Ffigwr enwog iawn ym myd rygbi, a wisgodd grys coch Cymru 53 o weithiau a chwarae 13 g锚m yn gapten.
Cawr Gwaun Cae-Gurwen
Gellid dadlau mai ef yw cawr mwyaf byd rygbi Cymru i chwarae ar lwyfan y byd. Roedd Gareth yn aelod o'r t卯m mewn 3 Grand slam a 5 coron driphlyg gan ennill 53 o gapiau dros ei wlad rhwng 1967 ac 1978. Ef oedd capten Cymru mewn 13 o g锚mau ac fe sgoriodd 20 o geisiadau.
Dechreuodd ei yrfa rygbi mewn ardal sy'n enwog am fagi cewri y gem. Ganwyd Gareth Edwards ar y 12 Gorffennaf 1947 yng Ngwaun-Cae-Gurwen ger Rhydaman. Pentref sy'n ergyd carreg o Gwm Gwendraeth lle magwyd Carwyn James, Barry John, Jonathan Davies, Ray Gravell ac eraill.
Cais Campus
Roedd e hefyd yn chwaraewr pwysig yn nh卯m y Llewod ac yn allweddol yn y fuddugoliaeth enwog dros y crysau duon o Seland Newydd yn 1971 a 1973 gan sgorio cais enwog sy'n cael ei dangos yn gyson ar y teledu yn '73.
Ar 么l Cwpan y Byd 1995 fe etholwyd Gareth o blith 200 o chwaraewyr, hyfforddwyr, rheolwyr ac awduron yn chwaraewr mwya'r byd erioed.
Ers iddo ymddeol o'r g锚m yn 1978, mae Gareth yn awdur, darlledwr - yn byndit cyson ar raglenni rygbi y 成人快手 a dyn busnes.
Ond ei funud fawr sydd bellach yn ran o chwedloniaeth gwlad oedd sgorio'r cais allweddol ym muddugoliaeth fawr y Llewod dros Seland Newydd yn 1973.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn