成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Yn Dubai Priodi'r un dyn deirgwaith!

Neidiodd Hywel Gwynfryn ar ei feic a mynd i weld y byd ar gyfer cyfres deledu

Ebrill 2002

Rhaglen 6 - Dubai
Yn rhaglen olaf Ar Dy Feic mae Hywel Gwynfryn yn. Dubai lle bydd yn cyfarfod Gwyneth Pritchard, yn wreiddiol o'r Felinheli a'r Wyddgrug.

Mynychodd Gwyneth Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug a Choleg Cerdd a Drama, Caerdydd, lle cyfarfu a'i gwr Abraham. Dilynnodd ef a setlo yn Dubai 20 mlynedd yn ôl.

"Dwi wedi priodi Abraham dair gwaith," meddai. Gwyneth, 46 oed. "Unwaith yn y ffordd Fwslemaidd, wedyn mewn swyddfa gofrestru ac yna mewn eglwys yn Yr Wyddgrug."

Mae ganddyn nhw ddau fab, Ryan - gafodd ei enwi ar ôl Ryan Davies - a Zayed, sydd ychydig dros ei flwydd.

I'r rasus

Wedi cael croeso Arabaidd yng nghartref Gwyneth, i ffwrdd â Hywel i'r rasus byd-enwog 'Y Dubai World Cup', lle gwêl ddwy ochor cymdeithas Dubai - y trigolion lleol, a'r ex-pats' yn eu hetiau crand.

Dau arall y bydd Hywel yn cwrdd â nhw yw Cai Roberts o Gaernarfon a Catrin o Langefni - gwr a gwraig yn eu hugeiniau cynnar.



Hywel efo Abraham, Ryan a ZayedBu Cai fod yn athro yn Ysgol Ardudwy, Harlech, a Catrin yn gweithio ym modurdy ei thad.

Bellach mae Cai yn athro mewn ysgol gynradd breifat yn Dubai, lle mae'r plant i gyd, yn blant i filiynwyr.

Anrheg i'r wraig

Bydd Catrin yn tywys Hywel i'r 'Souk Aur' i chwilio am anrheg i'w wraig, lle mae'n cymryd mantais o'i chefndir o werthu ac yn yn llwyddo i fargeinio'n galed gyda'r gwerthwyr .

Bydd y rhaglen yn rhoi cip ar ddinas gyfoethog Dubai, a dyfodd o ddiffaethwch pur - 30 mlynedd yn ôl, doedd ddim datblygiadau yma - dim ond ychydig o gytiau pysgotwyr lleol.

Ar Dy Feic, dydd Sul, Ebrill, 21, 成人快手 Cymru ar S4C. 20.30.

- Yr wythnos nesaf bydd Hywel Gwynfryn yn edrych yn ôl dros y gyfres mewn erthygl arbennig i 成人快手 Cymru'r Byd - ac yn edrych ymlaen at y gyfres nesaf. Dewch yn ôl i y wefan ddydd Mawrth

-




dwyrain_canol

Dubai
Tom yn dal i dynnu'r dillad isaf!

Cyffro'r ymladd teirw yn y Dwyrain Canol

Cyri'r Cofi yn y gwres

Cymdeithas Gymraeg newydd

Priodi'r un dyn deirgwaith!

Ar drothwy Ramadan

Rhynnu yn y gwres

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy