Gyda'r wraig wedi ennill ddwywaith, tro y g诺r oedd hi i ennill Medal Ddrama yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Manon Steffan aeth 芒 hi y ddwy flynedd ddiwethaf ond eleni Nic Ros, ei phriod, a anrhydeddwyd.
Dywedodd iddo fod yn cystadlu ers tair blynedd ond i'w wraig ennill y blaen arno bob tro.
"Ond eleni doedd hi ddim yn cystadlu," meddai gan chwerthin.
Ond hyd yn oed wedyn yr oedd hi'n gwybod i'w ddrama ddod yn fuddugol dri diwrnod o'i flaen!
"Roeddwn i, i ffwrdd yn gweithio pan ddaeth y llythyr - ond roedd hi'n adnabod yr amlen achos ei bod hi wedi bod yn eu cael nhw!
Ond yr oeddem i gyd wrth ein boddau," meddai.
Argyfwng mewnlifiad
Mewn seremoni yn Theatr y Maes bnawn heddiw, derbyniodd ei Fedal am y ddrama hir, Tylwyth yn ymwneud 芒'r argyfwng mewnlifiad - "Y bygythiad mwyaf i gefn gwlad," meddai.
"Mae hi wedi ei lleoli ym Mhen Ll欧n ac yn ymwneud 芒 Chymro canol oed sydd yn gwneud protest yn erbyn y mewnlifiad trwy gymryd Saesnes sydd wedi prynu t欧 crand ym Mynytho yn wystl," eglurodd.
Mae'r stori, sy'n digwydd dros gyfnod o dri diwrnod, yn ymwneud hefyd 芒 pherthynas y dyn 芒'r cyfryngau wrth iddo geisio dod i gytundeb 芒 newyddiadurwraig ifanc, uchelgeisiol, gyda'r 成人快手 yngl欧n a hyrwyddo ei achos - cyn belled a'i bod hi yn cael 'y stori'.
"Ond beth yw'r pris sy'n rhaid iddi hi ei dalu wrth geisio cadw ei niwtraliaeth? Felly, mae'r cyfan yn ymwneud ag ymdrech y ddau ohonyn nhw i gael sylw yn eu gwahanol ffyrdd.
"Drama, felly, am y mewnlifiad, am dylwyth, am derfysgaeth ac am y cyfryngau."
Dywedodd iddo ei sgrifennu yn benodol ar gyfer y gystadleuaeth ond ychwanegodd:
"Mae'n thema sydd wedi bod yn chwyrlio o gwmpas fy mhen i achos mae hwn y mater pwysicaf sy'n bod yng nghefn gwlad Cymru ac mae angen datrysiad i'r peth - ac mae angen datrysiad dyngarol i'r peth a dydw i ddim yn si诺r a oes y fath ddatrysiad yn bodoli.
'Anodd bod yn sosialydd ac yn genedlaetholwr'
"Rydw i'n meddwl y byddwn i'n pleidleisio dros y Tor茂aid bron pe bydden nhw dod o hyd i ryw ateb derbyniol. Mae'n anodd iawn bod yn sosialydd ac yn genedlaetholwr," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd ei ddrama ef, a hefyd y ddrama a fu'n fuddugol yn y gystadleuaeth ddrama fer, a'r un a ddaeth yn ail iddo am y ddrama hir yn cael eu perfformio maes o law gan ddweud fod y theatr y cyfrwng gorau i wyntyllu pynciau o bwys.
Trafod pynciau mawr
"Mi ddylai'r theatr fod yn fforwm i drafod pynciau mawr - mae'n gyfrwng gwell i drafod them芒u mawr y byd ac am y rheswm yna fe fuaswn i'n leicio'i gweld yn cael ei pherfformio."
Brodor o Gaerdydd ydi Nic Ros, bu'n actor ac yn ddarlithydd ac mae'n awr yn athro drama yn Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth.