成人快手

Ennill y Fedal Ddrama

Y Fedal Ddrama

Disgwyl beirniadaeth ond ennill Medal

Gobeithio gadael Eisteddfod yr Urdd gyda beirniadaeth go lew yr oedd Huw Alun Foulkes - ond mewn gwirionedd bydd yn mynd adref gyda'r Fedal Ddrama yn ei boced!

Cipiodd y myfyriwr 20 oed o Fethel ger Caernarfon y fedal gyda'r ddrama gyntaf iddo sgrifennu y tro cyntaf erioed iddo gystadlu ar y gystadleuaeth hon.

"Yr oedd yn ffantastig," meddai. "Yn deimlad anhygoel - beirniadaeth yn unig oeddwn i'n ei ddisgwyl. Allai ddim coelio'r peth!"

Yr oedd ei ddrama, Tra Bo Dau yn un o bedair a gyrhaeddodd y dosbarth cyntaf yn y gystadleuaeth gyda'r beirniaid, Lowri Hughes a Dafydd Llywelyn yn canmol ei "chyfanwaith emosiynol dirdynnol".

"Ei chryfder yw ei symlder ac mae'r cyffyrddiadau ysgafn a'r ddeialog yn llifo'n esmwyth," meddai Lowri Hughes wrth draddodi'r feirniadaeth.

Ychwanegodd mai ei chryfder arall diamheuol oedd ei chymeriadau.

"Mae'r berthynas rhwng y ddau gymeriad yn ennyn sylw o'r dechrau i'r diwedd a phatrymau y gemau geiriol a chorfforol yn codi chwerthin a chydymdeimlad," meddai.

Dywedodd yr awdur mai dau gymeriad sydd yn y ddrama - g诺r gweddw yn ei saithdegau a llanc ifanc 25 oed.

"Mae elfen o hiwmor," meddai, "ochr yn ochr 芒'r difrifoldeb."

Dywedodd iddo sgrifennu'r ddrama fel rhan o'i gwrs gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Mi fydd hi'n ddiddorol gweld yn awr beth fydd y marc!" meddai.

Wedi graddio gobaith Huw yw dilyn cwrs meistr mewn sgrifennu creadigol ond ychwanegodd mai ei fwriad yw dilyn gyrfa newyddiadurol yn y pen draw.

Cerddoriaeth yw ei ddiddordeb arall ac ef yw arweinydd c么r Aelwyd Y Waun ddyfal, Caerdydd, a fydd yn cystadlu yn yr eisteddfod hon ddydd Sadwrn.

Bydd yn cystadlu'n unigol hefyd ar yr Unawd Cerdd Dant ac mewn ensambles.


成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.