成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dubai Cymdeithas Gymraeg newydd
gan Eirian Haslero Dubai
dydd Mercher, Mawrth 1.

Bydd y gymdeithas Gymraegdramor fwyaf newydd yn y byd yn cynnal ei chyfarfod Gwyl Dewi cyntaf yfory, Mawrth 2.

Mae Clwb Cymry Dubai yn un ieuanc iawn o'i gymharu a rhai eraill yn y rhan yma o'r byd. Er enghraifft,sefydlwyd clwb Cymraeg yn Bahrain dros ugain mlynedd yn ôl ac y mae cymdeithasau sefydlog hefyd yn Kuwaitag Abu Dhabi.

Mae'r arwyddion cynnar yn argoeli'n dda i'r Clwb diweddara yma yng ngwlad yrhaul a'r tywod.Daeth dros 120 o bobl ynghyd i'r cyfarfod cyntaf fis Ionawr - a phawb yncydweld ei bod yn hen bryd cael sefydliad o'r fath yma.

Hwyr y nos
Roedd sain caneuon Tom Jones a Shirley Bassey i'w clywed tan yn hwyr yn y nos gyda Chymry o bob oed yndod i adnabod ei gilydd am y tro cyntaf ac eraill yn ail-gynneu cyfeillgarwch oedd wedi cychwyn flynyddoeddyn ôl mewn gwledydd eraill.

Daeth y Clwb i fodolaeth yn sgil criw o Gymry yn trafod sut i ddathlu Dydd GwylDewi cynta'r mileniwm.

"Mae pob cenedl arall wedi bod yn dathlu eu gwyliau mewn ffordd arbennig bob blwyddyn ac yr oedd ynhen bryd i'r Cymry wneud yr un fath," eglurodd Julian Phillips o Dreorci sy'n gadeirydd y Clwb. Mae o'nbyw yn Dubai ers chwe blynedd.

Ychwanegodd iddo gael ei syfrdanu gan yr ymateb i hysbyseb a roddodd mewn papur lleol a'i fod yn hapusiawn gyda faint ddaeth i'r cyfarfod cyntaf yn Ionawr a'r ymateb anhygoel a gafwyd ar gyfer noson GwylDewi.

Yn y dull traddodiadol Gymreig roedd yn rhaid cael pwyllgor i ddod a phopeth i fwcwl gyda dros 300o Gymry yn edrych ymlaen at fwynhau gwledd Gwyl Dewi yn un o westai Dubai yng nghwmni'r gwr gwadd, PhilSteele o adran chwaraeon 成人快手 Cymru Wales. Bydd pwyllgor llawn yn cael ei ethol ar ol Gwyl Dewi.

I sylw'r miloedd
Ymhlith y cynlluniau lu sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol y mae un i ddod a Chymru i sylw y miloeddo bobl sydd yn heidio i Wyl Siopio enwog Dubai bob blwyddyn.

Mae Julian yn gobeithio cydweithio a'r Cynulliad Cenedlaethol i drefnu dathliad o fwyd o Gymruyn ystod yr Wyl y flwyddyn nesaf.

I gefnogi hyn mae yn gobeithio y bydd Côr Meibion Treorci a drymwyr y Ffiwsilwyr Cymreig yn dod allan yma yn ystod yr Wyl a thrwy hynny dynnu sylw at Gymru a'r cwmniau Cymreig sydd yn y rhan hon o'r byd.

Rygbi
Er gwaethaf y tywydd poeth mae rygbi yn dal yn boblogaidd yma gyda Julian yn un o drefnwyr gornest ryngwladoli fechgyn ysgol dan 19 bob Pasg.

Unwaith eto eleni bydd Coleg Llanymddyfri yn cynrhychioli Cymru yn y gystadleuaeth sy'n denu timau o Seland Newydd, Awstralia, De Affrica, Zimbabwe, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon a'r Emirates.

Y llynedd cafodd pedwar o fechgyn Llanymddyfri eu dewis ar gyfer tîm gorau'r wyl.

Eleni mae Julian yn gobeithio y caiff y bechgyn gyfle i ddod i weld mwy ar fywyd y rhan hon o'r byd drwy aros gyda theuluoedd Cymreig yn y Gwlff yn ystod y twrnameint.

(Mae Eirian Hasler wedi bod yn byw yn Dubai ers bron i ddwy flynedd bellach ac yn ohebydd i'r prifgylchgrawn hamdden What's On. Yn hanu o Gonwy, yng ngogledd Cymru, bu'n olygydd ar y North Wales Pioneera'r North Wales Chronicle, Papurau Newydd Gogledd Cymru, cyn symud i fyd cysylltiadau cyhoeddus yng Nghaerdydda Llundain.)

Ydych chi o Gymru ac yn byw dramor? Anfonwch eich hanes i'r ddalen hon a chreu cysylltiad gyda Chymrytramor eraill drwy Gymru'r Byd.

Ein cyfeiriad ebost yw: newyddionarlein@bbc.co.uk




dwyrain_canol

Dubai
Tom yn dal i dynnu'r dillad isaf!

Cyffro'r ymladd teirw yn y Dwyrain Canol

Cyri'r Cofi yn y gwres

Cymdeithas Gymraeg newydd

Priodi'r un dyn deirgwaith!

Ar drothwy Ramadan

Rhynnu yn y gwres

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy