成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


成人快手 成人快手page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Pryfed yn chwalu'r beirniaid

7 Awst 2007

Tony Bianchi

Dryswch mewn nofel - a'r gystadleuaeth

Am yr ail ddiwrnod, trwy fwyafrif y dewiswyd enillydd prif gystadleuaeth y dydd yn Yr Wyddgrug.

Dau o'r beirniaid - Robat Arwyn ac Annes Glynn - oedd o blaid gwobrwyo nofel o'r enw Pryfeta gan Tony Bianchi yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen.

Ond y trydydd beirniad, Harri Pritchard Jones, yn ffafrio nofel arall.

Heb ddeall

Yn dilyn y seremoni awgrymodd Mr Bianchi nad oedd Harri Pritchard Jones wedi deall ei waith.

"Mae yna wahaniaeth barn ymhlith y beirniaid ac yr oedd y ddau feirniad cefnogol, felly, yn amlwg wedi ei deall hi i'r dim - ond ddwedai ddim mwy na hynny!" meddai mewn cyfarfod gyda'r wasg yn dilyn y seremoni.

Er yn canmol iaith goeth y nofel dywedodd Harri Pritchard Jones, a draddododd y feirniadaeth, fod gormodedd o ddisgrifiadau manwl o drychfilod a phryfetach yn difetha'r gwaith iddo ef gan eu bod "yn tarfu ar hynny o stori sydd yma."

Ond canmolai'r ddau feirniad arall y gwaith i'r cymylau ac wedi'r seremoni yr oedd Annes Glynn, er enghraifft, yn danbaid dros y gwaith.

"Mae hi efo fi o hyd," meddai.

"Mae hwn yn waith sy'n mynd 芒 ni i faes cwbl wahanol ac yn dal i droi yn y cof ymhell ar 么l ei darllen," meddai.

Dywedodd Tony Bianchi ei fod ef yn croesawu y gwahaniaeth barn ymhlith y beirniaid.

"Mae yna gymaint o amhendantrwydd yn y nofel ei hunan - dyw hi ddim yn orffenedig yn yr ystyr bod rhyw neges glir neu fod y cymeriad yn adnabod ei hunan. A dyna ran o bwynt y peth - yr ydych yn cael yr un peth ym mhennod olaf Rhys Lewis," meddai.

Mwy dealladwy

Ychwanegodd iddo wneud ymdrech i'w gwneud yn fwy dealladwy na'i nofel gyntaf yn dilyn sylwadau a wnaed am honno.

"Rwyf wedi gwneud ymdrech i'w gwneud yn fwy dealladwy ac mae llai o cliws ymhonnus gan fy mod wedi cymryd y feirniadaeth yna o ddifrif ac mai hyn a hyn allwch chi ddisgwyl gan ddarllenydd a dwi'n gobeithio bod y llinyn stor茂ol yn ddigon hawdd a bod yr amwysedd, lle mae amwysedd, yn amwysedd ystyriol," meddai.

Tad yn cael ei ladd

Mae'r stori yn cychwyn gyda bachgen bach chwech oed, Jim, sy'n chwarae gyda phryfed yn yr ardd yn gweld ei dad yn syrthio oddi ar do eu t欧 a chael ei ladd.

"Dyna'r profiad trawmatig sydd yn gychwyn ac yn graidd i'r nofel ac o'r ail bennod ymlaen beth ydych chi'n gael yw yr effaith mae hynny'n i gael ar ei fywyd rhyw ddeugain mlynedd yn ddiweddarach ac yntau wedi 'anghofio' am y profiad erchyll hwnnw - neu'n hytrach wedi claddu'r cof amdano achos dydych chi byth yn claddu cof yn iawn ond yn ei ail blannu yn yr isymwybod," meddai gan ychwanegu nad oedd am ddweud dim mwy na hynny am y stori.

"Pe byddwn i'n crynhoi'r stori fe fyddai'n swnio'n gwbl hurt felly dydw i ddim eisiau gwneud hynny!" meddai.

Nid hunangofiannol

Dywedodd nad oes dim hunangofiannol yn y nofel ac iddo, yn wir, droi at y manylder am bryfetach a thrychfilod sy'n fyd cwbl ddieithr iddo er mwyn ymbellhau cymaint posibl oddi wrth y prif gymeriad.

"Roeddwn i eisiau creu cymeriad o bryfetwr oherwydd bod hyn mor bell o mhrofiad i achos wn i ddim am bryfed a dwi'n berson hollol anwyddonol ac mae ngolwg i mor wael rwy'n ffaelu gweld y creaduriaid.

"Roedd hynny er mwyn creu pellter rhyngof i 芒'r prif gymeriad gan ei bod wastad yn demtasiwn mawr i sgrifennu o'ch profiad eich hunan a'r cyfan yn troi yn rhyw hunangofiant," meddai.

Ar ben hynny dywedodd fod yn rhaid cael rhywbeth y gallai y prif gymeriad ymgolli yn llwyr ynddo yn blentyn ac yn oedolyn.

Byw er mwyn pryfed

"Wn i ddim ydych chi wedi cwrdd a phryfetwyr ond pobl fel yna ydyn nhw yn byw a bod er mwyn eu pryfed bach ac maen nhw'n cyfaddef hynny."

Dywedodd mai arbenigwyr yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a gyfarfu ef ar gyfer ei ymchwil,

"Ac rwy'n ddiolchgar tu hwnt iddyn nhw - maen nhw'n bobl ffein ofnadw ac yn gwbl, gwbl, ymroddgar i fyd y pryfed ond nid yn bobl obsesiynol mewn ffordd batholegol.

"Ond yr oedd angen y meddylfryd yna yn y nofel i wneud cymeriad fyddai'n gallu treulio'r rhan fwyaf o'r amser yn meddwl am bryfed ac hyd yn oed caru rhywun trwy gyfrwng pryfed a gwneud hynny'n gredadwy," meddai.

Natur cof

Dywedodd mai un o amcanion y nofel yw trafod beth yw natur y cof.

"Y cof yw deunydd crai yr hunan - dyna beth yw cofiant. Rydym yn creu yr hunan trwy sgrifennu neu trwy lunio cofiant," meddai.

Dryswch arall yn y gystadleuaeth eleni hefyd oedd i un ymgais gael ei chyhoeddi cyn cyhoeddi canlyniad y gystadleuaeth.

Ond dywedodd Dafydd Whittall, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, nad oedd unrhyw reol wedi ei thorri ond y byddai'r Eisteddfod yn edrych eto ar reolau'r gystadleuaeth i weld a oes angen eu diwygio er mwyn osgoi digwyddiad tebyg yn y dyfodol.

Ychwanegodd nad oedd am drafod beth fyddai'r sefyllfa pe byddai'r beirniaid wedi dewis honno yn nofel fuddugol y gystadleuaeth.

"Yr ydych yn mynd i dir cwbl heipothetical nawr," meddai.

'Heb dorri rheol'

Mae awdur y nofel, Gwylliaid Glynd诺r, oedd eisoes wedi cael ei chyhoeddi, wedi ymateb mewn datganiad i raglen Taro'r Post.

Dywedodd Daniel Davies na wnaeth dorri unrhyw reol gan nad oedd "wedi ymrwymo i unrhyw wasg" pan anfonodd y nofel i'r gystadleuaeth.

Dywedodd ei fod wedi anfon y nofel i'r gystadleuaeth ddiwedd Tachwedd ac i wasg Y Lolfa ym mis Ionawr.

Roedd wedi meddwl y byddai'r nofel yn y wasg am rai misoedd gan fod ei nofelau blaenorol yn y wasg am gyfnod hir.

"Roeddwn wedi cystadlu er mwyn cael beirniadaeth ac yn meddwl gweithio ar y feirniadaeth honno cyn i'r nofel gael ei chyhoeddi," meddai.

"Doeddwn i felly ddim wedi gweld yr angen i s么n wrth wasg Y Lolfa fy mod wedi ymgeisio yn y gystadleuaeth."



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy