiliwn.
Yn ogystal 芒 bod yn llwyfan i gigs rhai o fandiau gorau Cymru, bydd y Babell Roc yn llwyfannu cystadleuthau roc hefyd, ac eleni am y tro cynta' bydd pabell ddawns gyda chystadlaethau dawnsio disgo a chreadigol yn cael eu cynnal.
Mae gan y 成人快手 lwyfan band acwstig yn Eisteddfod yr Urdd hefyd gydag artistiaid yn amrywio o Rhidian i Bryn F么n ac Epitaff yn perfformio yn fyw bob amser cinio.
|
|