Yn wahanol i lawer o lywyddion Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd doedd llywydd ddydd Iau ddim yn un a ddisgleiriodd ar lwyfan y Brifwyl.
Ond dywedodd Betsan Rees i'r Urdd newid ei bywyd hi yn llwyr.
Eglurodd y ferch a fu'n yn gwneud propiau ar gyfer y Gladiator a chymysgu gyda phersonoliaethau blaenllaw fel Russell Crowe a Peter Stringfellow i ennill gwobr gelf yn Eisteddfod yr urdd fod yn drobwynt yn ei bywyd.
"Doeddwn i, oedd ddim yn academaidd iawn yn yr ysgol. Dim ond average oeddwn i ond yn Eisteddfod yr Urdd dewisodd Sian Lloyd un o fy lluniau i fel yr un a hoffai orau mewn gweithdy celf ac allwn i ddim credu'r peth," meddai wrth gael ei holi gan 成人快手 Cymru'r Byd.
"Yr Urdd wnaeth i mi sylweddoli fod gen innau hefyd dalent ac y gallwch chi wneud rhywbeth heb fod yn academaidd. Fe wnaeth ennill yn yr Urdd newid fy mywyd i a rhoi hyder imi," meddai.
Ymhlith y lluniau mae'n dal i'w gofio y mae mochyn pinc mewn dillad bale a wnaeth pan yn yr ysgol gynradd.
Ychwanegodd ei bod yn dal i deimlo'n emosiynol ynglyn 芒'r hyn a ddigwyddodd.
"Mae pawb yn cael cyfle gyda'r Urdd," meddai.
Aeth Betsan sy'n dod o Drebannos ac newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 28 yr wythnos ddiwethaf, i Brifysgol Wolverhampton. Ei gwaith cyntaf oedd ar greu Tecwyn y Tractor ar gyfer cyfres deledu.
Ar y ffilm Gladiator gyda Russell Crowe hi oedd yn cynllunio addurniadau ar gyfer gwisgoedd.
Mae gwisgoedd ganddi a welwyd ar Sex and the City yn cael eu gwerthu ar Fifth Avenue, Efrog Newydd.
Ond mae'r ferch sydd wedi profi cymaint o lwyddiant yn ei maes yn priodoli'r cyfan i'r hyder a enillodd drwy ei llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd. "Edallai i'r Urdd newid cwrs fy mywyd i ac na fyddwn i wedi cyflawni dim onibai am hynny ac rydw i'n dal yn emosiynol iawn ynglyn 芒'r holl beth. Yn enwedig heddiw a minnau yn llywydd y dydd," meddai.
Y mae hi ei hunan yn gweithio ymhlith pobl pobl ddifreinbtiedig fel nad ydynt hwythau yn colli cyfle y gallasai hi ei hunan fod wedi ei golli mor hawdd o beidio a disgleirio yn academaidd.
Ni fu bywyd Betsan heb ei dristwch. Collodd ei brawd dro'n 么l oherwydd canser a bu farw ei thad ychydig wedyn.
Mae'n awr yn byw yn Abertawe sydd yn adlewyrchiad o'i diddordeb mewn ffilmiau a'r celfyddydau.
"Mae thema i bob stafell. Un wedi ei sylfaenu ar Star Wars yn wyn, wyn, gyda saber lights. Y nefoedd ydi thema'r ystafell wely ac mae yna ystafelloedd eraill nad ydw i am ddweud amdanyn nhw! Meddai gan chwerthin.