成人快手

Cymru a'r b锚l hirgron: yn y dechreuad

top
P锚l rygbi o flaen pyst

O'r Cnapan i Oes Aur y saithdegau a thu hwnt; rhan gyntaf hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn.

Gan Wyn Gruffydd

Ar feysydd Coleg Llambed ac yn unol 芒 rheolau ysgol fonedd Rugby y gwelwyd y g锚m gyntaf o rygbi yn cael ei chwarae yng Nghymru, ond mae rhai yn barod i gredu fod rhyw lun ar 'rygbi', sef y 'Cnapan' yn bodoli yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Rhyw frwydr ffyrnig ac afreolus rhwng pentrefi a phlwyfi tros bledren mochyn neu debyg oedd honno, ond gellir mynd n么l llawer ymhellach na'r ail ganrif ar bymtheg i ddarganfod g锚m debyg a chwaraewyd gan y Rhufeiniaid mewn ceyrydd megis Caerllion a Chaerwent.

Mae Athaneus, ysgolhaig o wlad Groeg yn yr ail ganrif yn s么n am g锚m llawn egni o'r enw Harpastum, gyda phasio'r b锚l, ffugbasio, sgrym, a llawer o chwerthin yn ganolog iddi. Ac mewn cyfeiriad arall gan Julius Pollux, ysgolhaig o'r un cyfnod, mae yna s么n am 'dwyllo' gyda chwaraewyr yn dangos y b锚l i un dyn, ac yna ei thaflu at ddyn arall.

Campws Llambed, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
Dywedir mai ar gaeau'r brifysgol yn Llambedy chwaraewyd y g锚m rygbi gyntaf yng Nghymru

Beth bynnag fo tarddiad y g锚m rygbi, fe gymerodd y Cymry ati gydag arddeliad ond mae'n debyg taw dewis Richard Mullock o d卯m swyddogol i gynrychioli Cymru i chwarae'r Saeson yn Blackheath ar y 19eg o Chwefror 1881 arweiniodd at sefydlu Undeb Rygbi Cymru lai na mis yn ddiweddarach. Daeth cynrychiolwyr o 11 o glybiau - Aberhonddu, Abertawe, Bangor, Caerdydd, Casnewydd, Llandeilo, Llambed, Llanelli, Llanymddyfri, Merthyr, a Phont-y-p诺l - i Westy'r Castell yng Nghastell Nedd ar y 12fed o Fawrth i ffurfio'r Welsh Rugby Football Union, a adnabyddir bellach fel Undeb Rygbi Cymru.

Efallai i'r cyfarfod gael ei brysuro oherwydd y goten a gafodd t卯m Mr. Mullock gan y Saeson ar faes Mr. Richardson yn Blackheath ger Llundain fis ynghynt. Colli fu hanes Cymru o saith g么l, un g么l adlam a chwe chais i ddim yn erbyn t卯m a fu'n chwarae ar y llwyfan rhyngwladol ers degawd gan golli ond dau brawf mewn dau ar bymtheg yn y cyfnod hwnnw. Yn 么l system sgorio'r dydd heddiw mi fuasai'r sgorfwrdd yn darllen Lloegr 82 - 0 Cymru. Fe 芒i naw mlynedd arall heibio cyn i Gymru drechu'r Saeson am y tro cyntaf ar faes Crown Flat yn Dewsbury ym 1890.

Roedd t卯m Arthur 'Monkey' Gould ar drothwy ei 'Oes Aur' gyntaf.

Oes Aur

Sicrhawyd y Goron Driphlyg ym 1893 ac ar 么l trechu'r Maori, y t卯m cyntaf i deithio i'r Deyrnas Unedig, ac yna Crysau Duon Seland Newydd a oedd yn ddiguro mewn 27 g锚m cyn hynny ar eu taith ym 1905, gallai Cymru yn iawn alw eu hunain yn Bencampwyr Byd. 3-0 i Gymru oedd y sg么r terfynol ar yr 16eg o Ragfyr ar Barc yr Arfau diolch i gais Teddy Morgan ond mae s么n a dadlau am y g锚m honno hyd y dydd heddiw, yn benodol am y cais na ganiatawyd i'r Kiwi, Bob Deans.

Symbol Ich Dien - Y Tair Pluen
Dewisodd Undeb Rygi Cymru symbol y tair pluen fel arwyddlun

Daeth 40,000 o bobl i Sain Helen Abertawe i wylio Cymru yn colli o 11-0 i'r Springboks ym 1906 a threchwyd Awstralia ddwy flynedd yn ddiweddarach o 9-6 yng Nghaerdydd. Dyma gyfnod arwyr megis Arthur Gould, Gwyn Nicholls, Willie Llewellyn, Percy Bush, Jehoida Hodges, Dickie Owen, Billy Trew, Boxer Harding a'r brodyr Bancroft, Billy a Jack, i gyd gyda'r gorau erioed i wisgo'r Crys Coch.

Roedd Cymru yn rym yn y g锚m fyd-eang erbyn hyn a daeth Camp Lawn mewn Oes Aur rhwng Mawrth 1907 ac Ionawr 1910 gyda Chymru yn ddiguro mewn 11 g锚m yn ystod y cyfnod hwnnw. Fe lwyddodd carfan Rob Howley i ailadrodd y gamp honno ym 1999 gan wneud hynny mewn cyfnod o wyth mis.

Sicrhawyd y Gamp Lawn ym 1908, 1909 a 1911, y Goron Driphlyg ym 1900, 1902, 1905, 1908, 1909 a 1911 at y buddugoliaethau hynny dros Seland Newydd ac Awstralia ym 1905 a 1908.

Y Crysau Duon

Dyddiau c诺n fu Dauddegau a Thridegau'r ganrif ddiwethaf ond fe ddaeth buddugoliaeth yn Twickenham, cartref newydd rygbi yn Lloegr, ym 1933 ac ail fuddugoliaeth o 13-12 dros y 'Crysau Duon' yng Nghaerdydd ym 1935. Dyma oes Jack Bassett, Ivor Jones, Ronnie Boon, Claude Davey a'r cricedwr a'r darlledwr a'u tebyg.

Cliff Morgan yn cyflwyno 'Welsh Sports Parade'
Roedd y darlledwr Cliff Morgan yn un o fawrion t卯m y pumdegau

Prin fu'r gemau rhyngwladol yn ystod y Pedwardegau oherwydd yr Ail Ryfel Byd, ond chollodd Cymru ddim amser o gwbl cyn atgoffa pawb o'i safle a'i statws yn y g锚m ar ddechrau'r Pumdegau gyda dwy Gamp Lawn ym 1950 a 1952 o dan gapteniaeth John Gwilliam. Uchafbwynt Camp Lawn 1950, y gyntaf mewn 39 blynedd, oedd y fuddugoliaeth o 21-0 yn erbyn y Ffrancwyr yng Nghaerdydd.

Ac ym mis Rhagfyr 1953 daeth y drydedd fuddugoliaeth dros Grysau Duon Seland Newydd. Cic letraws gan Clem Thomas i'r gwibiwr Olympaidd Ken Jones seliodd y fuddugoliaeth o 13-8 a buan y daeth enwau megis Bleddyn Williams, Jack Matthews, Cliff Morgan, Roy John, Rhys Williams, Bryn Meredith, Ken Jones yn enwau cyfarwydd ac yn uchel eu parch yn dilyn eu gorchestion gyda Llewod Prydain ac Iwerddon.

T卯m Clive Rowlands

Gorfu i gefnogwyr selog y Crysau Cochion aros 19 mlynedd am y chweched Gamp Lawn i Gymru ym 1971. Daeth Clive Rowlands a'i d卯m a Choron Driphlyg i Gymru ym 1965, ond dim hyd nes i Rowlands gymryd at ddyletswyddau hyfforddi'r garfan genedlaethol ym 1969, ond yr ail hyfforddwr amser llawn wedi David Nash, y daeth awgrym fod yna ddyddiau da, ta beth am Oes Aur, arall ar wawrio.

Gareth Edwards ar y cae rygbi
Gareth Edwards yn pasio'r b锚l

Dyma oedd cyfnod chwaraewyr megis , Barry John, Mervyn Davies, John Taylor, JPR Williams, Gerald Davies a John Dawes, y pump olaf a enwyd yn flaenllaw gyda Chlwb y Cymry yn Llundain.

Does neb cynt nac wedi hynny wedi efelychu camp y cyn fewnwr rhyngwladol Clive Rowlands, o fod yn chwaraewr, yn gapten hefyd ym mhob un o'i 13 g锚m dros ei wlad, yn hyfforddwr, yn ddewiswr, yn rheolwr ar y r卯m rhyngwladol a hefyd yn Llywydd ar Undeb Rygbi Cymru.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.