Gwrandewch ar Glyn yn cael ei holi gan staff yr Hysbys.
Ti wedi cael dy wneud llysgennad myfyrwyr Cymraeg UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor). Oeddet ti'n gwybod hynny?
Ww, posh! Mae'n meddwl lot i mi, diolch yn fawr. Mae'n swnio'n c诺l - awsome!
Wyt ti'n difaru peidio 芒 mynd i Brifysgol Bangor yn 2006?
Na, achos dwi'n byw fy mreuddwyd r诺an a dwi am fynd flwyddyn nesaf felly dwi am wneud popeth dwi'n gallu r诺an - byw'r freuddwyd, fel maen nhw'n ddweud.
Wyt ti'n dal eisiau dysgu Cymraeg ar 么l coleg?
Oes, dyna yw fy mhrif fwriad pan dwi'n h欧n - i ddysgu Cymraeg i bobl, dwi'n meddwl ei bod yn bwysig gwneud.
Sut deimlad ydy bod yn 'seleb' yn dy ardal dy hun?
Dwi'm yn gwybod! 'Swn i ddim yn galw fy hun yn 'seleb' ond mae'n wych cael pobl yn dod atat ti a deud petha neis a rhoi pethau i ti a dwi jest yn joio fy hun - mae'n wych.
Ydy'r t欧 wedi dy newid o gwbwl?
Do, dwi wedi tyfu i fyny yna, mae gen i fwy o confidence a dwi'n fwy indipendant. Dwi gorfod gwneud lot o bethau ar ben fy hun r诺an - mynd i'r airport, trafaelio rownd y wlad, pethau 'swn i byth wedi eu gwneud ar ben fy hun o'r blaen. Dwi'n gorfod gwneud pob peth r诺an - n么l bwyd ac yn y blaen. Dwi jest yn byw fy mywyd ar ben fy hun - mynd o dre i dre, o stiwdio i stiwdio, o westy i westy.
Wyt ti dal yn byw gartref efo dy fam a dy dad?
Dwi 'mond wedi bod adra am dri diwrnod ers gadael y t欧! Bob tro dwi adra mae mam yn gofyn os dwi'sho mynd allan am fwyd, ond dwi jest eisio mynd i'r gwely gan fy mod i mor shattered! Ond dwi'n gwneud gymaint 芒 dwi'n gallu r诺an.
Wyt ti wedi cael unrhyw gynigion teledu/radio?
Do, dwi am wneud Planed Plant am wythnos ac wedyn dwi am wneud C2 am wythnos hefyd - dwi'n edrych ymlaen at hynny, methu 'gwitsiad' a dwi'n gobeithio mynd ymlaen o hynny. Bydd Glyn yn cyd-gyflwyno gyda Daf Du am wythnos rhwng Tachwedd y 6ed a'r 10fed ar 成人快手 Radio Cymru. Bydd yn dewis peth o'i hoff gerddoriaeth; trafod ei brofiadau o gael ei gloi yn y t欧 a'i brofiadau ar 么l gadael y t欧. Mi fydd hefyd yn ateb rhai o'ch cwestiynau chi, felly os oes ganddoch gwestiwn i'w ofyn i Glyn, ebostiwch c2@bbc.co.uk.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |