| |
Gwent - mewn ffaith
Ffeithiau difyr am fro'r Eisteddfod.
Gwent yw 'rrhan o Gymru lle mae'r dewis gorau o olion Rhufeinig i'w gweld.
Bro amaethyddol oedd Gwent tan y chwyldro diwydiannol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. O 1801 ymlaen dyblodd poblogaeth y fro bob deugain mlynedd gan gynyddu o 46,000 i 395,000 yn 1911. Yr oedd y boblogaeth ar ei huchaf yn 1925, 472,000
Heddiw yr ydym yn ystyried Gwent yn ardal Saesneg ond yng nghyfnod beirdd yr uchelwyr, yr oedd beirdd fel Dafydd ap Gwilym a Guto'r Glyn yn cael nawdd gan fyddigion y fro.
Dydi'r syniad o Eisteddfod ddim yn beth dieithr yng Ngwent ychwaith a chysylltir yr ardal 芒 Chymreigyddion y Fenni, Gwenynen Gwent a Charnhuanawc a oedd yn hyrwyddwyr eisteddfodol mawr. Daeth y traddodiad steddfodol cyfoethog hwn i ben tua chanol yr 1800.
Byddai Gwenynen Gwent, Arglwyddes Llanofer, yn mynnu nid yn unig bod ei gweision a'i morynion yn medru Cymraeg ond yn gwisgo brethyn Cymreig ac yr oedd ganddi delynor.
Y tro cyntaf i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld 芒 Chasnewydd oedd yn 1897 ac yno y derbyniwyd Lloyd-George yn aelod o'r Orsedd. Gweinidog o Aberd芒r, J T Job, enillodd y gadair ac enillwyd y goron gan Fafonwy Davies o Flaenafon, gweinidog arall.
Pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol 芒 Glyn Ebwy yn 1958 bu dadlau am y rheol Gymraeg gydag Aneurin Bevan yn annerch yn Saesneg o'r llwyfan.
Ymwelodd cymaint o bobl ag Eisteddfod 1958 bu'n rhaid ychwanegu estyniad at y pafiliwn. Yn y Gymanfa Ganu yr oedd Paul Robeson.
Y tro diwethaf y bu'r Eisteddfod yng Nghasnewydd oedd 1988 gydag Elwyn Edwards, sy'n beirniadu eleni, yn ennill y gadair a T. James Jones y goron.
Mae cloc mawr sy'n datgymalu ar ben bob awr yn Sgw芒r John Frost yng Nghasnewydd. Cludwyd y cloc yno wedi iddo fod ar waith yng Ngwyl Erddi Glynebwy, 1992.
O bosib mai'r enwocaf o feibion Casnewydd yw John Frost, arweinydd y siartwyr a anwyd yn nghafarn y Royal Oak a safai yn Thomas Street.
Hyd yn oed heddiw gellir dilyn llwybr gorymdaith y Siartwyr, Tachwedd 1839. Y tu allan i Westy'r Westgate taniodd milwyr arnyn nhw gan ladd ugain yn y fan a'r lle.
Dedfyrdwyd John Frost, a fu'n faer y dref, i'w grogi a'i chwarteru am deyrnfradwriaeth.
Y symbol mwyaf cyfarwydd o'r dref ydi'r Bont Drawsgludo a gynlluniwyd gan beiriannydd Ffrengig a'i hagor yn 1906. Mae ei llwyfan 180 troedfedd uwchben y dwr.
Ty Tredegar ydi'r plasty mwyaf yn yr ardal ac yn y parc hyfryd o'i gwmpas y bydd Maes yr Eisteddfod. Dyma gartref y Morganiaid, teulu diddorol a dylanwadol yng Ngwent y bu farw'r olaf ohonyn nhw yn y pumdegau.
Yr enwocaf o'r teulu oedd Ifor, mab Angharad, merch Arglwydd Tredegar ddechrau'r 14 ganrif a Llywelyn ap Ifor un o arglwyddi Sir Gaerfyrddin. Mae Ifor yn fwy adnabyddus fel Ifor Hael sy'n gael ei goffau yn y gerdd, Llys Ifor Hael y mae ei olion yng Ngwernyclepa ger Basaleg.
Aelod arall o'r teulu, trwy briodas oedd y m么rleidr Harri Morgan.
Yn ystod 1909 byddai Syr Godfrey Charles Morgan yn dod fil o bunnau yn gyfoethocach bob dydd!.
Cynnal partion gwyllt oedd hynodrwydd Evan Morgan gyda changarws yn bocsio ac enwogion fel Charlie Chaplin, Caruso, Nancy Cunard, Evelyn Waugh, H. G. Wells, Agustus John ac Anthony Blunt yn bresennol.
O Gasnewyddy daeth W H Davies y bardd a gyfansoddodd linellau gyda mwyaf cyfarwydd barddoniaeth Saesneg. What is this life if, full of care, We have no time to stand ans stare. Ef hefyd oedd awdur y gyfrol Autobiography of a Super Tramp. Mudodd i'r Unol Daleithiau pan yn 22 oed lle collodd ei goes wrth neidio oddi ar dren yn yr oedd yn dwyn lifft arni. Wedi dychwelyd adref teithiodd y wlad ar ei goes bren. Yn y Cotswold y bu farw gan ddweud na theimlai'n gwbl gartrefol yng Nghymru oherwydd na allai siarad Cymraeg..
Yn y pumdegau yr oedd Plas Tredegar yn ysgol breswyl babyddol nes ei brynu gan y cyngor lleol gyda dyfodiad addysg gyfun. Ers hynny mae hawl i fynd a dod i'r parc am ddim onibai fod rhyw ddigwyddiad fel yr Eisteddfod yno.
Ym Mharc Tredegar mae cofeb i hen geffyl rhyfel, Syr Briggs, a farchogwyd gan un o'r Morganiaid ym mrwydr Balaclafa.
|
|
|
|