成人快手

Huw Stephens: Cyflwynydd Radio 1 a Radio Cymru

21 Hydref 2009

Pwnc arbenigol: bywyd a gyrfa John Peel

Oeddech chi'n hapus efo eich perfformiad?

Ro'n i'n hapus gyda fy mhwnc, sef Bywyd John Peel, a nes i fwynhau darllen am ei fywyd diddorol ar gyfer y rhaglen. Roedd cwpl anodd mewn yna, ond dyna be chi'n ei ddisgwyl o gwis ynde. Roedd y cwestiynau cyffredinol yn fwy anodd. Fel fi'n gweud, fi'n eitha da yn y cwestiynau yma cyn belled fod y pynciau ddim yn cyffwrdd hanes, ieithoedd, gwyddoniaeth, daearyddiaeth, diwylliant modern ayb.

Oeddech chi'n nerfus wrth eistedd yn y gadair du?

Yn hynod o nerfus. Fi wedi ei gweld ar y teledu ers mod i'n fach felly roedd eistedd ynddi yn eitha rhyfedd. Unwaith chi wedi eistedd i lawr mae'r ofn yn mynd dipyn bach; gweld a cherdded at y gadair yw'r peth rhyfedda.

Pam ddewisoch chi eich pwnc arbenigol?

Mae John Peel wedi ein gadael ni ers pum mlynedd bellach; roedd e'n arwr i fi. Roedd ei raglenni radio yn berlau, ei gariad at gerddoriaeth yn golygu fod y rhaglenni'n ddiddorol ac yn ddifyr ac yn wahanol i raglenni eraill ar yr awyr. Ges i gwrdd 芒 fe cwpl o weithiau drwy fy ngwaith yn Radio 1 a fues i yn ei d欧 yn cyfweld ag e am y band Datblygu. Roedd e'n ffan mawr ohonyn nhw ac yn hoff iawn o Gymru a'n iaith ni.

Oedd y profiad yn y gadair ddu beth roeddech chi'n ei ddisgwyl?

Oedd. Ro'n i wedi bod yn DJo y noson gynt mewn clwb nos yn Llundain ac ro'n i ar fin cychwyn i DJo yng Nghaernarfon syth ar 么l y recordio, felly roedd fy mhen ar chw芒l dipyn bach. Ond nes i fwynhau y profiad mewn ffordd poenus.

A oedd cystadleuaeth frwd rhwng yr enwogion?

Es i mewn i stafell Steffan Rhodri cyn y rhaglen a gofyn iddo fe am Gavin and Stacey a phethe felly, ac roedd e'n ddyn hyfryd. Roedd Non a Maria mewn hwyliau da hefyd, felly nes i ddim gweld unrhyw gasineb neu chystadleuaeth amlwg rhyngddom ni.

Sut mae eich gwybodaeth gyffredinol?

Gwael. Os yw'r cwestiynau am gerddoriaeth ma ne siawns y gwnai wneud yn dda ond gyda'r enw 'cyffredinol' gall y cwestiynau fod am unrhyw beth. Ond ma rhaid tr茂o'r pethe yma yndoes?

Felly, pwy adeiladodd Gastell Caernarfon?

John ac Alun? [cynnig da, ond anlcws - Edward Iaf yw'r ateb cywir].

Mwy am Huw Stephens ...

Pan gafodd Huw ei ddewis i gyflwyno Session in Wales gyda Bethan Elfyn roedd ar ganol gwneud ei arholiadau lefel A ac, yn 17 oed, daeth yn un o DJ's ieuengaf Radio 1. Bellach mae ganddo ei sioe ei hun ar Radio 1 ar nos Fercher a nos Iau ac ar C2, Radio Cymru, ar nosweithiau Llun a Mawrth.

Daw ei fam o Aberystwyth a'i dad o Bontypridd ond brodor o'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd ydy Huw a dechreuodd ymddiddori mewn DJio pan ddechreuodd wneud rhaglenni radio yn ysbyty Rockwood yn y brifddinas yn ei arddegau cynnar.

Mae'r diweddar John Peel yn un o'i arwyr a phan fu farw, dewiswyd Huw ynghyd 芒'r DJ's Rob da Bank a Ras Kwame i gyflwyno yn ei le ar raglenni One Music Radio 1.

Mae'n treulio llawer o amser ar y ffordd - yn byw rhwng Caerdydd a Llundain, yn ymweld 芒'i gariad, Sara, sy'n gweithio ym Mrwsel ac yn teithio'r byd yn canfod cerddoriaeth newydd ar gyfer ei raglenni radio.

Wedi ei ysbrydoli gan ei ymweliad cyntaf 芒 g诺yl South by South West yn Austin, Texas, sefydlodd ef a'i gyfaill Jon Rostrom eu g诺yl gerddoriaeth eu hunain yng Nghaerdydd, g诺yl S诺n. Mae hefyd yn adnabyddus fel cyflwynydd rhaglen Bandit ar S4C.


Mastermind Plant

Joseff gyda thlws 2009

C'mon Midffild!

Joseff yn sgorio'r marciau uchaf i ennill tlws 2009.

Lluniau

Huw Stephens yn adolygu

Tu 么l i'r llen

Sut mae'r s锚r yn mynd ati i adolygu? Cip ar eu paratoadau munud olaf.

Gwyliwch Mastermind Cymru a rhaglenni eraill 成人快手 Cymru ar iPlayer.

Y Cyflwynydd

Betsan Powys

Betsan Powys

Gwleidyddiaeth yw pwnc arbenigol Betsan Powys tu allan i stiwdio Mastermind.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.