|
|
成人快手 成人快手page Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonArchdderwydd yn cerydduGorffennaf 2007Cicio p锚l-droedwyr mud fel postyn Cafodd ei arwyr ar y maes p锚l-droed a rhai o'i gyfeillion yn yr Orsedd gic gan yr Archdderwydd ddydd Sadwrn. Dangosodd Selwyn Iolen gerdyn coch i chwaraewyr p锚l-droed Cymru am "sefyll yn fud fel pyst" pan fo'r anthem genedlaethol yn cael ei chanu cyn gemau rhyngwladol. A beirniadodd yr aelodau hynny o'r Orsedd a Chyngor yr Eisteddfod sydd ddim yn cefnogi y 106 o eisteddfodau bychain a gynhelir ar hyd a lled Cymru. Dysgu'r anthem"Dau brif ddiddordeb sy gen i - Steddfota a ph锚l-droed," meddai yn ei anerchiad a fyddai, oni bai am y tywydd, wedi cael ei draddodi o'r Maen Llog yn ystod seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008. "Onid ydi o'n hen bryd i'r bechgyn a anrhydeddir drwy gael y fraint o wisgo'r crys coch ddysgu geiriau ein hanthem genedlaethol ni a'i chanu gyda balchder ar ddechrau pob g锚m," meddai. "Chware teg i fechgyn y b锚l hirgron, mae nifer go dda ohonyn nhw yn gwneud ymdrech ond mae bechgyn y b锚l gron yn sefyll yno mor fud a physt g么l ac mae'n hen bryd i rywun ddeud wrthyn nhw am ymfalch茂o yn y ffaith eu bad nhw yn cael y fraint o gynrychioli ein gwlad ni ac fe ddylen nhw ddangos hynny," meddai. Eisteddfodau bachYn gynharach yn ei araith yr oedd wedi ceryddu aelodau blaenllaw o'r sefydliad eisteddfodol am eu diffyg brwdfrydedd hwythau yngl欧n ag eisteddfodau bychain. "Gaf i ofyn yn garedig y prynhawn 'ma. faint ohonoch chi aelodau'r Orsedd ac aelodau o Gyngor yr Eisteddfod ac aelodau o Lys yr Eisteddfod; faint ohonoch chi fu mewn eisteddfod leol o fewn cyrraedd i'ch cartrefi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf 'ma?" holodd. "Mi wn i fod 'na ffyddloniaid yn eich mysg chi hefyd ond prin iawn ydyn nhw," meddai Gweler HefydCategori
|
About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |