|
|
成人快手 成人快手page Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonYmateb Llydawyr i'r Gymraeg11 Awst 2007Eisiau gweld defnydd yr un mor naturiol o'r Llydaweg Y rhyddid sydd yna i siarad y Gymraeg a'i defnyddio'n naturiol o ddydd i ddydd a wnaeth yr argraff fwyaf ar ddau ymwelydd o Llydaw 芒 maes yr Eisteddfod. Yr oedd Ludovic Louboutin - enw barddol Kurun Pennbarch yng ngorsedd Llydaw - a Yannif Laporte ymhlith cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd yn ystod seremoni'r coroni ddechrau'r wythnos. Pan ofynnwyd iddynt ddoe am eu hargraffiadau o'r Eisteddfod a Chymru dywedodd Ludovic: Naturiol a braf yng Nghymru"Fe fyddwn i'n dweud ei bod yn gymaint haws defnyddio'r iaith yn naturiol yma yng Nghymru nag yw hi i ni yn Llydaw. Hynny oherwydd iddo fod yn fater gwleidyddol yn Llydaw a hynny wedi gwneud i genedlaethau ofni defnyddio'r Llydaweg," meddai "Ym meddyliau llawer o Ffrancwyr yr oeddech yn cael eich hystyried yn 'antagonist' os yn siarad Llydaweg - yn union fel pe byddai pawb yma sy'n siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn frawychwr ac yn aelod o fudiad fel yr IRA er enghraifft," meddai. "Felly, y peth cyntaf sydd wedi'n taro ni yw fod eich iaith yn cael ei defnyddio heb wrthwynebiad ac mewn awyrgylch o braf. "Ac yr ydym ninnau eisiau medru defnyddio y Llydaweg yn yr un ffordd yn union ag yr ydych chwithau yn defnyddio'r Gymraeg a chael pobl i ddeall nad gweithred sy'n ceisio tanseilio'r drefn ydi siarad eich iaith," meddai. Gobeithio dilyn CymruDywedodd mai rhyw 230,000 sy'n deall Llydaweg erbyn hyn. "Mae hynny oherwydd bod y Llywodraeth yn Ffrainc wedi bod yn erbyn yr iaith yn y gorffennol," meddao gan ychwanegu i rai fod yn ofni ei defnyddio hyd yn oed. "Yr oeddwn i'n 28 oed cyn sylweddoli fod fy nhad yn medru siarad Llydaweg," meddai gan ychwanegu i ofn ei dad i ddefnyddio'r iaith droi'n gyflwr meddygol bron oedd yn tagu'r geiriau yn ei lwnc. Heddiw, fodd bynnag mae ysgolion fel rhai Diwan yn dysgu a hyrwyddo'r iaith ymhlith ieuenctid a dywedodd ei fod yn ffyddiog y bydd yr iaith yn cael ei hadfer yno gan ddod yn iaith mor naturiol 芒'r Gymraeg yng Nghymru. Categori
|
About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |