Adolygiad: Ar y ffin
Fe gafwyd gornest rhwng pedwar o feirdd dinesig Cymru a thri o rapwyr blin y s卯n roc Gymraeg ar nos Fercher y Steddfod.
Roedd noson Ar y Ffin wedi ei threfnu gan yr Academi a'i hysbysebu fel noson i weld 'beirdd yn ymrafael ag artistiaid hip-hop'. Camwch i law chwith y llwyfan MC Saizmundo, MC Sleifar ac Aron Elias, camwch i'ch seddi ar y llaw dde, Emyr Lewis, Grahame Davies, Elinor Wyn Reynolds a Lisa Tiplady.Roedd y gynulleidfa'n disgwyl gornest galed - roedden nhw eisiau gweld gwaed geiriol ar y carped, dyrnau dychan yn cael eu taflu, sgarmes syniadol rhwng y beirdd 'sidet' (disgrifiad Emyr Lewis ei hun) ac angry young men y rantio a'r rhegi.
Chafwyd mo'r ymryson byr-fyfyr rhwng y ddwy grefft 'roedd llawer wedi ei ddisgwyl ond roedd 'na densiwn cystadleuol rhwng y ddau griw, fymryn yn nerfus, ar y llwyfan.
MC Saizmundo daflodd y dwrn cyntaf drwy fachu'r meic a gorchymyn i'r beirdd eistedd i lawr yn barod i wrando arno'n bwrw ei lid yn erbyn y byd i guriad y b卯t. Cymerodd ei sweips arferol at y cyfryngis arferol ac roedd yn sicr yn edrych yn flin, ond er gwaethaf ei haeru a'i herio daeth Emyr Lewis yn 么l efo reflex action effeithiol yn reit gynnar yn y frwydr gan dynnu rhywfaint o'r gwynt cychwynnol o hwyliau'r hip-hopwyr.
Wedi i Saizmundo orffen ei g芒n, cododd y Prifardd at y meic a chyhoeddi mewn llais pwyllog: "Wel, roedd 'na rywbeth reit neis am y g芒n yna yndoedd? Chwarae teg iti ngwash i!".
A dyna osod y cywair am weddill y noson gyda'r beirdd a'r rapwyr yn cyflwyno eu gwaith am yn ail ar lwyfan Clwb Whiteheads, Casnewydd. Galwodd Sleifar y beirdd yn depressing a chyflwynodd her i Grahame Davies godi ar ei draed i rapio, ond cadwodd y beirdd eu pennau drwy daflu sylwadau nawddoglyd at y rapwyr, fel egluro ystyr y geiriau 'llyfr' a 'chynghanedd' iddyn nhw.
Doedd dim amheuaeth nad oedd y beirdd yn teimlo dan fygythiad gan y tri young pretender ymosodol, oedd wedi dod i chwilio am ffeit. Roedden nhw wedi dod i'r frwydr gyda'u harfau yn barod i herio'r beirdd a'u statws uwch o fewn y diwylliant Cymraeg traddodiadol. Ar y dechrau roedd yn ymddangos bod egni ansefydlog y rapwyr yn mynd i fynd 芒'r dydd, ond cadwodd y beirdd eu c诺l - gan orfod gweithio'n galetach i ennill ffafr y dorf heb gimics eu gwrthwynebwyr.
Fe gafwyd hiwmor a llinellau cofiadwy gan y ddwy ochr: rant Sleifar yn erbyn cyfforddusrwydd Cymry'r Brifddinas sy'n 'darllen Barddas tra'n bwyta Tapas' a'i fygythiad i fynd i Bontcanna i losgi 'Cameo man' ar un llaw, a llinellau mwy myfyrgar, ond yr un mor fachog, y beirdd nad oedd ganddyn nhw ofn gwneud hwyl am ben eu delwedd mwy traddodiadol ddosbarth canol.
Ond er gwaethaf y gwahaniaethau ymddangosiadol rhwng y ddwy garfan yr un oedd eu testunau ar y cyfan - y Fro Gymraeg, euogrwydd o fyw yng Nghaerdydd, y de a'r gogledd, y cyfryngau, y Cynulliad, cyfforddusrwydd bywyd dosbarth canol, ac yn y blaen.
Daeth yn amlwg fod y ffin rhwng y ddwy grefft, fel yr awgryma teitl y noson, yn denau iawn. Y farn gyffredinol oedd mai'r arddull yn unig oedd yn wahanol rhyngddyn nhw mewn gwirionedd. Pe bai rhai o'r beirdd wedi adrodd eu gwaith i f卯t ac wedi magu ychydig o 'agwedd', fydden nhw ddim mor wahanol 芒 hynny i'r rapwyr (gorau oll pe baen nhw'n gwisgo cap p锚l-fasged o chwith am eu pennau hefyd). Ac, heb drimings y rhegi, y b卯ts a'r rantio, fyddai gwaith rhai o'r rapwyr ddim yn hollol allan o'i le mewn noson gaws a gwin o ddarllen barddoniaeth.
Roedd y farn am bwy wnaeth 'ennill' yn gymysg - rhai'n credu bod herio hyderus y rapwyr wedi chwalu ceidwadaeth y beirdd, eraill yn credu bod cynildeb a hunan-reolaeth y beirdd wedi cario'r dydd yn erbyn act mwy un-dimensiwn ymfflamychol y rapwyr. Y farn, ar y cyfan, oedd bod y rapwyr yn fwy adloniannol ond y beirdd efallai'n aeddfetach yn eu mynegiant.
Roedd y diolch am hyn yn bennaf i Emyr Lewis oedd yn feistrolgar yn ei put downs i lifeiriant angstaidd y rapwyr: "Mae 'na rywbeth i'w ddweud am gynildeb yn does?" meddai 芒'i dafod yn ei foch ar 么l un perfformiad gan Aron. Ac roedd ei gerdd ddychan i rant y rapwyr a'i gerddi, yr un mor ddychannol, i'r bardd dwys traddodiadol - Ynof a Marwnad Galar - hefyd yn feistrolgar.
Efallai mai ganddo fo y cafwyd y clyfrwch a'r hiwmor cynnil ond roedd pawb yn unfarn mai gan Sleifar y cafwyd y t芒n a gadwodd y noson yn fyw - y ddau yma, yn eu harddulliau hollol wahanol, oedd s锚r y noson yn 么l llawer o'r gynulleidfa. Wedi dweud hynny, cafodd pob un o'r artistiaid ymateb da gan y gynulleidfa, oedd wrth eu boddau 芒'r sioe o wrthgyferbyniad.
Oedd, roedd 'na elfen o set-up efo'r Academi wedi dewis artistiaid y noson yn fwriadol i sicrhau'r gwrthgyferbyniad mwyaf eithafol rhwng y ddau griw. Ond ar dystiolaeth y trafod, y dyfynnu a'r buzz yn y gynulleidfa ar ddiwedd y noson, roedd yn llwyddiant ysgubol - noson mwya roc a r么l y Steddfod!
Mwy o'r un peth os gwelwch yn dda!