Cyflwynydd radio a wnaeth ei enw fel cystadleuydd ar Big Brother
Erbyn heddiw mae Glyn Wise yn gyflwynydd ar C2 Radio Cymru ac yn un o wynebau ifanc mwyaf adnabyddus y Gymru Gymraeg a di-Gymraeg.Gall ddiolch am yr enwogrwydd yma bron yn llwyr i'w ymddangosiad, a'i lwyddiant, ar gyfres deledu realaeth Big Brother yn haf 2006
Cyn symud i'r t欧 enwog, lle daeth yn ail yn y gystadleaeth boblogrwydd, roedd yn byw gyda'i fam, Ann, sy'n gweithio mewn banc yn Llanrwst a'i dad, William, sy'n gweithio i gwmni Airbus. Mae ganddo ddwy chwaer, Annette ac Alison.
![Glyn Wise yn mynd i mewn i dy Big Brother](/staticarchive/bd2c18ea105193ca45bbdb3476627c97953c9bd4.jpg)
Cyn mynd i'r t欧 roedd Glyn yn brif fachgen yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst ac, er iddo beidio 芒 sefyll ei arholiadau lefel A er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen, fe enillodd radd 'A' mewn Celf a Dylunio.
Cafodd ei dderbyn i astudio at radd BA mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor, lle roedd wedi gobeithio mynd i'r coleg, ond dewisodd yrfa yn y cyfryngau yn lle.
Gwnaeth argraff ar ei noson gyntaf yn nh欧 Big Brother drwy wisgo ei iwnifform achub bywyd o'i bwll nofio lleol a chyhoeddi mai fo oedd yr "esiampl gorau o berffeithrwydd" ac mae ei reswm dros gymryd rhan yn y sioe oedd i "gael sylw drwy'r wlad a dangos fy nghorff secsi i filiynau o bobl."
Roedd wedi cael blas ar fyd y cyfryngau cyn ymddangos ar Big Brother. Pan oedd yn ddisgybl pedwaredd flwyddyn yn Ysgol y Moelwyn, cafodd hyfforddiant gan staff y 成人快手 i fod yn gyflwynydd ar Radio Bro'r Blaenau.
"Roedd Glyn yn frwdfrydig iawn," meddai John Roberts, un o gynhyrchwyr 成人快手 Cymru. "Roedd o yn amlwg yn ddisgybl poblogaidd, a phan roedd y gwahanol swyddi yn cael eu rhoi i'r disgyblion mi gafodd enw Glyn ei roi gan ei ffrindiau."
Cafodd fuddugoliaeth hanesyddol ar y rhaglen drwy fynnu siarad Cymraeg gyda'i gyd-gystadleuydd, Imogen Thomas o Lanelli, er gwaethaf gwaharddiad y cwmni cynhyrchu - gwaharddiad a godwyd ar 么l nifer o gwynion.
Cefnogwyd y bachgen o'r Blaenau gan bapur newydd y Sun a wnaeth annog ei ddarllenwyr i bleidleisio drosto i ennill - a hynny mewn penawdau Cymraeg.
Mae Glyn ar C2 bob nos Fercher a nos Iau gyda Magi Dodd rhwng 8 - 10pm.