成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Clawdd
Wrecsam yn 150 oed Wrecsam yn 150 oed
Gorffennaf 2007
Y tro diwethaf roeddem yn s么n am ddathlu ar y Cae Ras (130 o flynyddoedd oddi ar i'r g锚m ryngwladol gyntaf gael ei chynnal yno) a dyma nawr ddathlu arall o fewn y fwrdeistref, sef dathlu ei phen-blwydd yn 150 blwydd oed.
Rhoddwyd Siarter Brenhinol i'r dref ar 13 Mai 1857, siarter a ddaeth yn weithredol ar 23 Medi y flwyddyn honno. Roedd y Fwrdeistref newydd yn cynnwys trefgorddau Wrecsam Regis (sef y rhan o'r dref i'r ochr ogleddol o Afon Gwenfro, fwy neu lai) a Wrecsam Abad, ynghyd 芒 rhan fechan Esclusham Isaf (sef yr ardal o gwmpas Pentre Felin).

Ar ganol y G19eg, mae'n debyg nad oedd Wrecsam yn lle iach iawn i fyw ynddo gyda phroblemau iechyd a glanweithdra dybryd a heb unrhyw system garthffosiaeth. Felly penderfynwyd y dylid gwneud y dref yn fwrdeistref gydai'i siarter a'i Chyngor ei hun er mwyn ceisio gwella ansawdd bywyd ei thrigolion.

Heb reolaeth corfforaethol, ni ellid fod wedi delio'n effeithiol 芒'r problemau a ddaethai yn sg卯l cynnydd yn y boblogaeth, problemau fel tai o ansawdd gwael, afiechydon a phobl yn marw'n ifanc.

Erbyn heddiw, mae canol yr hen dref wedi gweddnewid. bron yn llwyr gyda llawer o'r hen adeiladau wedi'u dymchwel a'u disodli gan lefiathanau concrid newydd.

O fewn yr ychydig ddegawdau diwethaf yma, gwelwyd codi llawer o siopau ac archfarchnadoedd newydd; canolfan heddlu, ysgolion a cholegau modern; swyddfeydd, capeli, ysbyty, amgueddfa, llyfrgell a marchnad newydd i'r bobl, heb s么n am gyfleusterau adloniant a chwarae gyda'r gorau yn y wlad - y cyfan yn dyst o'r bywyd a'r hyder newydd sydd i'w weld o'n cwmpas erbyn hyn ac yn gwneud Wrecsam yn dref fodem, gyffrous a all wynebu sialensau'r G21ain gyda hyder a gobaith.

N么l yn yr G17eg, disgrifiodd Morgan Llwyd y dref fel 'Wrecsam decaf, ac yn yr G20fed fe'i disgrifiwyd gan Ian Nairn yn y Sunday Times fel 'un o'r trefi mwyaf atyniadol y gwn Mhrydain, yn gymysg o ddau ddiwylliant ac yn pontio'r holl ganrifoedd."

Hir y pery felly.

(Gyda llaw, llongyfarchiadau i'r Amgueddfa leol ar yr Arddangosfa a gynhaliwyd yn o nodi'r dathlu.)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy