Joseff, Y Bala - enillydd Mastermind Plant Cymru 2009
Enillydd rhaglen 5
Pwnc arbenigol rhaglen 5:
Llyfrau'r gyfres Gwaed Oer
Pwnc arbenigol y ffeinal:
C'mon Midffild!
Mewn rownd derfynol gyffrous a stiwdio llawn tensiwn Joseff o'r Bala ddaeth i'r brig i gipio teitl Mastermind Plant Cymru 2009 gyda dim ond un pwynt yn ei wahanu o a Rhys o Gaerdydd.
Yn y rownd gyntaf roedd Joseff yn ateb cwestiynau ar lyfrau'r gyfres Gwaed Oer ond rhaglenni C'mon Midffid oedd ei destun ar gyfer y rownd derfynol, comedi a gafodd ei darlledu cyn iddo gael ei eni.
"Mae pawb yn licio C'mon Midffild ac mae wedi bod yn ddoniol ers iddo gael ei wneud a bydd yn dal yn ddoniol mewn blynyddoedd i ddod," meddai Joseff.
"Mae pob un cymeriad yn gymeriad mor gryf ac mae'r sgwennu'n anhygoel hefyd." Mae Joseff ei hun yn hoffi ysgrifennu a darllen ac mae'n aelod o Sgwad Sgwennu ei sir.
Er nad yw'n hawdd ateb cwestiynau pan rydych chi'n eistedd yn y gadair ddu o dan y llifoleuadau llwyddodd Joseff i ymlacio ac ymddangos yn gartrefol o dan y pwysau ac yntau wedi hen arfer 芒 pherfformio o flaen cynulleidfa. Mae'n gyn enillydd Eisteddfodol, yn actio mewn clwb lleol ac roedd yn perfformio yn y pasiant yn Eisteddfod y Bala 2009.
Ei hoff bynciau yn yr ysgol yw Cymraeg, Saesneg a Daearyddiaeth, ac yn ei amser hamdden mae hefyd yn mwynhau chwarae rygbi a ph锚l-droed a chan诺io.
"Do'n i ddim yn si诺r o ateb y cwestiwn olaf felly nes i guessio fo!" meddai gan chwerthin. "O'n i'n clywed pobl yn dweud 'wwww...' ar 么l i fi gael o'n iawn. Do'n i ddim yn cyfri'r sg么r ar y pryd ond yn trio canolbwyntio ar ateb y cwestiynau."
"Dwi wedi mwynhau'n fawr. Mi oedd o'n waith caled i baratoi ar gyfer y rowndiau ond mae wedi bod yn hwyl, yn enwedig cyfarfod y bobl eraill."
Cystadleuwyr
- Aran - Llyfrau Tin-Tin
- Dafydd - Y Simpsons, cyfres 5
- Daniel - Mytholeg Groeg
- Elliott - Y Titanic
- Ffion - Nofelau Roald Dahl
- Geraint - Ail gyfres Dr Who a The Chronicles of Narnia
- Gruffydd - Ffilmiau High School Musical 1-3
- Isabelle - The Inheritance Cycle Series
- Joseff - Llyfrau'r gyfres Gwaed Oer a C'mon Midffild!
- Lowri - Harri VIII a'i wragedd
- Lowri - Llyfrau Roman Mysteries a Trioleg Inkworld
- Lowri - Llyfrau Cathy Cassidy
- Matthew - Oes y Dinosoriaid
- Owen - Llyfrau Percy Jackson 1-5
- Rhun - Bywyd a gwaith Gwynfor Evans
- Rhys - Yr Ymerodraeth Rufeinig 133CC / Julius Caesar
- Rhys - The Vicar of Dibley a Clwb P锚l-droed Caerdydd
- Samuel - Ffilmiau James Bond, cyfnod Brosnan
- Sara - Bywyd T. Llew Jones a Llyfrau Malory Towers
- Seran - Ffilmiau Harry Potter 1-5
Mwy
Gwyliwch Mastermind Cymru a rhaglenni eraill 成人快手 Cymru ar iPlayer.