| |
Ffitio i'r T
Ers dyfodiad y crysau T Cymreig bron i ddeunaw mlynedd yn 么l, maent wedi dod yn ffasiwn poblogaidd iawn i ni'r Cymry.
Ac wrth grwydro maes Eisteddfod yr Urdd fe welwch yn syth yr holl ddewis sydd ar gael, a faint o alw sydd amdanynt. Lowri Johnston fu'n dewis Crysau T ar ran 成人快手 Cymru'r Byd.
Mae yna bum prif gwmni yng Nghymru sy'n cynhyrchu crysau T eu hunan; Alff a Bet, Cowbois, Celtes, Shwl di Mwl a Tic Toc. Ac maen nhw i gyd ym Margam.
Dechreuodd Cowbois o'r Bala gynllunio crysau T ddeng mlynedd yn 么l ac mae'n bosib mai ganddyn nhw mae'r amrywiaeth fwyaf o'r pum cwmni.
Mae nifer o grysau T newydd ar y maes gan Cowbois, rhai i blant ac oedolion - yn eu plith rhai 芒'r logo Vorsprung Durch Celtique, sy'n gwerthu'n dda iawn mae'n debyg, Miss Cymru, Castro a 'Di Cymru ddim ar werth/Cymru's not for sale.
Maent hefyd wedi cynhyrchu logos i dim p锚l-droed Cymru e.e. Hughes 10, sydd wedi bod yn boblogaidd. Mae rhai o'r hen ffefrynnau hefyd ar gael ar y maes, Celt, Je suis pas Anglais, je suis Gallois (dydw i ddim yn Saes, rydw i'n Gymro) a Cymraeg, Plentyn y Chwyldro.
Ffraeth a doniol
Cwmni arall fu'n cynhyrchu crysau T ers deng mlynedd yw Shwl Di Mwl. Crysau 芒 sloganau mwy ffraeth a geir gan y cwmni o Lanboidy.
Jane ac Owain sy'n cynllunio'r crysau ac am y tro cyntaf mae Siwl Di Mwl wedi cynhyrchu bagiau cord gyda'r geiriau Cymraes sydd, meddai'r cwmni, wedi bod yn gwerthu'n
Y crysau T newydd mwyaf poblogaidd hyd yn hyn yw The Italian Job a 颁锚蝉 i blant. . Ychwanegiad arall i'w casgliad ar faes yr Eisteddfod yw crys T yn cyfleu eu teimladau am ffrae iaith Ysgol Dewi Sant, gyda'r geiriau Dwi'n joio siarad Swahili, a Nimekasirika sef dwi'n grac mewn Swahili.
Mae'n debyg i'r crys yma fod yn boblogaidd ac mae'r cwmni wedi addo sypreis ar gyfrer yr Eisteddfod Genedlaethol - gwyliwch allan!
Ladi fach ac angel Dim ond ers tua blwyddyn mae Celtes wedi bod yn cynhyrchu crysau T ond maent wedi profi'n boblogaidd iawn gydag Eisteddfodwyr. Y rhai newydd ar y maes flwyddyn yma yw rhai Ladi Fach Gymreig, Im no angel but i'm learning the language of heaven, Mogi Mogi Mogi a Shwti Boi?.
Addewir llawer mwy o ddewis ar gyfer y Genedlaethol gan fod Llinos Mair, sydd wedi bod yn cynllunio ers tua deg mlynedd, yn gobeithio y bydd tua 16 o grysau T newydd yno. . Mae Celtes yn gwneud mwy na chrysau T gyda cylchau allweddi, cardiau, canhwyllau, pot pourri ac anrhegion Gwydr Lliw yn eu catalog.
Cadw cyfrinach Mae'n gyfrinach beth fydd gan Tic-Toc yn yr Eisteddfod Genedlaethol. . Alun Jones yw cynllunydd y cwmni pump oed o Fachynlleth a bu'n brysur iawn dros wythnos yr Urdd gyda Seren wedi bod yn boblogaidd. Crys arall sydd wedi gwerthu'n dda yw cariad@iaith.co.uk . . Dathlu pen-blwydd Ac yn olaf, y crys sy'n dathlu ei ben-blwydd yn ddeunaw oed eleni; Alff a Bet.
Cathryn Timothy o'r Rhuddlan, sy'n cynllunio'r crysau yma.
Fe ddechreuodd y busnes n么l yn 1985, gan greu y crys-T Hapus, sy'n dal yn boblogaidd.
Mae Cathryn yn hoff o gadw'r un geiriau ond newid eu cynlluniau ar y crysau.
Y cynllun diweddaraf sydd ganddi yw Catalunya sy'n gwerthu'n dda ar y maes.
"Dau berson bach dychmygol yw Alff a Bet," meddai Cathryn am enw'r cwmni, "ac on i eisiau chwarae ar y gair Alphabet."
Felly, yn amlwg mae'r busnesau crysau-T yn mynd o nerth i nerth, ac yn sicr, mae yna rhywbeth at ddant pawb yma!
Mwy o wybodaeth:
Cowbois :Cymru@virgin.netCeltes : www.celtes.co.ukAlff a Bet : alff.a.bet@amserve.netShwl di Mwl : shwldimwl@aol.com
|
|