Darlledwyd rhaglen bb. Cymru, wedi ei gyflwyno gan Ffion Dafis, yn fyw o Glwb Rygbi bro Ffestiniog gyda'r difyrrwr Tudur Owen a dau o hoff fandiau Glyn, Gai Toms a Frizbee, o flaen tyrfa o gannoedd o bobl.
Dathlwyd hefyd gyfraniad cydletywr Glyn, Imogen Thomas i'r gyfres, yng nghwmni ei thad, Charles a'i brawd Aled, oedd yn y Blaenau i wylio'r rownd derfynol.
Medd Ffion Dafis: "Does dim amheuaeth bod y misoedd diwethaf wedi bod yn llawn profiadau sydd wedi newid bywyd Glyn. Rydym wedi'i weld yn aeddfedu, yn llythrennol, o flaen ein llygaid. Mae o wedi troi o fod yn hogyn lletchwith yn ei arddegau i fod yn ddyn ifanc, hyderus.
"Mae Glyn wedi dysgu llawer o sgiliau bywyd - o ferwi 诺y i olchi ei ddillad ei hun - ac wedi swyno gweddill y cystadleuwyr gyda'i natur hawddgar a'i angerdd am ei wlad a'i iaith.
Bu 成人快手 Radio Cymru, lle profodd Glyn Wise ei flas cynta o enwogrwydd, hefyd yn darlledu o'r clwb rygbi drwy gydol y noson gyda ffrindiau a ffans Glyn. Mwy o luniau'r dorf ar y noson
|