成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


成人快手 成人快手page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Canmol Steddfod lwyddiannus

11 Awst 2007

Pafiliwn

Goresgyn anawsterau yn wyneb haul llygad goleuni

Er i gyfanswm yr ymwelwyr a'r Eisteddfod yr wythnos hon fod yr isaf ers tair blynedd yr oedd yr 糯yl ei hun yn cael ei disgrifio fel llwyddiant ysgubol gan y trefnwyr.

Hynny oherwydd bod hon yn eisteddfod a ymddangosai ar adegau ei bod wedi ei thynghedu i beidio a bod.

Ond diolch i gyfuniad o dywydd braf yng nghanol yr haf gwlypaf ers cyn cof a chefnogaeth leol anhygoel gan gynnwys cefnogaeth Cyngor Sir y Fflint llwyddiant oedd yn tywynnu heddiw.

Er i law trwm ddod yn ystod y cyngerdd olaf nos Sadwrn, fel pe i atgoffa'r trefnwyr pa mor lwcus fu nhw mewn gwirionedd.

Ond methodd hyd yn oed hynny a tharfu ar berfformiad hynod y pianydd Llyr Williams a chwaraeodd, yn 么l ei arfer, heb gopi a'r gynulleidfa ar ei thraed yn cymeradwyo wedyn.

Dydd Gwener orau

Dros yr wythnos 154,944 a ymwelodd 芒'r maes gyda dydd Gwener, diwrnod y Cadeirio, y diwrnod prysuraf o drwch blewyn - 23,941 o gymharu 芒 23,092 ar y dydd Mercher, diwrnod y Fedal Ryddiaith a chroesawu'r Cymry tramor.

Ond yr oedd yna ymhlith y trefnwyr lai o gymharu ffigurau a mwy o ddathlu i'r Eisteddfod hon gael ei chynnal o gwbl.

Wedi'r cyfnod hir dros ddwy flynedd yn 么l o fethu a chael cartref iddi daeth llwyddiant rhyfeddol yr ymgyrch leol i godi arian yn eli ar y briwiau.

Ond hyd yn oed hynny yn cael ei fygwth gan y glawogydd trymion a drodd y maes yn gors o fwd dim ond pythefnos cyn yr agoriad swyddogol a'r trefnwyr yn gwylio gyda gofid y drochfa ar faes y Sioe Frenhinol.

Ac wrth gyfeirio at fygythiad y tywydd dywedodd Aled Lloyd Davies:

'Cychwyn pryderus'

"Fe gawsom ni gychwyn pryderus ac yr oedd gennym ni ddewis mawr i'w wneud - ac o'i roi o mewn termau moel, mwd neu gerrrig oherwydd sut oeddem ni i wybod fod y tywydd yn mynd i wella?

"Ond wrth gwrs, doedd hyn ddim yn dod yn rhad ac am ddim. Mae o wedi costio cruglwyth o bres inni - rhyw 拢60,000 yn ychwanegol o leiaf nad oeddem ni wedi bargenio amdano.

"Fe allwch chi ddychmygu fod hynny wedi bod yn dipyn o sioc inni ar ddechrau'r wythnos ac roeddem ni'n reit bryderus ar y cychwyn."

"Ond ychwanegodd fod pobl Sir y Fflint ac eisteddfodwyr Cymru wedi "ymateb yn rhyfeddol gyda'u traed a chyda'u pocedi".

"Oherwydd mi fedrai'r hyn oeddem ni'n i weld ar y cyfryngau o'r Sioe Amaethyddol fod wedo gwneud i lawer ohonyn nhw dorri eu calon a dweud ; 'Dydw i ddim am olchi'n welingtons a dod a nhw yr holl ffordd i Sir y Fflint '," meddai.

Mwy yn y pafiliwn

Canmolodd hefyd y niferoedd mwy nag arfer aeth i mewn i'r pafiliwn ei hun gan ychwanegu i'r cyngherddau gyda'r nos wneud yn well na'r disgwyl hefyd.

A dywedodd ei fod o'r farn fod mwy nag arfer o bobl ifainc ar y maes eleni.

Talodd deyrnged arbennig i Gyngor Sir y Fflint am ei gefnogaeth ef i'r Eisteddfod. "Fe fu'n gefn mawr inni," meddai ac yn fodd i roi hwb i bwyllgorau codi arian lleol gyda'r rhan fwyaf o'r reini wedi codi mwy na'r nod osodwyd iddynt.

"Codwyd trwy ap锚l leol 拢365,000 - sef mil o bunnau am bob dydd o'r flwyddyn," meddai.

Nid yn unig siriolodd y tywydd ond bu hon hefyd yn eisteddfod rydd o drafferthion trafnidiaeth hefyd.

Pob un yn wahanol

Dywedodd Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Dafydd Whittall, mai'r hyn a wnaeth argraff arno fo oedd fod hon yn eisteddfod lle canolbwyntiwyd ar faterion eisteddfodol yn unig.

"Chawsom ni ddim ein llurgunio a'n tynnu tuag faterion eraill," meddai.

"Un o bethau mawr Steddfod i mi ydi fod pob un yn wahanol wrth iddi gymryd natur y lle mae hi. Mae Eisteddfod Sir Fflint wedi bod yn wych. Mi fydd Eisteddfod Caerdydd yn wych ond yn wahanol a dyna pham y mae pobl yn fodlon dod o flwyddyn i flwyddyn. Maen nhw'n cael ffics wythnosol ond y ffics yna ychydig bach yn wahanol o le i le," meddai.

Dyma'r ffigurau mynediad cyflawn gyda rhai Abertawe y llynedd, Eryri, 2005 a Chasnewydd, 2004, yn dilyn:

  • Nos Wener 1,009 (3,770) (1,451) (1,011)
  • Sadwrn 16,710 (16,565) (15,932) (16,172)
  • Sul 13,848 [Cymanfa 2,072] (14,483) (12,759) (14,046)
  • Llun 18,608 (20,123) (20,720) (18,080)
  • Mawrth 17,463 (18,074) (19,182) (15,142)
  • Mercher 23,092 (20,741) (21,343) (22,438)
  • Iau 21,089 (19,205) (20,737) (18,771)
  • Gwener 23,941 (23,199) (26,307) (24,505)
  • Sadwrn 19,184 (19,277) (19,389) (15,548)
  • CYFANSWM 154,944 (155,437) (157,820)



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy