Cychwyn Anghydffurfiaeth 1689 - 1735
Gyda rhyddid crefyddol i Ymneilltuaeth, fe gafwyd cynnydd cyson mewn llythrennedd, a hyn yn paratoi'r ffordd at newidiadau mawr.
Gyda Deddf Goddefgarwch 1689, cafwyd rhyddid crefyddol i Ymneilltuaeth, tuedd annibynnol a ddaeth i fodolaeth yn ystod amser Oliver Cromwell. Bu'r Ymneilltuwyr yn glynu wrth eu credoau yn ystod y blynyddoedd o erledigaeth yn dilyn yr Adferiad. Cafodd y capeli Cymraeg cyntaf eu hadeiladu yn ystod y cyfnod hwn, un o'r esiamplau enwocaf oedd Maes-yr-Onnen ger Clas-ar-Wy, Powys.
Y cynnydd cyson mewn llythrennedd oedd yr hyn a hybodd llawer o'r datblygiad yn Ymneilltuaeth. Cafwyd hwb i'r broes hwn yn 1650 gyda Ddeddf Lledaeniad yr Efengyl. Bu nifer cynyddol o lyfrau crefyddol ar gael hyd yn oed cyn i'r Ddeddf Goddefgarwch ddod i rym.
Yng Nghymru, ymhlith y llyfrau nodedig a gyhoeddwyd yn ystod yr 1680au fe gafwyd Cannwyll y Cymry gan y Ficer Prichard, a'r cyfieithiad Cymraeg cyntaf o 'Daith y Pererin' gan John Bunyan. Roedd y gwaith hwn yn arbennig o ddylanwadol ar ffigyrau amlwg y diwygiad Methodistaidd yn hwyr yn y 18fed Ganrif.
Roedd cyfleoedd addysgol yn cynyddu yn y cyfnod yma diolch i waith cyrff fel yr Ymddiriedolaeth Gymreig. Sefydlwyd hon gan Thomas Gouge yn dilyn taith anghyfreithlon a wnaeth drwy Gymru yn 1671. Bwriad yr Ymddiriedolaeth oedd mynd i'r afael 芒'r safon isel o lythrennedd a fodolai ar y pryd.
Gan ddilyn dylanwad Piwritan arall, Stephen Hughes, a chan weithio yn y Saesneg i gychwyn, darparodd yr Ymddiriedolaeth gyfieithiad Cymraeg o'r Catecism, y llyfr Salmau a'r Llyfr Gweddi Cyffredin. Gwnaed hyn yn bosibl diolch i nawdd ariannol gan Arglwydd Faer Llundain, ymysg eraill.
Fodd bynnag, dim ond am gyfnod byr iawn y bu'r Ymddiriedolaeth yn weithgar. Yn fuan cafodd corff newydd ei sefydlu i barhau 芒'r gwaith, corff a ddaeth i amlygrwydd maes o law fel y Gymdeithas er Hybu Gwybodaeth Gristnogol, neu'r SPCK.
Roedd gan yr SPCK broblem fawr o ran prinder athrawon yn yr ysgolion, sefyllfa oedd yn waeth oherwydd y ffaith bod y dysgu yn digwydd yn y Saesneg tra bod mwyafrif y disgyblion yn uniaith Gymraeg.
Roedd Griffith Jones offeiriad Cymraeg a weithiai i'r SPCK, yn siomedig wrth weld mai'r Saesneg yn unig a ddefnyddiwyd yn y gwaith hollbwysig o achub eneidiau'r Cymry, ac fe benderfynodd wneud rhywbeth i wella'r sefyllfa.
Gyda chymorth y wraig elusengar o Sir Gaerfyrddin, Madam Bevan, dechreuodd ymweld ag ysgolion er mwyn dysgu sgiliau darllen ac ysgrifennu sylfaenol. Bu'r ysgolion yma yn llwyddiannus iawn, gan wneud nifer fawr o bobl Cymru yn llythrennog.
Credir i'r ysgolion, a sefydlwyd yn gynnar yn y 1730au, lwyddo i ddysgu sgiliau sylfaenol darllen ac ysgrifennu i oddeutu 200,000 o bobl, allan o boblogaeth o tua 450,000.
Yn dilyn marwolaeth Griffith Jones yn 1761 sicrhaodd Madam Bevan barhad yr ysgolion. Gwnaeth hanes yr ysgolion gymaint o argraff ar Ymerodres Rwsia, Catherine Fawr, fel iddi gomisiynu adroddiad arnynt yn 1764.
Bu'r cynnydd yma mewn llythrennedd yn ddiamau yn gymorth i baratoi'r ffordd ar gyfer digwyddiadau mawr rhan ola'r 18fed Ganrif, wrth i Gymru brofi'r Diwygiad Methodistaidd.
Mwy
- Crefydd Cyn Cristnogaeth
- Y Rhufeiniaid a dyfodiad Cristnogaeth
- Oes y Seintiau
- Y Bygythiad Normanaidd
- Tywysogion ac Esgobion
- Y Diwygiad Protestannaidd
- Rhyfel Cartref
- Cychwyn Anghydffurfiaeth
- Emynwyr a Phregethwyr
- Pobl Anghydffurfiol
- Diwydiant a Dirwest
- Diwylliant a Gwleidyddiaeth
- Y Diwygiad
- Twf Seciwlariaeth
- Cymru Amlddiwylliannol
Cysylltiadau'r 成人快手
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.