| |
Gigs: nos Sadwrn olaf
Ffordd wych o gloi'r Steddfod meddai Lowri Johnston a fu'n dilyn y gigs am wythnos i 成人快手 Cymru'r Byd
Ar 么l ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith nos Fercher, band ifanc o Lambed, Java, sy'n agor y noson.
Gwelais y band yma yn chwarae dros flwyddyn yn 么l yng ng诺yl Miri Myrddin, a doeddwn i ddim wedi fy mhlesio ar y pryd.
Ond rhaid dweud iddynt ddatblygu llawer iawn ers hynny nes bod fel band gwahanol y mwynheais eu set yn fawr iawn.
Maent yn egniol a'u caneuon yn roc gwych sy'n ymylu ar elfen o hip-hop ar adegau. Da iawn wir, a llongyfarchiadau iddynt.
Dwi'n edrych ymlaen at glywed mwy gan y band yma, a'u gweld nhw'n datblygu ymhellach.
Fy mhlesio NAR sy'n dilyn. Rhaid cyfaddef nad ydw i'n gwybod llawer am y band yma.
Dyma'r tro cyntaf imi eu gweld yn fyw a chefais fy mhlesio - caneuon da a digon o amrywiaeth.
Mae ganddynt albwm newydd allan o'r enw Narmagedon, sy'n swnio'n gret ac yn un gwerth ei phrynu.
Fersiwn gr锚t Dyma'r ail dro i mi weld Winebago wythnos yma, a set dda iawn arall - reit debyg i nos Fercher.
Unwaith eto, uchafbwynt y set i mi yw Ffarout - eu fersiwn nhw o g芒n Ffa Coffi Pawb.
Dyma'r unig g芒n sydd wir yn aros yn fy nghof - dwi ddim yn si诺r os ydy hyn yn beth da achos nid eu c芒n nhw ydy hi, ond mae'n fersiwn gr锚t ta beth.
Mi fydd y band yn rhyddhau eu EP cyntaf - Hyder Bregus - ar Hydref 16, ac edrychaf ymlaen yn eiddgar at hyn.
EP newydd Noson lansio EP newydd Anweledig - Byw - yw hi heno, ac mae'r band yn hwylus ac yn llawn egni fel arfer! Ceisiwch gael gafael ar gopi o'r ep achos mae'n gr锚t!
Mae'r lle yn llawn (gyda 500 o docynnau wedi eu gwerthu mae'n debyg!) ac mae'n danbaid ar y llawr ddawnsio.
Er hyn, mae pawb dal i ddawnsio'n wyllt ac i fwynhau mas draw! Graffiti Cymraeg oedd yr uchafbwynt i mi dwi'n meddwl - a Sosban Fach wrth gwrs! Ceri C yn llawn egni fel arfer ac yn ein diddanu am y set gyfan. Gwych!
Ffordd gr锚t o orffen yr Eisteddfod, diolch i Gymdeithas yr Iaith am y gigs gwych trwy gydol yr wythnos!
|
|
|
|