| |
Maes godidog
Bydd diwrnod agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Tawe, Nedd ac Afan 2003 ar Fai 26 yn coroni misoedd o waith paratoi.
A gobaith y trefnwyr yw y bydd safle godidog Parc Gwledig Margam gyda'i atyniadau deniadol, yn adeiladau, gerddi hardd, ceirw yn pori a rhodfeydd gwledig hyfryd yn profi'n lleoliad delfrydol i'r wyl.
Erbyn hyn gosodwyd milltiroedd o geblau trydan, pibellau dwr a llathenni o draciau alwminiwm ar gyfer ymwelwyr 芒'r hyn sy'n cael ei disgrifio gan yr Urdd fel Prifwyl ieuenctid fwyaf Ewrop - yn denu dros 100,000 o ymwelwyr, 15,000 o gystadleuwyr a 150 o stondinau.
Bu gweithwyr o bob cwr o Gymru, yn llafurwyr, trydanwyr, plymwyr, ffenswyr a swyddogion diogelwch yn sicrhau y bydd popeth yn barod erbyn Mai 26.
MeddaI Ian Carter, Rheolwr Busnes a Maes yr Eisteddfod: "Mae cyfleusterau'r parc yn ein galluogi i gynnal pob dim yn hwylus ar yr un safle y maes ei hunan, y maes carafanio a'r maes parcio. Mae yma hefyd rwydwaith o ffyrdd parod sy'n arbed y defnydd o draciau alwminiwm ac hefyd yn sicrhau y bydd y traffig yn symud yn rhwydd i mewn a mas o'r Eisteddfod. Byddwn hefyd yn defnyddio yr atyniadau naturiol fel y llyn a'r tr锚n bach fel rhan o'r maes."
Carreg filltir bwysig yn hanes yr Eisteddfod eleni yw cynnal y rhagbrofion ar y maes ei hun mewn lleoliadau fel yr Orendy enwog, y Pafiliwn a Phafiliwn S4C. Bydd Castell Margam hefyd yn gartref ysblennydd i'r arddangosfa Gelf, Dylunio a Thechnoleg. Meddai Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod ar Celfyddydau, "Mae'r ffaith fod y cyfan o'r gweithgareddau bron yn digwydd ar yr un lleoliad eleni yn ddatblygiad pwysig yn hanes yr Eisteddfod."
Ac meddai Eurig Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni a Chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a'r Celfyddydau: "Bu'r gwaith paratoi yn frwd a manwl ac yn bleser i'r pwyllgorau a'u haelodau diwyd. Yn ogystal 芒'r cystadlu ar y llwyfan, mae toreth o weithgareddau yn eich disgwyl ar y maes hwn. Gobeithiwn y bydd i'n hieuenctid gael blas ar y ddarpariaeth ac y byddwn oll erbyn diwedd yr wythnos wedi ymgryfhau yn ein hiaith a'n diwylliant wrth ddychwelyd i'n cymunedau ledled Cymru."
|
|