Roedd hogyn bach y Post wedi dychryn fy mod wedi cael cymaint o lythyrau ac mi ofynnodd braidd yn ddig'wilidd, ond dyna fo - ifanc ydy o, "Ydi 'Dolig a'ch pen-blwydd chi wedi dwad ar yr un diwrnod?" Eglurais i'r cwbyn y dylai barchu dipyn ar henaint a bod yn barod i ddisgwyl yr un peth bob mis o hyn ymlaen gan fod fy ngeiriau wedi plesio cymaint ar ddarllenwyr llengar y papur bro. Tydy hi wedi bod yn fis i'w gofio, d'wch? Rhwng digwyddiadau yn Rhufain a'r Lecsiwn, mae'n anodd gwybod lle i ddechrau y tro yma. Y Lecsiwn pia hi, dwi'n meddwl. Tydy politics wedi mynd yn fwrn ar rywun erbyn hyn - cynghorwyr sirol yn ffraeo a newid eu meddyliau a'u grwpiau fel powliau mewn d诺r yn Ynys M么n 'ma. Mae'n anodd iawn gwybod pwy neu beth maent yn gynrychioli. Nhw eu hunain, mwy na thebyg! A wedyn, mae yna aelodau Cyngor Tref a Chymuned, aelodau Cynulliad, Seneddol a Senedd Ewrop i boeni amdanynt! Ond be' wnewch chi o'r Etholiad Cyffredinol? Atgoffa pawb sy'n sefyll mai 'da o beth yw dweud y gwir' ydy'r cam cyntaf. Faint mae hi'n mynd i gostio i ni efo'r holl bapurau lliwgar yma sy'n dod drwy'r post. Gyrrwch nhw i Rufain ar gyfer yr etholiad nesa' yn fano. Fe g芒nt eu llosgi a chreu mwg heb orfod defnyddio cemicals wedyn. Gyda llaw, wnaiff pawb sy'n sticio poster i fyny cyn yr Etholiad gofio eu tynnu i lawr wedi'r Etholiad? Hogia'r Blaid ydy'r gwaetha'. Fe fuo 'na boster eu plaid nhw i fyny tua Gwalchmai am flynyddoedd ar 么l yr un dwytha'. Ella bod nhw yn tr茂o arbed arian. Ydy Eurig a Ieuan yn perthyn i'w gilydd tybed? Gweld y ddau yn Wyn! Gwyrdd ddylia chi fod hogia. Ha,ha. J么c bach i chi yn fana er mwyn cael gwerth y'ch pres efo'r papur 'ma. Wyddoch chi beth faswn i yn ei wneud taswn i mewn grym? 1. Rhoi tocyn parcio am ddim i bawb sy'n talu treth. 2. Lledu Pont Britannia er mwyn hwyluso'r traffig fore, pnawn anos. 3. Gorfodi pawb sy'n gweithio i'r Cyngor Sir ddysgu a siaradCymraeg. 4. Rhoi copi o Herald M么n i fewn ym mhob papur bro. 5. Cau siopau, tafarndai a llefydd bwyta ar y Sul. 6. Rhoi gwobr Nobel am Lenyddiaeth i Mary Ifans. 7. Cael un addoldy ym mhob tref neu bentref gan mai yr un ydy'r Bod Mawr i bawb. 8. Hel hogia drwg oddi ar y stryd a defnydd rhydd o wialen fedw i nemo 9. Agor ryw 10/12 o ysgolion ardal ar yr ynys a chau'r gweddill. 10. Symud y Dolig i ganol mis Awst. 11. Rhoi llun o Bont y Borth ar bob darn arian a Morrisiad M么n ar y papurau 拢5, 拢10 a 拢20. 12. Cau'r Pyllau Nofio a gyrru pawb i'r m么r. Tydach chi ddim yn cael bath yn yr un d诺r a gweddill y teulu nag ydach, gobeithio? Dyna ddigon i chi gael cnoi cil arno. Gadewch i mi wybod beth fasa chi'n wneud, anfonwch eich llythyra' fel o'r blaen. Rhaid i mi grybwyll un peth arall cyn tewi. Welsoch chi'r briodas yn Windsor? Tydy'r naill yn haeddu'r llall yn tydy? Dim ond gobeithio ydw i y bydd Camila yn defnyddio llaw gadarn ar yr Harri bach 'na. Mae hwna isio chwip ar ei ben 么l os bu rhywun erioed yn ei haeddu hi. Sylwch mai pen 么l ddeudis i - rhag pechu rhai o garedigion yr Urdd, ynte. Wyddoch chi ei fod o wedi gwario miloedd o'ch pres chi a fi yn hedfan i Affrica i weld y cariad. Piti na fasa fo'n aros yno efo'r anifeiliaid. Mae o yn actio reit debyg i ambell un ohonyn nhw yn aml. Meddyliwch am yr arbediad fasa hynny yn ei wneud i'r Suful List. Miloedd dros ben i wario ar - wel ar be'? Rhowch o i Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Mae'r hwch bron mynd drwy'r siop yn fano yn barod! 'Dwi am ei throi hi r诺an gan fy mod eisiau sgwennu llythyr i gwyno i'r 成人快手 am ymddygiad yr Huw Edwards 'na. Tydy o wedi cymryd lle ei dad yn llwyr yn tydy ond dim hanner cymaint o ysgolhaig. Tyrd yn 么l Hywel bach - paid 芒 chuddio tu 么l i gysgod clunia' Iolo Williams ddim mwv. Gyfeillion, llawer o ddiolch i chi am eich gwrandawiad a chofiwch roi eich croes yn y lle iawn ar y diwrnod. Cofion cynnes at fy ffrindiau newydd. B.E. DaviesO.N. Gyda llaw, mi ges i undeg saith o lythyrau ar 么l y Glorian dwytha' ond fe fu raid i mi yrru tri yn 么l am nad oedd rhywun crintachlyd ar y naw wedi rhoi stamp arnyn nhw. Tydy peth felly ddim yn j么c dalltwch gan fod hogyn bach y post yn insustant ma' fi oedd i fod i dalu! Ar 'y mhensiwn ydw i cofiwch. Dim ecspensus na dim fel rhyw extra. (Pwy sy'n cael honna, tybed?)
|