Tywysogion ac Esgobion 1135 - 1485
Bu'r Eglwys yn arf yn y frwydr rhwng y tywysogion brodorol ag arglwyddi'r Mers. Rhoddodd y brenin Edward y Cyntaf ddiwedd ar annibyniaeth Cymru yn 1282, er i wrthryfel Glynd诺r ymhen ychydig dros ganrif fygwth goruchafiaeth Caergaint unwaith eto.
Yn dilyn marwolaeth Harri'r Cyntaf yn 1135, bu'n gyfnod o anhrefn ar Loegr. Dyma gyfle i'r tywysogion brodorol megis Rhys ap Gruffudd o'r Deheubarth - a gafodd ei adnabod wedyn fel 'Yr Arglwydd Rhys' - i adennill tir a gollwyd.
Drwy gyfuniad o i'w allu gwleidyddol a llwyddiant milwrol, fe gafodd Rhys ei gydnabod fel prif reolwr brodorol y ddeuddegfed ganrif. Roedd ei gefnogaeth i'r Sistersiaid yn ddatblygiad pwysig ym mywyd seciwlar a chrefyddol Cymru'r canol oesoedd.
Daeth y Sistersiaid i Gymru, ynghyd ag urddau mynachaidd eraill, wrth i rym y Normaniaid gynyddu. Un o'u swyddogaethau oedd darparu cefnogaeth ysbrydol i awdurdod y Normaniaid, ond roeddynt hefyd yn gyfrifol am ddatblygu sawl agwedd ar economi Cymru. Yn wir y Sistersiaid sydd yn cael y diolch am gychwyn y diwydiant gwl芒n yng Nghymru.
Fodd bynnag, yn dilyn nawdd yr Arglwydd Rhys buan y cafodd y Sistersiaid eu mabwysiadu gan feistri Cymreig eraill. Erbyn diwedd y ddeuddegfed ganrif roeddent wedi gwreiddio yn nhir daear Cymru, ac yn gefnogol iawn bellach i ddiwylliant Cymru ac i amcanion gwleidyddol yr arweinwyr brodorol.
Clerigwr amlyca'r oes oedd Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis), oedd yn rhannu'r un llinach 芒'r Arglwydd Rhys o hen frenhinoedd y Deheubarth. Closiodd Gerallt at y rheolwyr Normanaidd, er ei fod yn gefnogol i rai agweddau o annibyniaeth Gymreig, hefyd, yn enwedig mewn materion eglwysig.
Ei uchelgais oedd cael gwneud Tyddewi yn Archesgobaeth. Ond yn hwyr yn y ddeuddegfed ganrif fe rwystrwyd y bwriad hwn gan Gaer gaint. Eto i gyd mae Gerallt yn parhau'n ffigwr bwysig o ganlyniad i'w weithiau ysgrifenedig yn delio gyda gwleidyddiaeth a chrefydd yng Nghymru a'r Iwerddon.
Erbyn diwedd y drydedd ganrif ar ddeg dim ond y tywysogion a reolai Gwynedd oedd yn cael eu galw yn Dywysogion. Arweiniwyd y frwydr dros dywysogaeth Gymreig annibynnol gan Llywelyn y Cyntaf a'i 诺yr Llywelyn yr Ail. Ond fe gafodd yr ymgyrch ergyd farwol pan laddwyd Llywelyn yr Ail, ('Llywelyn ein Llyw olaf') yng Nghilmeri yng Nghanolbarth Cymru yn Rhagfyr 1282. Cafodd ei gorff (heb ei ben) ei gladdu gan fynachod Sistersiaid yn Abaty Cwm-hir nid nepell o'r fan lle y'i lladdwyd.
Wrth i annibyniaeth wleidyddol Cymru gael ei diffodd, fe ddaeth yr eglwys yng Nghymru yn gadarn o dan reolaeth Caer gaint. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg, fe gwynodd clerigwyr Cymreig bod y swyddi gorau yn yr eglwys yng Nghymru yn cael eu rhoi i glerigwyr yn Lloegr, ac aeth llawer o'r incwm o'r eglwysi Cymreig dros Glawdd Offa tua'r dwyrain.
Bwydodd y rhwystredigaeth glerigol i mewn i wrthryfel Owain Glynd诺r a barodd o 1400 tan 1410. Ymysg cefnogwyr Glynd诺r cafwyd eglwyswyr amlwg fel John Trefor, esgob Llanelwy. Y cefndir i'r rhyfel oedd anghydfod dros goron Lloegr ac anghydfod yn y Babaeth. Cafodd yr ymgyrch ddimensiwn rhyngwladol diolch i ymdrech y cefnogwyr eglwysig, ac eto, er ymdrechion glew, cafodd y gobeithion am annibyniaeth Gymreig eu chwalu ac fe ail-sefydlwyd goruchafiaeth Caer gaint.
O fewn can mlynedd, fe fyddai teulu o dras Gymreig, a chyda chysylltiad 芒 Glynd诺r, y Tuduriaid, yn hawlio coron Lloegr. Yn ystod eu teyrnasiad, daeth diwedd ar yr Eglwys Gatholig Rufeinig yng Nghymru, ac fe gafwyd newidiadau sylfaenol yn y modd c芒i'r wlad ei llywodraethu.
Mwy
- Crefydd Cyn Cristnogaeth
- Y Rhufeiniaid a dyfodiad Cristnogaeth
- Oes y Seintiau
- Y Bygythiad Normanaidd
- Tywysogion ac Esgobion
- Y Diwygiad Protestannaidd
- Rhyfel Cartref
- Cychwyn Anghydffurfiaeth
- Emynwyr a Phregethwyr
- Pobl Anghydffurfiol
- Diwydiant a Dirwest
- Diwylliant a Gwleidyddiaeth
- Y Diwygiad
- Twf Seciwlariaeth
- Cymru Amlddiwylliannol
Cysylltiadau'r 成人快手
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.