| |
Dathlu cyfraniad John Gwil
Ar ganmlwyddiant ei eni bydd cyfraniad un o ddramodwyr mwyaf dylanwadol Cymru'r ugeinfed ganrif yn cael ei ddathlu yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd.
Cafodd y Dr John Gwilym Jones ei eni a'i fagu yn Y Groeslon ger Caernarfon ac yno y bu byw y rhan fwyaf o'i oes hyd at ei farw ym 1988 yn 84 oed.
Roedd hefyd yn gynhyrchydd, yn feirniaid llenyddol ac yn ysgolhaig o fri.
Bu ei stamp yn drwm ar genedlaethau o ysgrifenwyr, beirdd, academyddion ac actorion yn enwedig yn ystod ei gyfnod yn ddarlithydd ynm Nhrifysgol Cymru ym Mangor.
Bydd tair o ddram芒u John Gwilym Jones yn sail i gyfres o berfformiadau a gweithdai gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Theatr y Maes yn yr Eisteddfod.
"Mae hi'n gywir ac yn briodol cofio cyfraniad amhrisiadwy John Gwilym Jones, yn enwedig i ddatblygiad y ddrama Gymraeg, ar ben-blwydd ei eni," meddai Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts.
"Er iddo ragori mewn dulliau eraill o lenydda ystyrir dram芒u John Gwilym Jones yn bencampwriethiau," ychwanegodd.
Bob dydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod bydd pedwar o actorion craidd y Theatr Genedlaethol yn llwyfannu perfformiadau tri chwarter awr amser cinio neu yn ystod y prynhawn.
Bydd Ac Eto Nid John Gwil yn cynnwys dwy o'i ddram芒u byrion, Un Briodas a Dwy Ystafell 芒 rhan o Ac Eto Nid Myfi, ei ddadansoddiad dramatig o berthynas dyn a'i anian sylfaenol.
Perfformir Un Briodas am 12.30 ddydd Llun, Awst 2, ac am 2.30 o'r gloch, y dydd Iau, Awst 5.
Perfformir Dwy Ystafell am hanner dydd, ddydd Mawrth, Awst 3, ac am 4.00 ddydd Gwener, Awst 6.
Bydd detholiad o Ac Eto Nid Myfi am 12.30 ddydd Mercher, Awst 4, ac am hanner dydd, y Sadwrn, Awst 7.
Cyfarwyddir y cynhyrchiad gan Cefin Roberts a Chyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts.
Er mai lenyddiaeth Gymraeg y bu cyfraniad a dylanwad mawr John Gwilym yn y Saesneg y graddiodd ym Mangor.
Bu'n athro wedyn yn Llundain ac ym Mhwllheli cyn cael ei benodi gynhyrchydd drama gyda'r 成人快手.
Yn ddiweddarach ymunodd ag Adran y Gymraeg yn ei hen goleg yn ddarlithydd ac yno bu'n meithrin cenedlaethau o fyfyrwyr aeth yn eu blaenau i fod yn llenorion, yn ddramodwyr, actorion, ac yn gyfarwyddwyr llwyddiannus.
|
|
|
|