| |
Lysh yng Nghasnewydd
Drama am beryglon alchoholiaeth yw drama gomisiwn Eisteddfod Casnewydd.
A go brin bod angen dweud mai Aled Jones Williams yw'r awdur - gwr sydd wedi dioddef fwy nag unwaith oherwydd melltith y botel.
Bydd Lysh yn cael ei pherfformio gan gwmni Bara Caws gyda Maldwyn John, Betsan Llwyd, Rhodri Meilyr a Phil Reed yn cymryd rhan a Valmai Jones yn cyfarwyddo.
"Dyn yn cymryd drinc - drinc yn cymryd y dyn," meddai deunydd cyhoeddusrwydd y cwmni am Lysh sy'n ddrama gan awdur sydd ond newydd gael yr union brofiad hwnnw yn dilyn cael ei Goroni yn Eisteddfod Tyddewi ddwy flynedd yn 么l.
Tan y llynedd bu Aled Jones Williams yn rhydd o alcohol am bymtheng mlynedd ond pan drodd yn 么l unwaith eto at y botel bu'n rhaid iddo gael triniaeth mewn canolfan breswyl arbennig yn yr Alban o'r enw Castle Craig.
Nid yw ond newydd ail afael yn ei waith yn llawn amser, yn ficer ym Mhorthmadog, yn dilyn y driniaeth honno.
Wrth gael ei holi ar y rhaglen Manylu ar 成人快手 Radio Cymru ddechrau Gorffennaf, dywedodd ei fod yn bryderus am y cynnydd yn yr alcohol sy'n cael ei yfed a'r problemau sy'n dod yn ei sgil yn enwedig ymhlith bobl ifainc.
"Dwi'n meddwl bod angen dysgu pobl sut i yfed a sut i yfed yn gymedrol. Mae alcohol yma ac yma i aros ond mae'n rhywbeth y dylech chi ei fwynhau ond hefyd ei barchu ac i ryw raddau ei ofni," meddai ar y rhaglen.Yn ogystal 芒 dioddef o alcoholiaeth mae Aled Jones Williams hefyd wedi dadansoddi'r cyflwr a'r modd y mae'n effeithio ar ddioddefwyr.
"Hanfod gorddibyniaeth - addiction - ydy gwadu'r peth. Tydio ddim yn bod, ddywed yr adict o hyd. Felly y mae celwydd a gwadu yn rhan o'r afiechyd neu'r cyflwr.
"Felly pan fo nifer yn gofyn i mi pam fy mod i'n siarad yn gyhoeddus am fy alcoholiaeth - yr ateb yn syml ydi: tro 'ma dwi'n dweud y gwir. Dyna pam y cytunais i wneud dyddiadur radio ar Manylu," meddai.
"Ac mi oedd o'n brofiad - yn gatharsis. Medru siarad yn fyrfyfyr heb orfeddwl. Ac mi oedd mynd yn 么l i Castle Craig yn brofiad emosiynol ond hanfodol a chofnodi fel y gwnes i fy nheimladau wrth fod yna. "Afiechyd y teimladau ydy alcoholiaeth yn y b么n, felly mi oedd s么n amdano fo yn fy ngorfodi fi i enwi y teimladau."
Ychwanegodd y gallai'r ffaith fod rhywun fel ef gyda phrofiad personol yn trafod yn agored helpu eraill sy'n dioddef:
"Mewn gorddibyniaeth ryda chi'n meddwl: Fi ydy'r unig un ond yn y rhannu mae'r gwella," meddai.
Bydd Lysh yn cael ei pherfformio am wyth o'r gloch yn Theatr y Dolwen, Casnewydd o Awst 2 tan Awst 6.
Wedyn bydd yn mynd ar daith o amgylch Cymru rhwng Medi 7 a Medi 23.
i glywed sgwrs gydag Aled Jones Williams.
|
|
|
|