Y Diwygiad Protestannaidd 1485 - 1640
Sefydlu llinach y Tuduriaid. O dan Harri'r Wythfed gadawodd Cymru a Lloegr yr Eglwys Rufeinig Gatholig. Un canlyniad oedd cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg.
Daeth Rhyfel y Rhosod i ben gyda brwydr Bosworth yn 1485 a buddugoliaeth y dyn a aned ym Mhenfro, Harri Tudur. Ef a gafodd ei goroni, maes o law, fel y Brenin Harri'r Seithfed.
Fe elwodd rhai Cymry yn sylweddol o'r newid hwn, a chafodd clerigwyr Cymreig eu dyrchafu i safleoedd oedd ar gau iddynt cyn hynny.
Dilynwyd Harri'r Seithfed gan Harri'r Wythfed, brenin a gwerylodd gyda'r P芒b gan ei fod yn dymuno ysgaru - yn groes i reolau'r eglwys - er mwyn priodi Anne Boleyn. Yn y pen draw, arweiniodd hyn at Gymru a Lloegr yn gadael yr Eglwys Gatholig Rufeinig.
Digwyddodd hyn fel yr oedd y Diwygiad Protestannaidd ar gerdded yn Ewrop. Er na ddaeth Harri yn Brotestant, roedd dylanwad rhai o'r syniadau newydd ar ei bolisi o bwysleisio ei awdurdod ef dros awdurdod y P芒b yn ei deyrnas ei hun.
Y llefydd cyntaf i deimlo'r newidiadau oedd y mynachlogydd, a gafodd eu diddymu mewn un str么c. Buont ar drai ers blynyddoedd, a phan gawsant eu cau gan y llywodraeth, ni fu fawr o brotest. Cafodd eu tir a'u cynnwys eu gwerthu, ac fe aeth yr elw at y brenin. Gadawyd yr adeiladau yn brae i'r elfennau.
Roedd y weithred hon o ryddhau tir a fu tan hynny ym meddiant y mynachlogydd yn gyfle i uchelwyr Cymreig uchelgeisiol gynyddu eu hystadau. Tan hynny, roedd cynyddu maint ystad yn broses hir a llafurus gan fod deddfau hynafol Hywel Dda o'r ddegfed ganrif yn dal mewn grym yng Nghymru, a thuedd y deddfau yma oedd i eiddo gael ei rannu yn unedau bychain yn lle ystadau mawrion.
Dyna'r is-them芒u a arweiniodd at Ddeddfau Uno 1536 a 1542, a ddiddymodd Arglwyddi'r Mers gan ymgorffori Cymru yn rhan o Loegr. Cafwyd cynrychiolaeth i Gymru yn y Senedd, gyda Chymry a Saeson yn cael eu trin yn gyfartal. Cafodd yr hyn oedd yn weddill o ddeddfau brodorol Cymru eu diddymu. Un o effeithiau'r broses hon oedd sefydlu'r Saesneg fel unig iaith 'swyddogol' Cymru, er na roddwyd llawer o sylw i hyn ar y pryd. Bu i nifer o'r uchelwyr oedd ar eu hennill drwy ddiddymu'r mynachlogydd barhau yn Gatholigion. Ond fel yr aeth y Diwygiad Protestannaidd yn ei flaen yng Nghymru a Lloegr o dan deyrnasiad y Tuduriaid - heblaw am gyfnod byr teyrnasiad Mari - fe ddechreuodd y Catholigion deimlo erledigaeth. Yng Nghymru, ymateb un bardd oedd rhoi'r enw 'ffydd Saeson' ar y grefydd newydd, ac roedd teimlad cryf bod y Cymry cael eu gorfodi i roi'r gorau i'w hen grefydd oherwydd gofynion y Saeson. Cafodd nifer o Gatholigion Cymreig eu merthyru, gyda llawer yn derbyn eu tynged yn llawen. Er enghraifft, cafodd yr offeiriad Cymreig Edward Morgan ei geryddu gan weinidog ar y sgaffald am fod yn rhy lawen wrth feddwl am gael mynd i'r nefoedd. Gwrthwynebodd Catholigion eraill y newidiadau mewn ffordd llai amlwg, drwy gadw draw o'r gwasanaethau eglwysig newydd. Felly fe basiwyd deddfwriaeth i gosbi'r rhain hefyd - roeddent yn wynebu dirwyon trwm ac yn cael eu hystyried yn ddrwgdybus iawn gan yr awdurdodau. Mae'n debyg i fwyafrif y Cymry dderbyn y newidiadau hyn, er iddynt, mae'n si诺r, alaru dros golli digwyddiadau lliwgar crefyddol yr hen drefn, megis pererindodau. Ond cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn ystod teyrnasiad merch Harri'r Wythfed, Elisabeth, a wnaeth eu troi nhw yn y pen draw yn bobl Brotestannaidd. Roedd gwneud Gair Duw yn ddealladwy i'r bobl yn rhan bwysig o egwyddorion y Diwygiad Protestannaidd. Canlyniad hyn oedd hyrwyddo syniadau newydd am safle'r brenin mewn cymdeithas Gristnogol. Fel y canfyddodd Siarl y Cyntaf, roedd canlyniadau hyn yn gallu bod yn farwol - yn llythrennol felly.
Mwy
- Crefydd Cyn Cristnogaeth
- Y Rhufeiniaid a dyfodiad Cristnogaeth
- Oes y Seintiau
- Y Bygythiad Normanaidd
- Tywysogion ac Esgobion
- Y Diwygiad Protestannaidd
- Rhyfel Cartref
- Cychwyn Anghydffurfiaeth
- Emynwyr a Phregethwyr
- Pobl Anghydffurfiol
- Diwydiant a Dirwest
- Diwylliant a Gwleidyddiaeth
- Y Diwygiad
- Twf Seciwlariaeth
- Cymru Amlddiwylliannol
Cysylltiadau'r 成人快手
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.