成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Clawdd
Arwydd Y Clawdd Cofio 1987
Mae papur bro Y Clawdd yn dathlu ei ganfed rhifyn y mis hwn. Dyma gofio'n 么l i'r rhifyn cynta' ym 1987.

Pwy fase'n meddwl y basai rhifyn cyntaf Y Clawdd (Mai 1987) yn cychwyn ar fenter sy wedi para'n ddi-fwlch tan heddiw, sef ein canfed rhifyn? Gyda chymorth y t卯m bychan o wirfoddolwyr sy'n ei baratoi a'i ddosbarthu'n ddeufisol, ac anogaeth ein darllenwyr ffyddlon, gobeithio y gwnaiff barhau am flynyddoedd eto.

Ar achlysur y canfed rhifyn, mae'n briodol bwrw golwg yn 么l dros y ddwy flynedd ar bymtheg diwethaf gan sb茂o ar y datblygiadau a'r newidiadau a fu yn ystod y cyfnod. Mae'n gyfle hefyd i ddiolch i'r nifer o ysgrifenwyr cyson sy'n barod i roi o'u hamser prin i roddi pen i bapur, i'n teipyddes gydwybodol, i'r argraffydd, i'n hysbysebwyr, i'r llu o bobl sy' n helpu gyda'r dosbarthu ac i chwi'r darllenwyr.

Yn ystod cyfnod bodolaeth Y Clawdd mae pethau wedi newid cryn dipyn a llawer o dd诺r wedi mynd o dan yr hen bont yna. Diolch i Gareth Vaughan Williams am fanylu mor ddiddorol ar sut oedd pethau yn Wrecsam yn 1987 - onid yw'n syndod gymaint mae'r dref wedi newid mewn cyfnod cymharol fyr?

Mae'n ddifyr weithiau ein hatgoffa ein hunain o ddigwyddiadau'r gorffennol a dyna a geisiwn ei wneud yn awr -drwy golofnau rhai o'n rhifynnau cynnar.

Ar dudalen flaen ein rhifyn cyntaf fe gofiwch fod dipyn o bryder yn yr ardal ynglyn ag adeiladu carchar newydd. Wrth lwc, ni chafodd ei wireddu.

Dyddiau Wrecsam Lager

Hysbys gan Gwmni Lager Wrecsam - yn dymuno'n dda i'r Clawdd; erbyn heddiw, mae'n deilchion - safle'r 'Lager', nid Y Clawdd!

Cerdd gyfoethog gan y diweddar Euros Bowen.

Cyngor Sir Clwyd yn rheoli o'r Wyddgrug a Sydney Tongue yn brifweithredwr Cyngor Wrecsam. Y Parch. Pryderi Llwyd Jones yn weinidog ar Gapel y Groes. Y Parch. Alun Tudur newydd gyrraedd Capel Ebeneser o'r Coleg. Gwerthu hen Eglwys Dewi Sant, Ffordd Rhosddu am 拢89 mil.

Corau lu yn yr ardal - erbyn heddiw nifer wedi peidio 芒 bod, yn eu plith C么r Yr Heddlu, Parti'r Ffin, Cantorion Coedpoeth.

Addysg Gymraeg yn tyfu

Cwynion bod 'Heno, Heno' ar S4C yn rhy ryfygus! Ym myd addysg, s么n bod angen Ysgol Gymraeg ychwanegol at Bodhyfryd a chyn bo hir gweld sefydlu Ysgol Plas Coch. Ysgol Morgan Llwyd yn croesawu Edward Williams yn Bennaeth yn 1987. Sain y Gororau yn darlledu rhaglenni Cymraeg difyr gyda'r nos (yng nghwmni D.J.'s fel Aled Lewis Evans ac Elinor Jones) ond ysywaeth wedi dod i ben. Ffred Ffransis yn y carchar dros yr iaith.

Campau cerddorol

Cynnal yr 糯yl Gerdd Dant yn Neuadd William Aston gyda Mair Carrington-Roberts wrth y llyw. Yn fuan ar 么l yr 糯yl, gwelwyd cyflwyno siec o 拢14 mil a hanner (yr elw) i Lisa Erfyl mewn cinio ym Mryn Howell, Llangollen.

Grwp Trafod Llyfrau Cymraeg (sydd yn dal i fynd) yn cwrdd yn y Llyfrgell o dan ofal y diweddar annwyl Barch. Emyn Huws gyda'i fedr dihafal ei hun yn ddoniol a gwybodus,' yn 么l yr adroddiad. Marian Roberts (yn awr yng Nghroesor) yn Llyfrgellydd y Dref. ''

Do, bu newidiadau lu a chafwyd gweddnewidiad yn y dref ei hun - yr hen farchnadoedd wedi cael eu disodli gan siopau newydd crand, Canolfan siopa Y Werddon yn gaffaeliad pwysig a'r Orsaf Fysiau newydd yn Stryd y Brenin yn hwyluso pethau i bawb yn sicr.

Bydd newidiadau eto i'r dyfodol a gobeithio y bydd 'Y Clawdd' yma i'w cofnodi. Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser imi'n bersonol gael bod yn gogen fach mewn olwyn reit fawr sydd yn dal i droi heb rygnu!

Emlyn Edwards


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy