Cystadleuydd ar gyfres Big Brother 7
Er gwaethaf y tywydd braf gafodd Cymru dros haf 2006, bu canran mawr o'r wlad yn eu tai o flaen y teledu yn gwylio Big Brother. Ond roedd rhywbeth yn wahanol am gyfres rhif saith, sef roedd dau Gymro yn byw a bod ar ein sgrinau, ac yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd...
Daw Imogen Thomas, sy'n 23 oed, o Lanelli a hi oedd Miss Wales yn 2003, gan gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Miss World. Cyn mynd mewn i d欧 y Brawd Mawr, roedd hi'n gweithio yn Llundain, ac mae'n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli.
Glyn Wise oedd ei chyd-Gymro yn y t欧 a chafodd y ddau nifer o sgyrsiau yn y Gymraeg, er iddynt gael st诺r am siarad yn eu mamiaith ar ddechrau'r gyfres.
Imogen a Glyn yw'r cystadleuwyr cyntaf i siarad Cymraeg gyda'i gilydd ar y rhaglen. Yn 么l gwefan Newyddion 成人快手 Cymru, mae'r gyflwynwraig a'r tiwtor iaith Nia Parry wedi dweud fod cael dau berson ifanc Cymraeg yn siarad eu mamiaith ar raglen mor boblogaidd 芒 Big Brother yn arf farchnata "amhrisiadwy" i'r iaith.
Cafodd teulu Glyn ac Imogen gyfle i gyfarfod ar raglen Dylan a Meinir ar 成人快手 Radio Cymru yng Nghorffennaf 2006 i drafod profiadau fod aelodau o'u teuluoedd yn gaeth yn nh欧 y Brawd Mawr dros yr haf. Ymddangosodd ei thad, Charles a'i brodyr Owain, 26 oed ac Aled, 25 oed ar y rhaglen. Dywedodd brodyr Imogen bod eu chwaer eisiau bod yn enwog a'i bod yn "ceisio gwireddu breuddwyd".
A wyddech chi?
Hoff ffilmiau Imogen yw Pretty Woman, Friday a American Pie 1, 2 a 3, a'i hoff fwyd yw cyw i芒r, tato mash a ff芒 p么b. Y rheswm oedd hi eisiau cymryd rhan yn y gyfres deledu realaidd oedd :
"Achos dwi eisiau'r cyfle i ddangos i'r genedl pa fath o berson ydw i. Dwi eisiau bod yn rhydd o'r 'byd tu fas', bydde hwnna'n wych achos bydde dim pryderon 'da fi."
Mae gan Imogen BSc mewn Astudiaethau Iechyd a Seicoleg, ac mae hi'n honni ei bod wedi gwario 拢1,000 ar ddillad isa' yn ystod un trip siopa. Mae wedi cael ei chysylltu gyda mwy nag un p锚l-droediwr, gan gynnwys Lee Trundle o Ddinas Abertawe a chyn chwareuwr i Fanceinion Unedig, Dwight Yorke.
Pledleisiodd y cyhoedd i gael Imogen allan o'r t欧 wythnos cyn i'r gyfres ddod i ben. Roedd hi wedi bod yn y t欧 am 86 diwrnod.
Beth yw eich barn chi am Imogen? Oeddech chi'n ei hoffi hi yn nh欧 y Brawd Mawr? Dywedwch wrthon ni drwy lenwi'r ffurflen isod.