成人快手

Gavin Henson

Gavin Henson ar Strictly Come Dancing

Daeth y chwaraewr hyn yn enwog dros nos wedi iddo gymryd y gic gosb a sicrhaodd y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr - gan rhoi'r t卯m cam yn agosach at ennill y Fuddugoliaeth Lawn yn nhwrnament y chwe gwlad yn 2005. Bellach mae'n fwy adnabyddus am dreialon ei fywyd prefiat.

Camau cyntaf ar y cae

Ganwyd Henson ar Chwefror 1 1982 ym Mhencoed. Yn fab i gyn-brop Maesteg, Alan Henson, fe ddisgleiriodd Gavin yn ystod ei yrfa fel chwarewr ifanc cyn chwarae am y tro cyntaf i Abertawe yn y flwyddyn 2000. Y flwyddyn ganlynol fe enillodd ei gap cyntaf tra'n chwarae yn Japan, ac fe'i enwyd yn Chwarewr Ifanc y Flwyddyn y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol a Chymru.

Effeithiwyd datblygiad Henson yn y maes gyda dychweliad Iestyn Harris o'r Gynghrair Rygbi, er efallai fod amlbwrpasedd Henson hefyd wedi ei ddal yn 么l. Serch hyn, fe wnaeth ei berfformiad i'r Gweilch yn eu mynediad gwych i rygbi rhanbarthol ddod ag ef yn 么l i sylw'r cyhoedd.

Gwnaeth ei farc fel canolwr mewnol yn ystod gemau rhyngwladol Hydref 2004 a gynhaliwyd yn 2004. Gwnaeth hyn trwy dorri record newydd i Gymru gan sgorio 14 trosiad yn eu g锚m yn erbyn Siapan.

Tipyn o Siom

Ers i'w berfformiad yng ngemau 2005 ei osod ar ganol llwyfan y byd rygbi, dydy e ddim wedi ei chael hi'n arbennig o rhwydd. Wedi tipyn o siom a rhwystredigaeth yn ystod daith y Llewod i Seland Newydd, fe berodd anaf iddo golli rhan helaeth o bencampwriaeth chwe gwlad 2006.

Yn 2005 dechreuodd berthynas gyda'r gantores enwog, Charlotte Church a chafont ddau o blant, Ruby a Dexter. Ond yn 2010 cyhoeddodd y ddau eu bod yn gwahanu. Yn 2011, fe wnaeth Gavin dynnu nyth cacwn am ei ben trwy ymddangos ar gyfres rhad Sianel 5, 'The Bachelor' lle'r oedd e'n gorfod dewis wejen newydd ymhlith cystadlu ffyrnig ei edmygwyr benywaidd.

Credai llawer y dylai ffocysu ar ei rygbi yn hytrach na gwneud ffwl o'i hun ar raglen o'r fath. Ond fe ddaeth cariad i'w fywyd wrth iddo ddewis Carrie-Ann Barrow, model 'glamour' gyda llais fel y digrifwr gwichlyd, Joe Pasquale, yn ol y papurau tabloid.

Nid dyma'r tro cyntaf i Gavin ymddangos ar raglen realiti. Bu'n cymryd rhan yn 'Strictly Come Dancing' yn 2010 a '71 Degrees North' a dioddef gwnaeth ei yrfa rygbi o ganlyniad medd ei feirnaid.

Cwpan Rygbi'r Byd

Yn anffodus i Henson cafodd anaf arall cyn Cwpan Rygbi'r Byd yn 2011 ac roedd hyn yn siom fawr iddo gan nad oedd modd iddo fod yn ran o sgwad Cymru. Bu'n chwarae am gyfnod i'r Gweilch tan Hydref 2010 ac yn Hydref 2011 cyhoeddodd ei fod yn symud at Gleision Caerdydd.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 成人快手 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.