Roedd Gwesty'r Bull dan ei sang ar Orffennaf 1 i fwynhau noson arbennig yng nghwmni'r ddau frawd o Lanrug, Brigyn, a Meinir Gwilym a'i band. Mae'r artistiaid ifanc hyn yn mynd o nerth i nerth dan ofal label Gwynfryn Cymunedol. Mawr yw'r disgwyl am albwm newydd Meinir a ddaw allan ym mis Tachwedd. Diolch i Richard a staff y Bull am eu cefnogaeth a'u croeso ar y noson. Clwb p锚l-droed Llangefni oedd y lleoliad ar Orffennaf 22 ar gyfer barbeciw a pherfformiadau gan Papa Gini, band ifanc newydd o Lanfairpwll a rocars bytholwyrdd Bethesda, Celt. Da yw deall bod Celt yn bwriadu mynd i'r stiwdio i recordio yn yr hydref. Daeth tyrfa dda i'r clwb i fwynhau noson gyda llwyfan yn yr awyr agored. Cychwynnodd gweithgareddau G诺yl Cefni ar nos Fawrth, Awst 16, yng Nghlwb P锚l-droed Llangefni gyda g锚m rhwng t卯m o s锚r radio a theledu a th卯m ieuenctid Llangefni. Roedd t卯m y s锚r dan ofal y rheolwr enwog Arthur Picton. Yn gwmni iddo roedd George Huws. Daeth George ymlaen fel eilydd yn yr ail
hanner yn lle Kev Bach Champion a sgorio gyda chic o'r smotyn i sicrhau g锚m gyfartal. Mae Pwyllgor G诺yl Cefni yn ddiolchgar iawn i swyddogion y Clwb P锚l-droed am eu
cydweithrediad dros y ddwy noson ac edrychwn ymlaen at gyd weithio eto yn y dyfodol. Noson gomedi gyda Tudur Owen, Bedwyr Rees, Beth Angell, Parri'r Barman a Ffarmwr Ffowc a gafwyd yng Nghlwb Wellmans, Llangefni, nos Iau, Awst 18. Roedd y clwb dan ei sang a phawb yn eu dyblau gyda sioe newydd y digrifwyr. Gobeithiwn ymweld eto 芒 Chlwb Wellmans yng Ng诺yl Cefni 2006. Daeth yr 诺yl i uchafbwynt ym Mhafiliwn Sioe M么n ar nos Wener a nos Sadwrn gyda pherfformiadau arbennig gan 1 Sain, Mojo, John ac Alun, Anhysbys, Vanta, Sara Mai a'r Moniars, Elin Fflur a Bryn F么n a'r Band. Profiad arbennig oedd gweld cannoedd o freichiau yn yr awyr yn symud i gerddoriaeth y perfformwyr. Hoffai Pwyllgor Gwaith yr 诺yl ddiolch i Cymunedau'n Gyntaf am nawdd at y digwyddiadau'n arwain at yr 诺yl, i Gyngor Sir Ynys Mon am grant Cronfa'r Degwm ac i'n prif noddwyr unwaith eto eleni, Menter M么n. Diolch arbennig i Siwan Owens a Helen Thomas o Fenter Iaith M么n am bob cymorth gyda gweinyddiaeth a threfniadau'r 诺yl. Gwyliwch y wasg am fanylion digwyddiadau G诺yl Cefni yn ystod y misoedd nesaf.
|