成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Clawdd
Dyfrbont Pontcysyllte, gan Temple Pentland Y ffrwd yn y ffurfafen
Hydref 2009
Hanes dyfrbont Pontcysyllte sydd nawr yn Safle Treftadaeth Byd, gan Gareth Vaughan Williams.

Ar 27 Mehefin 2009 derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam newyddion ardderchog. Roedd Unesco wedi enwi Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth Byd. Hyd a lled y byd mae dros 900 safle yn amrywio o Wal Fawr Tseina, Y Taj Mahal a'r Barriff Mawr yn Awstralia. Ym Mhrydain mae 28 safle gyda 3 yn unig yng Nghymru - Tirwedd Diwydiannol Blaenafon, Cestyll a Bwrdeistrefi Edward I yng Ngwynedd a Phontcysyllte.

Rhaid sylweddoli bod y safle a enwyd yn Wrecsam yn un eang yn ymestyn am 18 cilometr o Bont Gledrid yn Rhoswiel hyd at Rhaeadr y Bedol yn Llandysilio. Mae hyn yn cynnwys y ddwy bont, y Waen a Phontcysyllte, a dau dwnnel, un, y Darkie, yn ymestyn am dros chwarter milltir. Roedd llwybr yn y twnnel yn caniatau ceffyl i dynnu'r cwch - y tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd. Mae Telford, peiriannydd y prosiect, yn dweud yn ei adroddiad i Gyfarwyddwyr Cwmni Camlas Ellesmere mai'r rhan hon oedd yr un fwyaf anodd i'w chwblhau o'i chymharu ag unrhyw bedair milltir o waith camlas gan fod rhaid adeiladu dwy bont, dau dwnnel, milltir o gloddiadau dwfn a 'benchings', sef codi'r tir er mwyn dal y gamlas. Yn ychwanegol at hyn roedd yn rhaid ymestyn y gamlas hyd at Landysilio drwy graig arw mewn un lle. Does fawr o ryfedd bod y prosiect wedi'i enwi'n Safle Treftadaeth.

Nid Thomas Telford oedd yr unig beiriannydd yn gysylltiedig 芒'r gwaith ac mae'n rhaid cofio am William Jessop. Cynllun Telford oedd Pontcysyllte ac roedd yn gynllun chwyldroadol gan mai dyma'r tro cyntaf erioed i bont dd诺r gael ei hadeiladu gan ddefnyddio cafnau haearn. Dechreuwyd ar y gwaith yn 1795 ac fe gymerodd 10 mlynedd i'w gwblhau.

Agorwyd y bont ar 26 Tachwedd 1805 gyda seremoni rhwysgfawr. Roedd miloedd o bobl wedi dod ynghyd yn y caeau islaw'r bont ac ar hyd y llethrau pan gychwynnodd chwech o gychod wedi'u haddurno'n lliwgar o Froncysyllte yn cario aelodau'r pwyllgor gwaith a'u gwahoddedigion, y peirianwyr a'r gweithwyr a'u teuluoedd. Roedd band y Shropshire Volunteers yn chwarae ac roedd y Royal Artillery Company yn tanio eu magnelau. Wedi cyrraedd Trefor llwythwyd dau gwch 芒 glo ac fe gariwd y llwyth cyntaf i groesi'r bont yn 么l i Froncysyllte. Diwrnod i'w gofio.

Mae Pontcysyllte yn 1007 o droedfeddi o hyd ac yn 126 troedfedd uwch ben yr afon. Mae 18 colofn sy'n 20 troedfedd wrth 12 troedfedd o led wrth y sylfaen ac wedyn yn 12 troedfedd wrth 7 troedfedd a hanner. Un dyn yn unig a gafodd ei ladd wrth adeiladu a hynny oherwydd ei esgeulustod ei hun yn 么l yr adroddiad. Cost adeiladu'r bont oedd 拢38,498 10s 11c. Cost y bedair milltir o'r Waen oedd 拢110,492 8s 41/2c.

Un darn o'r gwaith sy'n aml yn cael ei anghofio yw'r clawdd enfawr sy'n cario'r gamlas o bendraw'r bont tuag at Froncysyllte. Mae'n anodd gweld y clawdd gan ei fod wedi'i orchuddio 芒 choed cadarn ond ar y pryd hwn oedd y clawdd mwyaf ym Mhrydain. Adeiladwyd y clawdd gan 诺r lleol, William Davies, ac fe gostiodd 拢8,570 15s 8c. Mae'n ymddangos mai William Davies oedd yr unig Gymro o'r ardal a oedd yn gysylltiedig 芒'r brosiect ac mae'n haeddu ei gofio.

Pan aeth George Borrow i weld Pontcysyllte yn 1854 cafodd ei arwain o Langollen gan John Jones, gwehydd, ac wrth iddynt gerdded ar draws y bont dywedodd Jones: "It gives me the pendro, sir, to look down", ac fe fynnodd fynd yn 么l ar hyd y ffordd a defnyddio'r hen bont. Mae Pontcysyllte, 'y ffrwd yn y ffurfafen', yn dal i achosi pendro i lawer heddiw.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy