成人快手

Maria Pride

Maria Pride: Actor - enillydd

21 Hydref 2009

Maria Pride yw enillydd Mastermind Cymru Nadolig 2009. Wrth ymateb i'w llwyddiant, meddai: "Ro'n i wedi synnu ac yn dal i ryfeddu. Fy ymateb cynta i oedd "Fancy that!" Ro'n i wedi disgwyl i'r rownd cwestiynau cyffredinol fod yn eitha siomedig ond mi wnes i'n dda! Ma'n rhaid fy mod i wedi cael cwestiynau rhwydd!"

Bydd tlws Mastermind Cymru yn cadw cwmni i wobr Bafta Cymru ar silff ben t芒n Maria, drws nesa' i'w physgodyn aur!

Pwnc arbenigol: ffilmiau arswyd Saw

Oeddech chi'n hapus efo'ch perfformiad?

O'n i'n hapus iawn gyda 'mherfformiad. Ond mi on i'n teimlo'n dwp pan ges i'r atebion i'r cwestiynau wnes i basio arnyn nhw. Erbyn hyn, ma nhw'n gwestiynau rhwydd ond ar y pryd doedd dim syniad 'da fi!

Oeddech chi'n nerfus wrth eistedd yn y gadair du?

On i'n stiwpid o nerfus wrth eistedd yn y gadair ddu. Fi odd gyntaf hefyd!

Pam ddewisoch chi eich pwnc arbenigol?

Dewisais i 'mhwnc arbenigol i oherwydd fy mod i'n hoff iawn iawn o ffilmiau arswyd a 's'dim lot o bobl yn gwbod 'na amdana'i. O'n i wedi ystyried gwneud gwaith y'n hoff nofelydd i, Gabriel Garcia Marquez, ond o'dd hwnna'n golygu lot o waith darllen, a dwi mor brysur yn darllen sgriptiau Pobol y Cwm, s'dim amser sbar 'da fi. Mi oedd hi'n haws gwylio dvds ffilmiau Saw.

Oedd y profiad yn y gadair ddu beth roeddech chi'n ei ddisgwyl?

Doedd gen i ddim disgwyliadau am y gystadleuaeth o gwbwl a don i ddim yn poeni rhyw lawer chawith, nes i fi glywed y gerddoriaeth! A wedyn, mi on i'n teimlo'n s芒l ac yn difaru 'mod i wedi cytuno i gymryd rhan.

A oedd cystadleuaeth frwd rhwng yr enwogion?

Mi oedd 'na dipyn o chwerthin yn digwydd rhyngton ni ac edmygedd, ond nid cystadleuaeth.

Sut mae eich gwybodaeth gyffredinol?

Mae 'ngwybodaeth gyffredinol i fel arfer yn salw! Pan dwi'n mynd i'r cwis yn y 'nhafarn leol i, sai'n ateb dim

Felly, pwy adeiladodd Gastell Caernarfon?

Bob The Builder? [agos, ond Edward Iaf yw'r ateb cywir].

Mwy am Maria Pride ...

Mae Maria Pride ar hyn o bryd yn chwarae rhan cymeriad brith o'r enw Debbie Collins sy'n fam i dri o blant yng nghyfres hirhoedlog y 成人快手, Pobol y Cwm. Mae wedi ymddangos ar sawl cyfres deledu a ffilm yn Gymraeg ac yn Saesneg gan gynnwys y Pris, The Bench, Tipyn o St芒d, Con Passionate, Iechyd Da a Llid y Ddaear/Angry Earth.

Daw'n wreiddiol o bentref Rhydyfelin ger Pontypridd ac aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen. Graddiodd mewn Cymraeg a Drama ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth yn 1991 ond ni aeth i goleg drama gan ddysgu, yn ei geiriau hi, "ar y job". Actiodd yn broffesiynol am y tro cyntaf pan oedd yn un ar ddeg mlwydd oed ar gyfres deledu o'r enw Nobody's Hero i deledu Thames. Ei swydd gyntaf 'go iawn' oedd i HTV ar y rhaglen i blant, Sblat!, pan oedd yn 17 mlwydd oed.

Enillodd wobr Bafta Cymru am yr actores orau yn 2000 am ei rhan mewn drama ddogfen rymus am gam-drin plant, Care.

Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i g诺r, Gavin, wedi iddyn nhw briodi ar ynys fechan Santorini yng ngwlad Groeg yn 2007.


Mastermind Plant

Joseff gyda thlws 2009

C'mon Midffild!

Joseff yn sgorio'r marciau uchaf i ennill tlws 2009.

Lluniau

Huw Stephens yn adolygu

Tu 么l i'r llen

Sut mae'r s锚r yn mynd ati i adolygu? Cip ar eu paratoadau munud olaf.

Gwyliwch Mastermind Cymru a rhaglenni eraill 成人快手 Cymru ar iPlayer.

Y Cyflwynydd

Betsan Powys

Betsan Powys

Gwleidyddiaeth yw pwnc arbenigol Betsan Powys tu allan i stiwdio Mastermind.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.