|
|
成人快手 成人快手page Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonCadeirio bardd y machlud10 Awst 2007Ffugenw yn dychryn trefnydd yr Eisteddfod Yr un a gafodd y mwyaf o fraw pan dynnwyd enw bardd cadeiriol Eisteddfod yr Wyddgrug o'r amlen dan s锚l rai wythnosau'n 么l oedd trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards. Ond dywedodd T James Jones na fwriadodd o gwbl i'w ffugenw, 'Un o ddeuawd', fod yn adlais o helynt Ianws yn Eisteddfod Genedlaethol 1979 pryd y bu'n rhaid iddo ildio'r goron wedi iddi ddod yn amlwg iddo gydweithio 芒 bardd arall. Ei ffugenw awgrymog y tro hwnnw oedd Ianws - y duw gyda dau wyneb. Ond dywedodd nad oedd yn fwriad o gwbl ganddo i 'Un o ddeuawd' atgoffa neb o hynny. "Ond rwy'n credu bod y trefnydd wedi cael ofon," meddai gyda Hywel Wyn Edwards yn cadarnhau i'r digwyddiad yng Nghaernarfon groesi ei feddwl yn syth. "Ond does yna ddim adlais o gwbl na dim bwriadol. Chroesodd hwnnw ddim mo'n meddwl i," meddai T James Jones. "Rhyw ddynion drwg eraill sy'n meddwl am hwnnw!" Dilyn ei naiDywedodd hefyd nad oedd wedi rhannu ei gyfrinach tan fore heddiw, dydd y cadeirio, gyda'i nai, Tudur Dylan Jones, a enillodd y Goron ddydd Llun. "Heddi cafodd e wybod - fel y cefais innau wybod ganddo ef fore dydd Llun. Fe ddaeth e ataf i, i roi ei gyfrinach ac medde fi, 'O, bendigedig' ond ddwedais i ddim am heddi achos roeddwn i eisiau talu'r pwyth yn 么l iddo fe," meddai. Machlud lledrithiolWrth egluro'r cefndir i'w gerdd dywedodd: "Cael profiad wnes i, un lledrithiol a dweud y gwir, o weld machlud ar Fynydd Epynt. Roedd Manon y wraig gyda fi ac roedd e mor hyfryd fe fu raid inni stopio'r car a dod mas ac fe fu yna ddeg munud o fachlud na wnawn ni'n dau byth ei anghofio. Wedyn ymhen rhyw fis ar 么l hynny fe ddaeth llinell imi - llinell agoriadol y gerdd a dweud y gwir; 'Er rhoi'n coel ar Copernicus' ac o'r foment yna ymlaen fe ddechreuodd y gerdd dyfu. "Yr oedd y profiade yma yn real iawn inni ond roedd dyn yn dechrau myfyrio wedyn fy mod i'n bwrw mlaen ys dwedon nhw, wedi cyrraedd oedran yr addewid a dechrau meddwl wedyn am fy machlud fy hun ac am fachlud, wrth gwrs, pethau a phersonau eraill o nghwmpas i ac mae'r rheini hefyd yn y gerdd. "Ac wrth gwrs Fynydd Epynt yr oedd e ac mae'r hyn sy'n digwydd ar Fynydd Epynt yn rhywbeth erchyll ac yn rhywbeth dieflig yn fy marn ac maen nhw ar Fynydd Epynt yn medru dod a machlud cyn pryd i fywydau pobl fel sy'n digwydd yn Rhyfel Irac ar hyn o bryd - hwnna'i gyd oedd yn corddi." Yn FfraincOnd er mai machlud ar Fynydd Epynt barodd y cynyrfiadau cyntaf dywedodd mai wrth wylio machlud arall yn Ffrainc y daeth llinellau cyntaf ei gerdd. "Ac fe gymeres i dipyn o amser wedyn dros rhyw dri mis i'w chwblhau.
Ac am wir arwyddoc芒d ei ffugenw 'Un o ddeuawd" dywedodd: "Ac rwy'n s么n yn y gerdd bod yna ddeuawd yn digwydd a bod hyd yn oed y ddeuawd yn dod i ben!
|
About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |