成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Y cwmni'n cyflwyno 'It's Autumn Now' 1955 Theatr Fach yn 50 oed
Ebrill 2005
"Yn y dechreuad..."
Efallai'n wir mai uchelgais pob actor yw ymddangos ar lwyfan y "West End" neu "Broadway" ond cymharol ychydig sydd wedi gwneud eu hymddangosiad cyntaf ar lwyfannau y llefydd rheini.
Ond mae'n rhyfeddol meddwl sawl actor ac actores gafodd eu cyfle cyntaf yma ym M么n wrth gefnogi un o'r nifer o gwmn茂au drama sydd wedi bodoli ar yr ynys dros y blynyddoedd.

Oedd, yr oedd y 'ddrama' ym M么n yn fyw iawn drwy gydol y ganrif ddiwethaf gyda chwmn茂au lleol yn ffynnu ac yn cadw cynulleidfaoedd yn ddiddan ac achosi dipyn go lew o grafu pen i ambell feirniad hefyd! Felly yr oedd hi yn Llangefni, oedd yn rhoi ei hun yn brif dref yr ynys, ac felly yn naturiol ddigon, yma y caed y symbyliad a'r arweiniad i sicrhau fod y ddrama yn dod, ac yn parhau i fod, yn gyfrwng cyfathrebu a diddanu byw iawn. Gweler e.e. 'Cofio'r Adnabyddiaeth' (Gol. O. Arthur Williams, Gwasg Pantycelyn) a 'Helynt a Heulwen' (O. Arthur Williams, Gwasg Pantycelyn 2000). Yma y cynhelid G诺yl Ddrama'r Sir. Dyma gartref Cymdeithas Ddrama Llangefni oedd wedi ei hailsefydlu yn 1949.

Adeilad gwreiddiol y Theatr FachYn rhaglen Theatr Fach ar gyfer wythnos yr Eisteddfod Awst 1957 ceir crynodeb o hanes sefydlu'r theatr: "Agorwyd Theatr Fach Llangefni yn hen ysgubor Pencraig y 3ydd o Fai, 1955 bryd y llwyfanwyd dwy ddrama un act. Yr oedd lle i gynulleidfa o 63 eithr dim llawer o gysur rhag y tywydd.

Eto cymaint oedd y brwdfrydedd fel y cynyddodd ein haelodaeth (dechreuasom 芒 18 yn 1949). O 304 i dros 650 o aelodau sydd wedi talu eu tanysgrifiadau am y flwyddyn hon. Daeth yn amlwg y byddai'n rhaid i ni ehangu'r theatr i'w cynnwys acfelly, gyda chefnogaeth Cronfa'r Degwm yn yr ynys hon, ymgymerasom 芒'r gwaith fis Mai eleni. Costiodd y cyfnewidiadau yn agos i 拢1,000 ond bu'r aelodau'n hael iawn ac heddiw dim ond ychydig o arian sydd eto i'w gael cyn talu'r biliau i gyd. Ac y mae gennym theatr i eistedd 110 o gynulleidfa mewn seddau cyffyrddus.

Bu raid i ni alw'r gweithwyr i mewn i wneud y gwaith peryglus o rai trawst i mewn yn lle'r hen wal oedd rhwng y ddau hanner o'r theatr ac i wneud gwaith arall a oedd yn ormod i'r aelodau cyffredinol. Cafodd y pensaer amser go anodd yn ystod y misoedd diweddaf yn ceisio arolygu gwaith y gweithwyr cyflog ac ar yr un pryd ffrwyno s锚l yr aelodau gwirfoddol a'u cael i weithio'n 么l ei gynlluniau. Ond llwyddodd Mr I. Hopkin Thomas D.F.C, A.R.I.B.A. (hefyd yn aelod o'r gymdeithas) i'n hachub ni rhag y camgymeriadau mwyaf - a gwnaeth y cwbl o'i wirfodd.

Y mae ein dyled yn fawr iawn hefyd i Mr Frank Taylor, trydanwr y Gymdeithas, a wnaeth yr holl drydanwaith ar ben ei hun - eto o'i wirfodd. Nid yw'n hawdd sylweddoli pa faint o waith y mae yn ei olygu, ond aberthodd Mr Taylor bob penwythnos ers Mai i'r gwaith ac hefyd pob nos arall yn ystod yr wythnos - pan ond oedd yn paratoi'r goleuadau at y ddrama a lwyfennir heno. Y mae Mr Taylor wedi bod yn gyfrifol am oleuo pob drama a lwyfannwyd yn y theatr hyd yn hyn ac ef yw ffotograffydd y Gymdeithas."

Mae mwy i hanes sefydlu'r Theatr Fach na hyn, wrth gwrs. Yn 1949 llwyfannwyd dram芒u'r Gymdeithas yn Neuadd Ysgol y Sir ar y dechrau a chafwyd caniat芒d i ddefnyddio'r labordy, fel gweithdy, yn yr hen ysgol pan agorwyd yr Ysgol Gyfun yn 1953. Yn 1954, penderfynodd y Pwyllgor Addysg dynnu'r hen ysgol i lawr a bu raid wynebu'r ffaith fod angen chwilio am gartref newydd, sefydlog. Ar y pryd yr oedd Cyngor Dinesig Llangefni wedi prynu St芒d Pencraig. Ymysg yr adeiladau oedd ysgubor helaeth a llofft stabal ynghyd 芒 rhai ystafelloedd eraill. Cafwyd cytundeb y Gymdeithas i geisio sicrhau'r adeiladau drwy brynu, os yn bosibl, neu, o leiaf eu rhentu. Pan ddaeth y Gymdeithas yn denant am y tro cyntaf, talwyd rhent o 5/- yr wythnos! Yn ddiweddarach mentrwyd prynu'r adeilad am 拢250 swm a brofodd yn fuddsoddiad gwerth chweil.

"Yn niwedd Ionawr 1955 aeth criw o ryw ddau ddwsin o aelodau'r Gymdeithas ati i addasu'r 'sgubor yn 么l syniadau George Fisher...Gyda chyfarwyddyd I. D. Thomas, Dirprwy Bensaer y Sir ac aelod o'r Gymdeithas aethpwyd ati i dynnu i lawr y llofft ac un wal a defnyddio'r rwbel fel sylfaen i lwyfan ... trwy fisoedd y gaeaf a'r gwanwyn aeth y gwaith ymlaen yn ddi-stop am dair awr a hanner bob noson gwaith ... prynu defnyddiau o bob math, sicrhau cyflenwad digonol o drydan, a chwilio am gadeiriau esmwyth i'r gynulleidfa...ni thalwyd dimau goch am lafur - gwirfoddolwyr oedd pob un o'r gweithwyr." (Gweler "Francis George Fisher - Bardd a Dramodwr". Llewelyn Jones Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys M么n 1983).

Fel ym mhob cyfnod yn hanes y Theatr, bu cnewyllyn o bobl ac aelodau yn gweithio'n frwdfrydig tu hwnt i wneud gwaith diflas yn y dirgel, fel pe tae, ond oedd yn sicrhau llwyddiant "yr ochr arall i'r llenni". Hwy yn anad neb fu, ac sydd, yn gyfrifol am lwyddiant a pharhad y Theatr.

"Cwblhawyd y gwaith yn dra effeithiol gyda'r cyfan yn ei le ar gyfer yr agoriad swyddogol ar 3 Mai 1955." ('Cysgodion Enciliedig: Theatr Fach Llangefni - Dafydd Llewelyn; "Llwyfannau Lleol" Gol. Hazel Walford Davies Gwasg Gomer 2000).

Ac felly y bu. Myra Owen, Cyfarwyddwraig Pwyllgor Cymreig Cyngor y Celfyddydau a wahoddwyd i agor y Theatr yn swyddogol ar Fai 3ydd, 1955 a pherfformiadau o 'Rwscala' - addasiad o waith Pushkin gan Cynan a 'It's Autumn Now' gan Philip Johnson a ddewiswyd i ddiddanu'r gynulleidfa.

Cynhyrchydd 'Rwscala' oedd Tecwyn Jones a'r cast oedd Eleanor Webber, Leslie Hodgkins, Owen E. Jones, Diana Jones, Beti Jones, Ann Owenna Evans, Eirian Harries ac Edward Jones. Goruchwyliwr y llwyfan oedd F. G. Fisher.

Cynhyrchydd 'It's Autumn Now' oedd Margaret Fisher a'r cast oedd Glasfryn Evans, Barbara Hughes, Gwen Price Evans, Bill Hughes, Kitty Owen, Maureen Roberts. Goruchwyliwr y Llwyfan oedd F. G. Fisher.

A chan fod Theatr Fach, Llangefni yn dathlu ei phen-blwydd eleni yn hanner cant oed, da o beth yw rhoi trem yn 么l ar flynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif er mwyn cael cipolwg ar sefydlu theatr sydd mor annwyl i'w chefnogwyr ac sydd yn parhau i fod yn gyfrwng cyfathrebu a diddanu byw iawn.

J R Williams


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy