Gwrandewch ar sgwrs efo Glyn
Hefyd yn y diwrnod o hwyl a gweithgareddau i deuluoedd roedd Alun Pugh AC, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon.
Fe dderbyniodd yr Amgueddfa Lechi grant o 拢1.6 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yn 1998 a alluogodd i'r amgueddfa ehangu a datblygu ei arddangosfeydd a gwella cyfleusterau i ymwelwyr.
Mae'r gwelliannau hyn wedi eu galluogi i adrodd hanes y broses chwarelyddol mewn modd cyffrous a chofiadwy ac ers hynny, mae'r amgueddfa wedi denu dros 130,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Roedd yr Amgueddfa Lechi yn un o 13 prosiect a ariannwyd gan y Loteri ar draws y DU a gynhaliodd ddigwyddiad cyhoeddus am ddim i ddathlu Diwrnod y Loteri Genedlaethol. Pwrpas y digwyddiadau oedd dathlu'r gwahaniaeth sydd yn cael ei wneud i gymunedau a phobol ar draws Cymru a gweddill y DU gyda arian y Loteri. Ers i'r Loteri gael ei lansio yn 1994, mae dros 拢900 miliwn wedi cael ei wobrwyo i Achosion Da yn Nghymru i dros 26,000 o grantiau.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |