成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America
Tiger Woods yn rhy brysur yn chwilio am ei bêl i ymuno a'r dathliadau!

Dydd iau, Mawrth 1, 2000

Cyfarchion Gwyl Dewi o Siapan
Y mae Gwyl Dewi yn gwawrio'n gynt yma nac yng Nghymru ac erbyn i bawb acw godi mi fydd aelodau Cymdeithas Dewi Sant Siapan yn dechrau paratoi i ddathlu'r wyl yng Nghlwb Gohebyddion Estron Tocio.

Yr ydym yn disgwyl dros drigain o bobl efo ddiddordeb yng Nghymru - Siaponwyr sydd wedi byw yng Nghymru neu dderbyn addysg yng Nghymru, dysgwyr yr iaith, pobl o'r Byd Newydd efo neiniau neu deidiau Cymraeg, Cymry di-Gymraeg ac ambell i Gymro Cymraeg.

Yr ydym am wrando ar Tim Harris (athro, actor a chyn fugail) yn darllen barddoniaeth Gymraeg ac mewn cyfieithiad, a'r gantores opera Miki Sahashi (ar un adeg yn canu yng Nghaerdydd) yn cynnwys sawl cân Gymraeg ar ei rhaglen.

Mi fydd Cangen Kansai, a gychwynwyd gan Marilyn Lloyd Amako (o Wrecsam) y llynedd yn dathlu'n grachach efo'r Gwyddelod yng Nglwb Kobe, Dewi a Padrig efo'i gilydd ar Fawrth 10.

Dymuniadau Gwyl Dewi gorau o Zwshi lle mae hi'n bwrw'n go iawn a digonedd or narsisi cysefin yn blodeuo yn yr ardd, ond y cennin pedr, yn wrieddiol o Sioe Môn, heb agor eto.

Cyfarchion cynnes
Catharine Huws Nagashima Aelodau Cymdeithas Dewi Sant Siapan

Chwysu efo Tiger Woods yn yr anialwch
!
Ar diwrnod Gwyl Dewi Sant bydd Dai a Suzanne Walley o'r anialwch yn Dubai, United Arab Emirates, Y dwyrain Canol (a oedd yn gweithio yn Rhosneigr, Sir Fôn) arl y cwrs golff i weld 'Tiger Woods' yn chwarae yn y 'Desert Classic'.

Ond ar ôl y golff byddyn yn cael swper Cymreig adref efo ffrindiau o dde Cymru.

Bydd y Ddraig Goch allan yn yr ardd a fe gawn swn Côr Meibion y Traeth a Max Boyce cyn diwedd y noson.

Mae Tiger wedi gael gwahoddiad hefyd ond bydd yn rhy brysur yn chwilio am ei bêl medda fo.

Gyda dymyniadau da i bobl Gymraeg a'r holl fyd.
Dai a Suzanne - Chwys doman yn yr anialwch.

Gwledd yn America

Bydd Cymdeithas Gymreig Dewi-Sant Ardal y Brifddinas yn Albany, Efrog Newydd, yn dathlu Gwyl Dewi-Sant fel bydd llawer o gymeithasoedd yn America yn ei wneud: trwy gael gwledd fawr efo adroddiadau a chanu a chofio hen gyfeillion.

Byddan ni, yng nghymdeithas Albany, yn cael gwledd yng nghanolfan gyfarfod yr Holiday Inn, Turf, efo dyn yn canu'r piano yn ysgafn yn ystod y pryd o fwyd, a pice main a cheninen Pedr ar bob bwrdd.

Ar ôl inni fwyta, bydd cyfarfod busnes gennym ni, ac wedyn byddan ni'n canu hen ganeuon Cymru cyn mynd gartref.
Robert J. Jones




dwyrain_canol

Dubai
Tom yn dal i dynnu'r dillad isaf!

Cyffro'r ymladd teirw yn y Dwyrain Canol

Cyri'r Cofi yn y gwres

Cymdeithas Gymraeg newydd

Priodi'r un dyn deirgwaith!

Ar drothwy Ramadan

Rhynnu yn y gwres

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy