成人快手

Shane Williams

Shane Williams

14 Tachwedd 2011

Asgellwr rygbi rhyngwladol sydd wedi torri record am sgorio'r nifer fwyaf o geisiau dros Gymru.

Gyrfa

Ganwyd Shane yn Nhreforys yn Chwefror 28 1977 a chafodd ei fagu yng Nglanaman.

Mae wedi bod yn chwarae rygbi ers ei fod y 6 mlwydd oed, ond dechreuodd chwarae pel-droed yn y chweched dosbarth wrth fynychu Ysgol Dyffryn Aman. Roedd yn chwarae rygbi i Glwb yr Aman, ac yna aeth i chwarae i Gastell Nedd.

Bellach yn chwarae i'r Gweilch a Chymru, daeth yn un o asgellwyr mwyaf cyffrous y byd a'i ddewis yn Chwaraewr Rhyngwladol y Flwyddyn yn 2008. Ef yw'r Cymro cyntaf i ennill yr anrhydedd ers i'r wobr gael ei sefydlu yn 2001.

"Hwn ydi'r anrhydedd fwyaf mae'n bosib ei gael fel unigolyn a dwi methu coelio'r peth," meddai Williams ar y pryd.

"Roedd cael fy ethol yn ddigon arbennig ac roedd derbyn y wobr gan Bryan Habana, sef un o'r asgellwyr gorau'r byd, yn golygu gymaint i mi."

Roedd 2008 yn sicr yn flwyddyn gofiadwy i Shane gan iddo hefyd ennill gwobr 成人快手 Cymru am Bersonoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn.

Gwelwyd gwibiwr y Gweilch ar ei orau yn ystod y cyfnod yma wrth iddo dorri record am sgorio'r nifer fwyaf o geisiau dros ei wlad gan helpu Cymru i ennill eu hail Gamp Lawn mewn pedair blynedd. Pan sgoriodd ei 41 fed cais o'i yrfa rhyngwladol, llwyddodd i dorri record Gareth Thomas.

Enillodd mwy o glod ar daith Cymru i Dde Affrica yn ystod yr haf pan welwyd y Cymro yn herio Bryan Habana - y g诺r oedd yn cael ei gydnabod fel asgellwr gorau'r byd.

Mae Shane bellach wedi ennill 86 cap ac wedi ymestyn ei record i 57 cais i Gymru.

Cymro

Fel Cymro, mae Shane yn gefnogol iawn o'r iaith Gymraeg ac yn annog plant i wneud gweithgareddau drwy'r gyfrwng Gymraeg.

Yn fachgen ifanc arferai Shane gystadlu gyda ch么r ei ysgol ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd.

"Fe wnes i gystadlu mewn c么r gydag Ysgol Uwchradd Cwmaman ac er i ni gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol, doedden ni ddim digon da i gyrraedd y llwyfan. O'n ro'n i'n joio canu pan oeddwn i'n ifanc, ond fe newidiodd y llais, a sa i'n gallu canu'n dda nawr!" meddai.

Canmolodd yn arbennig yr amrywiaeth o weithgareddau y mae'r Urdd yn eu cynnig i bobl ifainc.

"Mae'r Urdd yn cynnig digon o amrywiaeth fel bod pawb yn gallu cymryd rhan. Mae'n bwysig iawn fod plant yn cael cyfle i wneud pethe fel chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd," meddai.

"Rwy' wedi bod yn mynd i Eisteddfodau gyda'r Gweilch ac mae'n neis i rai o'r bois sydd ddim yn siarad Cymraeg ac sydd heb fod i'r Eisteddfod o'r blaen gael gweld sut beth yw e a chael cwrdd 芒 phlant a chymryd rhan mewn sesiynau rygbi 'da nhw," ychwanegodd Shane.

Cyhoeddwyd y byddai Shane yn ymddeol ar 么l cystadleuaeth Cwpan y Byd ddiwedd 2011.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 成人快手 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.